Y Ddeddf Galluedd Meddyliol – Y Budd Pennaf

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Rheolwyr Timau, Gweithwyr Cymdeithasol a Chynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol. Rheolwyr Cartrefi Gofal Cofrestredig o’r awdurdod lleol a’r sector annibynnol. Mae’n ofynnol bod pop ymgeisydd wedi derbyn hyfforddiant priodol am Y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn y gorffennol.

Beth yw'r amcanion?

Diweddaru gwybodaeth y staff o’r fframwaith cyfreithiol sy’n ymwneud â’r budd pennaf dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Hysbysu’r staff ynghylch Canllawiau’r Adran ar Benderfynu ynghylch y Budd Pennaf. Byddai hyn yn cynnwys:

  • Pwy all wneud penderfyniadau
  • Y ffactorau i’w hystyried wrth benderfynu ynghylch y budd pennaf
  • Gwneud penderfyniadau ynghylch materion cymhleth
  • Cynadleddau ar y budd pennaf
  • Eiriolaeth

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd mynychu’r hyfforddiant hwn yn caniatáu i’r staff ddatblygu dealltwriaeth ehangach o broses asesu’r budd pennaf dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Dydd

Cost:

Dim Tâl

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.