Ymarfer Ymwybodol o Drawma

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Bydd staff gwaith cymdeithasol sydd wedi'u lleoli o fewn Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, bydd ceisiadau'n cael eu derbyn gan weithwyr cymdeithasol sydd wedi'u lleoli mewn timau eraill sy'n cynnig gwasanaethau i oedolion a'u cadw ar restr wrth gefn tan ar ôl y dyddiad cau.

Beth yw'r amcanion?

Nod y cwrs hyfforddi yw gwella dealltwriaeth ymarferwyr o effaith trawma a chynnig offer i'w defnyddio'n ymarferol. Mae'n cynnig y canlynol yn benodol:

  • Gwybodaeth am effaith trawma ar iechyd a llesiant emosiynol a chymdeithasol.
  • Archwilio'r negeseuon allweddol, y data, a'r dystiolaeth sy'n sail i ymarfer ymwybodol o drawma
  • Archwilio'r gwerthoedd, yr egwyddorion a'r modelau allweddol sy'n sail i ymarfer ymwybodol o drawma
  • Cyfleoedd i ddefnyddio offer ymwybodol o drawma
  • Cyfleoedd i fyfyrio'n feirniadol ar ymarfer a nodi datblygiadau sy'n cefnogi ymarfer ymwybodol o drawma.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yr hyfforddiant yn cefnogi cyfranogwyr i gynnig cymorth sensitif ac effeithiol i unigolion sy'n profi iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â thrawma a materion llesiant.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Dydd

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.