Deall a gweithredu'r Trefniadau Diogelu Rhyddid

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Rheolwyr tîm ac Uwch-ymarferwyr o'r Timau Adnoddau Cymunedol, Timau Cymunedol Anableddau Dysgu, Timau Cymunedol Anableddau Dysgu, y Tîm Pontio a'r Tîm Camddefnyddio Sylweddau. Ceisir ceisiadau hefyd gan Reolwyr Tîm a Rheolwyr Tîm Cynorthwyol mewn Timau Gwasanaethau Plant perthnasol.

Beth yw'r amcanion?

Mae Deddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019 yn gosod Trefniadau Diogelu Rhyddid yn lle'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid. Mae Trefniadau Diogelu Rhyddid yn sefydlu fframwaith ar gyfer awdurdodi trefniadau sy'n galluogi gofal a thriniaeth sy'n arwain at golli rhyddid pan nad oes gan y person y galluedd i gydsynio i'r trefniadau. Bydd Trefniadau Diogelu Rhyddid, yn wahanol i'r Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid, yn berthnasol pan fydd person yn cyrraedd 16 oed. Ar hyn o bryd, bwriedir gweithredu'r Trefniadau Diogelu Rhyddid yn llawn ym mis Ebill 2022.

Bydd y cwrs yn rhoi sylw i'r canlynol.

  • Beth yw ystyr amddifadu o ryddid
  • Pwy yw'r corff sy'n gyfrifol a beth yw ei rôl
  • Y trefniadau arbennig ar gyfer cartrefi gofal
  • Adolygiadau cyn awdurdodi
  • Diben a rôl Gweithiwr Proffesiynol Galluedd Meddyliol Cymeradwy, yr Eiriolwr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol a'r Person Priodol
  • Y cysylltiad rhwng Trefniadau Diogelu Rhyddid a'r Ddeddf Iechyd Meddwl
  • Camau sydd eu hangen i baratoi ar gyfer y broses o newid i Drefniadau Diogelu Rhyddid

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ddatblygu gwell dealltwriaeth o Drefniadau Diogelu Rhyddid, deall sut yr effeithir ar eu gweithle a nodi pa gamau sydd eu hangen i reoli'r newidiadau.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

Cwrs chwe awr wedi'i gyflwyno dros ddwy sesiwn tair awr o hyd

Cost:

Dim Tâl

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.