Sesiwn Briffio ynghylch Trefniadau Diogelu rhag colli Rhyddid ar gyfer Awdurdodau sy’n Rheoli

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Rheolwyr a Dirprwy Reolwyr Cartrefi Gofal Cofrestredig

Beth yw'r amcanion?

Mae’r Ddeddf Diwigio Galluedd Meddyliol wedi arwain at y bwriad i ad-drefnu’r Trefniadau Diogelu
rhag colli Rhyddid gan y Trefniadau Diogelu Rhyddid. Fe fydd y sesiwn hyn yn trafod y ddwy
gyfyndrefn

  • Bydd yn cynnig arweiniad ynghylch y polisïau a’r gweithdrefnau lleol presennol y mae angen i
    reolwyr cofrestredig eu dilyn wrth wneud cais am gofrestriad Trefniadau Diogelu rhag colli
    Rhyddid.
  • Bydd yn cynnig arweiniad ynghylch cwblhau’r ddogfennaeth berthnasol.
  • Fe fydd yn cynnig gwybodaeth am yr Trefniadau Diogelu Rhyddid newydd ag yn trafod
    goblygiadau ar gyfer ymarfer yn y dyfodol

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yr hyfforddiant hwn yn helpu i sicrhau bod Rheolwyr a Dirprwy Reolwyr Cartrefi Gofal
Cofrestredig yn cydymffurfio â’r gyfraith a threfniadau lleol sy’n ymwneud â diogelu rhag colli rhyddid.

Hyd y cwrs:

Hanner Diwrnod

Cost:

Dim Tâl

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.