Canllawiau Gweithio Hybrid Mehefin 2024

10. Iechyd, diogelwch a llesiant

Ni ddylai risgiau i'ch iechyd, eich diogelwch a'ch llesiant gynyddu drwy weithio hybrid. Dylai'r un cyfrifoldebau a threfniadau fod ar waith o hyd ond efallai y bydd angen eu haddasu i sicrhau eu bod yn bodloni'r holl safonau gofynnol ac yn rhoi cymorth perthnasol i chi. Dyma rai o'r agweddau y mae angen eu trafod a'u hystyried wrth weithio'n hybrid:

  • Trefniadau gweithio ar eich pen eich hun a diogelwch personol – trafodwch sut y byddwch yn cadw mewn cysylltiad, beth yw'r trefniadau gweithio ar eich pen eich hun, os oes unrhyw fathau o waith y dylech osgoi ei wneud wrth weithio'n hybrid a beth yw'r trefniadau brys.
  • Gosod gweithfan yn ddiogel ac asesiadau (a elwir yn Hunanasesiadau Cyfarpar Sgrin Arddangos) - dylid ystyried gofynion unigol; dylid cynnal asesiadau gweithfan yn rheolaidd ac os oes gwahaniaethau sylweddol o ran gosod gweithfan, efallai y bydd angen gwneud hynny ar gyfer nifer o leoliadau gwaith. Dylid nodi unrhyw faterion neu offer sydd eu hangen i weithio'n ddiogel drwy'r asesiad a darparu'r offer hynny ar eich cyfer, lle bo angen.
  • Trefniadau gweithio cyffredinol – os oes unrhyw bryderon neu os ydych yn nodi unrhyw risgiau gan gynnwys yr amgylchedd, yr offer, neu drefniadau brys dylech drafod y rhain gyda'ch rheolwr llinell cyn gynted â phosibl.
  • Straen, Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol – er mwyn osgoi problemau yn ymwneud â straen ac iechyd meddwl, dylid cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'ch rheolwr llinell a'ch cydweithwyr. Efallai y byddwch am gytuno i drefnu cyfarfodydd rheolaidd ochr yn ochr â chysylltiad ychwanegol pryd bynnag y bo angen.
  • Damweiniau / Digwyddiadau – yr un yw'r gofynion o ran rhoi gwybod am bob damwain a digwyddiad, gan gynnwys damwain a fu bron â digwydd a thrais ac ymddygiad ymosodol. Dylech gysylltu â'ch rheolwr llinell cyn gynted â phosibl fel y gellir rhoi unrhyw gamau gofynnol ar waith.
  • Iechyd Galwedigaethol– gellir gwneud atgyfeiriad i roi cyngor meddygol ar y ffyrdd gorau o'ch cefnogi chi a'ch iechyd lle bo hynny'n briodol. Trafodwch hyn â'ch rheolwr llinell.
  • I gael rhagor o wybodaeth, cymorth ac arweiniad, ewch i'r tudalennau Iechyd a Diogelwch ac Iechyd a Llesiant ar y fewnrwyd.