Logio Dogfennau

Diweddarwyd y dudalen: 13/09/2022

Rheoli Dogfennau Iechyd a Diogelwch

Fel rhan o'r gwaith o reoli iechyd, diogelwch a llesiant gweithwyr yn effeithiol, mae'n hanfodol bod y dogfennau hyn yn cael eu rhannu â'r gweithwyr perthnasol a bod y gweithwyr yn deall y rheolaethau newydd a'r arferion gweithio diogel.

Mae'n ofynnol i reolwyr ddilyn pum cam wrth weithredu ymarfer gweithio newydd neu roi asesiad risg newydd
1. Rhannwch y ddogfen gyda gweithwyr a thrafodwch y cynnwys.
2. Sicrhewch fod y gweithwyr yn deall y rheolaethau newydd a'r hyn a ddisgwylir ganddynt.
3. Cofnodwch rannu'r dogfennau.
4. Rhowch reolaethau newydd ar waith (drwy ddarparu adnoddau os oes angen)
5. Cadwch y ddogfen er mwyn cyfeirio ati yn y dyfodol.

Ymgysylltu â Gweithwyr

Mae'n bwysig bod yr holl weithwyr yn deall y rheolaethau newydd sydd wedi'u cyflwyno ynghyd â'u rolau a'u cyfrifoldebau. Mae sawl ffordd o rannu gwybodaeth newydd sydd wedi'i chynnwys yn yr asesiadau risg a'r arferion gweithio diogel yn effeithiol.

• Tîm Rhithwir neu gyfarfod un i un (lle gellir rhannu a thrafod dogfennau)
• Sgyrsiau iechyd a diogelwch (gyda niferoedd cyfyngedig)
• Rhoi copïau electronig neu galed

Adborth gan Weithwyr

Efallai y bydd gan weithwyr farn a syniadau am yr asesiadau risg a'r arferion gweithio diogel oherwydd eu profiad yn eu rolau. Efallai y byddant yn gallu nodi problemau o ran y ffordd y gallai rheolaeth neu arfer gweithio newydd sydd i'w weithredu effeithio ar y modd y darperir y gwasanaeth. Gellir defnyddio'r adborth hwn i ddiweddaru a gwneud yr asesiadau risg yn fwy perthnasol i'r maes gwasanaeth a helpu yn ystod unrhyw broses adolygu. Bydd ymgysylltu'n weithredol â staff yn helpu i sicrhau bod yr asesiadau risg a'r arferion gweithio diogel yn gywir ac yn berthnasol i'r gwasanaeth.

Dylid ymgynghori â chynrychiolwyr undebau a chynrychiolwyr nad ydynt yn undebau fel rhan o'r broses ymgysylltu.

Dogfennu Rhannu/Hyfforddi Prosesau

Ar ôl rhannu'r ddogfennau gyda gweithwyr, mae'n bwysig cadw cofnod o hyn. Yn achos gweithwyr awyr agored a pheripatetig, byddai'n ddoeth i'r gweithiwr lofnodi taflen bresenoldeb i ddangos ei bresenoldeb yn y drafodaeth, y cyflwyniad neu'r cyfarfod.

Yn achos cyfarfodydd rhithwir dylai rheolwyr weithredu dull o gofnodi'r modd y darperir y wybodaeth.