Ymwybyddiaeth Cronni

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Cymdeithasol mewn Tîmoedd Iechyd Meddwl

Beth yw'r amcanion?

  • I feithrin dealltwriaeth o gronni ac ymgysylltu cadarnhaol
  • I ddysgu dulliau cefnogi
  • I ddatblygu sgiliau ar gyfer gweithio gydag unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau gan sefydlu ymarfer gorau

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd y cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ddeall yn llawn sut gall cronni effeithio ar bobl. Gan rymuso'r dysgwyr i gydymdeimlo â phobl sy'n dioddef o Anhwylder Cronni wrth archwilio ffyrdd o ddatblygu sgiliau i gefnogi unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaethau i helpu'u hunain. Bydd y cwrs yn archwilio'r cymhlethdodau cronni a sut i ymgorffori dull sy'n seiliedig ar gryfder.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.