Asesiadau Risg

Diweddarwyd y dudalen: 22/12/2022

Mae asesiadau risg yn sicrhau bod yr holl beryglon yn y gweithle’n cael eu hadnabod a bod yr holl risgiau’n cael eu rheoli. Mae hyn yn sicrhau bod eich iechyd a’ch diogelwch yn cael eu gwarchod yn y gweithle ac y ceir cyn lleied â phosibl o ddamweiniau/digwyddiadau. Mae hyn yn ddyletswydd gyfreithiol dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a gofynion mwy penodol Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999.

Pwy ddylai gwblhau Asesiad Risg?

Dim ond os ydych wedi cael eich hyfforddi y gallwch gwblhau Asesiad Risg. Rheolwyr ac eraill â chyfrifoldeb am iechyd a diogelwch sy’n cynnal Asesiadau Risg fel arfer.

Pwysig: Os byddwch yn gweld unrhyw beryglon yn y gweithle sy’n achosi pryder, sicrhewch eich bod yn hysbysu eich rheolwr ynghylch y rhain ar unwaith.

Pryd mae angen i chi gwblhau Asesiad Risg?

Fel rhan o reoli iechyd a diogelwch mae angen i’r risgiau yn eich gweithle gael eu rheoli. Er mwyn gwneud hyn mae angen i chi feddwl beth allai achosi niwed i bobl a phenderfynu a ydych yn cymryd camau rhesymol i atal y niwed hwnnw. Gellir gweld y camau isod.

5 Cam i Asesu Risg:

  1. Chwiliwch am y peryglon
  2. Penderfynwch pwy allai gael niwed a sut
  3. Gwerthuswch y risgiau
  4. Cofnodwch y canfyddiadau
  5. Adolygwch yr asesiad risg a’i ddiwygio fel y bo angen

Templed Asesu Risg