Ysmygu

Diweddarwyd y dudalen: 20/02/2023

Rydym yn gwahardd ysmygu a defnydd o E-sigarennau ym mhob gweithle a mangre caeedig a sylweddol gaeedig a berchnogir neu a feddiannir gennym ni, mangre a ddefnyddir i ddarparu unrhyw wasanaethau neu weithgareddau, ym mhob cerbyd caeedig a sylweddol gaeedig a ddefnyddir at ddibenion gwaith ac o fewn tir ein holl fangreoedd.

Yr unig eithriadau fyddai:

  • mewn ystafelloedd ysmygu neu ardaloedd ysmygu allanol dynodedig mewn cartrefi gofal a seibiant preswyl i oedolion, ac ardaloedd ysmygu allanol dynodedig mewn sefydliadau gofal cymdeithasol sy’n darparu gwasanaethau gofal dydd ar gyfer yr henoed neu bobl agored i niwed,
  • mewn fflatiau ac ardaloedd anheddol mewn Tai Gwarchodol a Thai Cyngor – mae’r HOLL ardaloedd cymunol ac allanol yn y mangreoedd hyn wedi’u cynnwys o fewn cwmpas y polisi.

Rydym yn annog gweithwyr, aelodau a defnyddwyr gwasanaethau i roi’r gorau i ysmygu, ac gall y Ganolfan Iechyd Galwedigaethol roi cyngor i chi am y manteision i'ch iechyd o roi'r gorau i ysmygu ac â phwy y gallech gysylltu neu siarad â nhw ynghylch rhoi'r gorau i ysmygu (Helpa Fi i Stopio - 0800 085 22190)

Cwestiynau Cyffredin

A oes hawl gennyf i gael egwylion ysmygu?

Os ydych yn dymuno ysmygu yna dim ond yn eich amser eich hun y gallwch wneud hynny. Gallwch wneud hynny naill ai yn ystod egwylion swyddogol neu pan fyddwch yn clocio allan neu drwy’r cynllun amser hyblyg. Dylai rheolwyr sicrhau nad yw’r arfer hwn yn effeithio’n anffafriol ar ddarparu gwasanaethau, a’ch bod chi’n cydweithredu gyda hwy tuag at yr amcan hwn.

A yw’r Polisi (Gweithleoedd a Mangreoedd) Di-fwg yn berthnasol i weithio gartref?

Nid yw’r ddeddfwriaeth ddi-fwg yn berthnasol i fangreoedd domestig. Fodd bynnag, os yw ystafell yn eich cartref yn cael ei defnyddio dim ond at ddibenion gwaith bydd yn ofynnol i’r ystafell fod yn ddi-fwg.

Mae’n rhaid i bawb ohonoch gydymffurfio â’n polisïau a gweithdrefnau tra’r ydych yn y gwaith, gan gynnwys tra’r ydych yn gweithio gartref. Os byddwch yn ysmygu tra byddwch yn gweithio gartref, mae’n rhaid ichi sicrhau nad ydych yn peri i gydweithwyr ac eraill ddod i gysylltiad â mwg ail law. Gellid cyflawni hyn trwy sicrhau bod yr ardaloedd yn eich cartref y bydd ymwelwyr yn mynd iddynt yn ddi-fwg o leiaf 1 awr cyn iddynt gyrraedd, a bod yr ardal hon yn cael ei hawyru’n ddigonol.

A ddylwn i gynnwys gwybodaeth am y Polisi (Gweithleoedd a Mangreoedd) Di-fwg wrth recriwtio staff?

Bydd hysbysebion swyddi, gwybodaeth a ddarperir ar gyfer darpar ymgeiswyr a sesiynau sefydlu ar gyfer gweithwyr newydd (e.e. rhaglen groesawu gorfforaethol, rhaglen sefydlu safle-benodol a sesiynau briffio ar ddiogelwch tân) yn cynnwys cyfeiriad at y Polisi Di-fwg. Dylai hysbysebion ddatgan bod “y Cyngor Sir yn gweithredu polisi di-fwg”.

Bydd yr holl weithwyr newydd yn cael eu hatgoffa am ofynion y polisi di-fwg, a bydd yn ofynnol iddynt ymlynu wrtho.

A oes angen imi arddangos arwyddion yn fy mangreoedd?

Mae’n rhaid arddangos arwyddion mewn mynedfeydd i fangreoedd, mewn mynedfeydd i dir mangreoedd ac ym mhob cerbyd gwaith.

A yw’n ofynnol imi ddarparu cyfleusterau ar gyfer ymsygwyr?

Ni fyddwn yn darparu cyfleusterau ar gyfer ysmygwyr ac eithrio yn y mangreoedd hynny sydd wedi’u heithrio o’r polisi (gweler nodyn cyfarwyddyd 1 – Darparu Ystafell Ysmygu Ddynodedig mewn Mangreoedd Gofal Preswyl a Seibiant a 3 – Mangreoedd Gofal Cymdeithasol Dibreswyl yn y polisi a chanllawiau llawn i gael rhagor o wybodaeth).

Pwy sy’n gyfrifol am orfodi’r Polisi (Gweithleoedd a Mangreoedd) Di-fwg?

Mae llwyddiant y polisi di-fwg hwn yn dibynnu ar ystyriaeth a chydweithrediad pawb ohonoch a’ch rheolwyr, ac unrhyw un arall y mae’n effeithio arno.

Gallai polisi a gweithdrefnau disgyblu y Cyngor gael eu rhoi ar waith yn achos gweithiwr sy'n methu â chydymffurfio â'r polisi hwn.