Diweddariad Cyfreithiol ynghylch y Ddeddf Galluedd Meddyliol (gan gynnwys Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid – DoLS)

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Rheolwyr Tîm a staff gwaith cymdeithasol nad ydynt yn aseswyr Lles Pennaf. Rheolwyr a dirprwyon o'r awdurdod lleol ac o blith y rhai sy’n darparu gofal cartref, dydd, a phreswyl annibynnol.

Beth yw'r amcanion?

Rhoi golwg gyffredinol i'r cyfranogwyr ar y sefyllfa bresennol o ran y Ddeddf Galluedd Meddyliol a sut y gallai hyn effeithio ar arferion gofal cymdeithasol.

Yn benodol, bydd y cwrs yn darparu:

  • Sesiwn diweddaru ynghylch egwyddorion a darpariaethau'r Ddeddf gan gynnwys Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS).
  • Gwybodaeth am gyfraith achosion ddiweddar a chyfle i edrych ar oblygiadau hynny i arferion gwaith.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yn datblygu gwybodaeth y staff a bydd o gymorth o ran arferion sy'n bodloni gofynion y gyfraith.

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Tâl

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.