Niwroamrywiaeth a'r Ddeddf Iechyd Meddwl

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Mae Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy yn cael eu cyflogi gan Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Beth yw'r amcanion?

Nod yr hyfforddiant hwn yw datblygu gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas ag asesu unigolion sydd â niwroamrywiaeth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Yn benodol, bydd yn rhoi sylw i'r canlynol:

  • Ystyr niwroamrywiaeth, gan gynnwys awtistiaeth ac ADHD, ac a ydynt yn anhwylderau meddyliol.
  • Y fframwaith deddfwriaethol, gan gynnwys y Ddeddf Iechyd Meddwl a'i chysylltiad â'r Ddeddf Galluedd Meddyliol, y Deddf Hawliau Dynol a'r Deddf Cydraddoldeb.
  • Cyflwyniadau cyffredin unigolion sy'n niwroamrywiol
  • Yr arfer gorau wrth gefnogi pobl sy'n niwroamrywiol
  • Asesu risg a gwneud penderfyniadau priodol

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yr hyfforddiant yn cefnogi ymarfer cyfranogwyr wrth wneud asesiadau o'r Ddeddf Iechyd Meddwl ar unigolion sy'n niwroamrywiol.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Dydd

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.