Deallusrwydd Emosiynol a Gwytnwch Proffesiynol

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Cymdeithasol o fewn Gwasanaethau Integredig

Beth yw'r amcanion?

Bydd y cwrs hwn yn darparu'r deilliannau dysgu canlynol i gyfranogwyr:

  • Deall beth mae Deallusrwydd Emosiynol a Gwytnwch Proffesiynol yn ei olygu.
  • Deall pwysigrwydd ffiniau proffesiynol, sut i'w datblygu, cynnal a chadw a'u defnyddio ar gyfer ymarfer effeithiol.
  • Deall sut i wella sgiliau gwytnwch personol i fynd i'r afael â straen a phryder.
  • Gallu rheoli emosiynau wrth wneud penderfyniadau anodd yng nghanol cyfnodau o alw mawr.
  • Meithrin agwedd realistig ac optimistaidd yn ystod cyfnodau o adfyd ac ansicrwydd.
  • Meithrin perthnasau cefnogol a chryf gyda chydweithwyr, teuluoedd a chleientiaid.
  • Deall empathi proffesiynol yn well.
  • Gallu defnyddio sgiliau gwytnwch i gyflwyno'r negeseuon cywir ar yr adeg cywir gan deimlo'n hyderus i gael trafodaethau anodd.
  • Dangos hyblygrwydd a'r gallu i fod mewn rheolaeth wrth wynebu ansicrwydd.
  • Deall arddull dysgu eich hun a phrofiadau blaenorol o oruchwyliaeth a sut mae'r profiadau hyn yn effeithio ar oruchwyliaeth presennol, dysgu mewn ymarfer ac anghenion dysgu parhaus proffesiynnol ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd y rhaglen undydd hon yn galluogi gweithwyr proffesiynol i archwilio gwytnwch emosiynol a deall ac edrych ar sut i reoli pwysau sefydliadol, materion systemig a gwahaniaethau rhwng gweithwyr proffesiynol mewn modd diogel ac effeithiol gan gynnwys ystyried prosesau rheoli amser, goruchwylio proffesiynol a sefydliadol.Bydd cyfranogwyr yn cael eu cefnogi i gydnabod pryd y gall eu credoau, gwerthoedd, profiadau ac emosiynau eu hunain effeithio ar eu harfer a sut i reoli hyn trwy ddefnyddio ffiniau da, myfyrio'n feirniadol, hunanreolaeth, cefnogaeth gan gymheiriaid a goruchwyliaeth.Bydd cyfle i gydnabod effaith y pandemig a'r newidiadau i ffyrdd o weithio ar hyder a gallu, yn bersonol, ac yn y gweithle ac archwilio sut i ddefnyddio technegau gwahanol i gynorthwyo ymarfer mewn modd diogel ac effeithiol gan ddiogelu lles personol.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.