Diogelwch personol

Diweddarwyd y dudalen: 29/06/2022

Rydym yn ymrwymedig i warchod iechyd, diogelwch a lles pob un ohonoch ac yn amcanu at ddarparu a chynnal amgylchedd diogel.

Mae trais, ymosodedd, aflonyddu neu ymddygiad bygythiol yn annerbyniol ar unrhyw ffurf. Ni ddylech ddioddef ymddygiad annerbyniol yn ystod eich dyletswyddau fel ‘rhan arferol o’ch swydd’.

Gweithio’n unigol

Caiff gweithgareddau gweithio’n unigol eu cyflawni gan amrywiaeth eang o gyflogeion yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn diffinio gweithwyr unigol fel ‘y rhai sy’n gweithio ar eu pen eu hunain heb oruchwyliaeth fanwl nac uniongyrchol’.

Os ydych chi’n cael eich diffinio fel gweithwyr unigol ni ddylech wynebu mwy o risg na chyflogeion eraill.

Gall gweithgareddau gweithio’n unigol gael eu cyflawni ar neu oddi ar unrhyw un o’n safleoedd felly dylid ystyried y ddau. Mae enghreifftiau o weithgareddau gweithio’n unigol yn cynnwys:

  • Gweithio ar eich pen eich hyn ar safle’r Cyngor;
  • Gweithio ar eich pen eich hun yn y Gymuned;
  • Gweithio gartref;
  • Teithio ar eich pen eich hun;
  • Cynnal ymweliadau â chartrefi;
  • Gweithgareddau fel gweithiwr wrth gefn a chael eich galw allan fel daliwr allweddi.

Trais ac ymosodedd

Mae’r termau trais ac ymosodedd yn cwmpasu ystod eang o ddigwyddiadau, nad ydynt i gyd yn ymwneud ag anaf. Mae trais ac ymosodedd yn y gweithle wedi cael eu diffinio fel a ganlyn:

  • Ymosodiadau corfforol a gyflawnwyd mewn gwirionedd neu y rhoddwyd bygythiad i’w cyflawni;
  • Cam-drin seicolegol, e.e. cam-drin emosiynol parhaus a sylweddol;
  • Cam-drin geiriol (sy’n cynnwys gweiddi, rhegi ac ystumiau);
  • Bygythiadau yn erbyn unrhyw gyflogai sy’n digwydd.

Aflonyddu a bwlio

Mae aflonyddu a bwlio gan unrhyw un yn annerbyniol ar unrhyw ffurf ac ni fyddant yn cael eu goddef gennym ni. Gellir cyfeirio digwyddiadau aflonyddu neu fwlio at yr heddlu. Bydd rhai agweddau ar aflonyddu a bwlio wedi’u cynnwys o fewn cwmpas y Ddeddf Cydraddoldebau a’r nodweddion gwarchodedig sydd wedi’u cynnwys ynddi.

Mae aflonyddu a bwlio’n digwydd pan fo rhywun yn cael ei gam-drin, ei fygwth neu ei fychanu drosodd a throsodd ac yn fwriadol gan unigolyn neu grŵp o unigolion oherwydd y gwaith y mae’n ei wneud, e.e. defnyddwyr gwasanaethau neu eu teuluoedd, aelodau o’r cyhoedd neu bobl sy’n cael gwasanaethau’r Cyngor.

Dylid cyfeirio achosion mewnol o aflonyddu a bwlio at y weithdrefn Canllawiau ar Safonau Ymddygiad yn y Gweithle a’r Weithdrefn Gwyno, a chyda chymorth ac arweiniad gan Rheoli Pobl (Swyddogion Adnoddau Dynol).