Awtistiaeth Uwch (Gofal Cymdeithasol)

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Pob aelod o staff a allai ddod i gysylltiad â diagnosis o Awtistiaeth.

Beth yw'r amcanion?

Nod yr hyfforddiant hwn yw datblygu gwell dealltwriaeth o brofiadau ac anghenion pobl awtistig a mwy o wybodaeth am ffyrdd o gynnig cymorth effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Y problemau penodol sy'n wynebu pobl awtistig o ran gwneud synnwyr o'r byd o'u cwmpas.
  • Anawsterau o ran meddwl yn hyblyg ac yn ddychmygus, ac effaith hyn ar bobl awtistig
  • Y swyddogaethau a'r ystyron i bobl awtistig o ran ymddygiad a ystyrir yn "heriol”

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yr hyfforddiant yn cynnig y wybodaeth sydd ei hangen ar y cyfranogwyr i gynnig cymorth mwy effeithiol i bobl ag awtistiaeth.

Dull darparu:

Ystafell Ddosbarth

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.