Hunan-niweidio

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Staff gwaith cymdeithasol sy'n gweithio yn y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol. Llefydd sbâr i gael eu cynnig i weithwyr cymdeithasol mewn timau eraill sy'n cynnig gwasanaeth i oedolion.

Beth yw'r amcanion?

Nod y cwrs hwn yw cynyddu hyder wrth ymgysylltu ag unigolion sy'n hunan-niweidio. Nod penodol y cwrs yw mynd i'r afael â'r canlynol:

  • Datblygu dealltwriaeth am hunan-niweidio a myfyrio ar yr heriau y mae'r ymddygiad yn eu cyflwyno i staff.
  • Ymatebion defnyddiol, gan gynnwys canllawiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Y gwahaniaeth rhwng ymddygiad hunan-niweidio a meddwl hunanladdol yn ogystal â'r cysylltiadau â risgiau posibl i rai unigolion.

 

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen ar gyfranogwyr i'w cefnogi nhw i ymateb yn briodol i unigolion sy'n hunan-niweidio.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

3 Awr

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.