Y Cysylltiad rhwng y Ddeddf Galluedd Meddyliol a'r Ddeddf Iechyd Meddwl

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy a gyflogir gan Sir Gaerfyrddin a Cheredigion

Beth yw'r amcanion?

Mae'r cwrs hwn yn edrych ar y cysylltiad rhwng y Ddeddf Iechyd Meddwl a'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yng Nghymru. Mae'n ystyried sut mae'r ddwy Ddeddf yn ymwneud â'i gilydd ac yn gysylltiedig â'i gilydd a'r effaith ar ymarfer Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy.
Ei nod yw:

  • Edrych ar reolau a gweithdrefnau allweddol y Ddeddf Galluedd Meddyliol a sut mae hyn yn gysylltiedig â'r Ddeddf Iechyd Meddwl.
  • Esbonio effaith defnyddio'r Ddeddf Galluedd Meddylion ar arferion gwaith.
  • Dangos y sgiliau sydd eu hangen i asesu pa Ddeddf sy'n berthnasol ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd.
  • Dangos y rhyngweithio rhwng y ddwy Ddeddf wedi'i gymhwyso'n ymarferol.
  • Ystyried y newidiadau sydd eu hangen o dan y Trefniadau Amddiffyn Rhyddid a'u heffaith ar ymarfer Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yn cefnogi Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy i ystyried a defnyddio'r fframwaith cyfreithiol mwyaf priodol wrth gynnal asesiadau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

6 awr dros ddau ddyddiad

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.