Awtistiaeth, Syndrom Asperger a Chamddefnyddio Sylweddau

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Staff gwaith cymdeithasol yn y Tîm Camddefnyddio Sylweddau. Bydd lleoedd dros ben yn cael eu cynnig i staff yn y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, y Timau Cymunedol Anableddau Dysgu, ac yn y Gwasanaeth Anableddau 0-25.

Beth yw'r amcanion?

Datblygu gwybodaeth cyfranogwyr am y cydberthynas rhwng awtistiaeth, Syndrom Asperger a chamddefnyddio sylweddau. Bydd y rhaglen yn cynnwys y canlynol:

  • Sesiwn ddiweddaru am awtistiaeth a Syndrom Asperger
  • Strategaethau cyfathrebu effeithiol
  • Awtistiaeth/Syndrom Asperger a'r perygl o gamddefnyddio sylweddau
  • Effaith camddefnyddio sylweddau ar bobl sydd ag awtistiaeth/Syndrom Asperger
  • Awtistiaeth/Syndrom Asperger - iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau
  • Triniaethau
  • Strategaethau i reoli camddefnyddio sylweddau ymysg unigolion ag awtistiaeth/Syndrom Asperger

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yn cynorthwyo gweithwyr cymdeithasol i ymarfer yn effeithiol wrth gefnogi pobl ag awtistiaeth/Syndrom Asperger sydd hefyd yn camddefnyddio sylweddau

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Tâl

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.