Mamau Newydd a Disgwyliedig

Diweddarwyd y dudalen: 22/05/2023

Bydd rheolwyr wedi ymgymryd ag asesiadau risg ar gyfer gweithgareddau sy'n cyflwyno risg sylweddol i iechyd a diogelwch eu staff yn barod. Dylai'r rhain fod wedi nodi unrhyw beryglon yn y gweithle a allai beri risg i gyflogeion benywaidd sydd o oedran beichiogi, neu i famau sy'n feichiog ac sydd newydd gael babi. Mae'n rhaid i wybodaeth am unrhyw beryglon sylweddol a'r dulliau o’u rheoli cael ei rhannu â'r holl gyflogeion a allai gael eu heffeithio ganddynt, gan gynnwys cyflogeion benywaidd y gallai fod yn berthnasol iddynt.

Unwaith y bydd rheolwr yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig gan weithiwr benywaidd ei bod naill ai’n feichiog, wedi rhoi genedigaeth o fewn y chwe mis diwethaf, neu'n bwydo ar y fron, mae'n rhaid i reolwyr ymgymryd ag asesiad risg penodol ar gyfer yr unigolyn hwnnw h.y.:

  • Trafod goblygiadau unrhyw asesiad risg presennol ar gyfer ei gweithgareddau gwaith h.y. pa beryglon sydd wedi'u nodi.
  • Ystyried ffyrdd y gallai hi neu ei phlentyn gael eu niweidio gan y peryglon hyn.
  • Ystyried difrifoldeb posibl y niwed iddyn nhw (y senario waethaf posibl) a pha mor debygol y mae o ddigwydd h.y. i'r niwed ddigwydd go iawn.
  • Gwneud pob ymdrech i symud, neu atal ei chysylltiad ag unrhyw beryglon a allai achosi niwed iddynt.
  • Os nad yw hyn yn bosibl, dylech addasu ei hamodau gwaith neu oriau gwaith dros dro.
  • Os nad yw hyn yn bosibl, dylech geisio cynnig gwaith arall am gyfnod ei beichiogrwydd, a hyd at chwe mis ar ôl hynny pe bai angen.
  • Os nad yw hyn yn bosibl, yna dylech ei hatal rhag dod i'r gwaith. Mae'n ofynnol o dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 fod hyn yn unol â chyflog llawn.

Lle y bo pryderon meddygol hysbys ynghylch y beichiogrwydd, gellir gwneud cais am ffurflen Med 3 gan feddyg teulu neu fydwraig y fam sy'n feichiog. (Mae hyn yn rhoi barn broffesiynol ar allu'r unigolyn i gyflawni ei dasgau galwedigaethol arferol.)

  • Lle y derbynnir Ffurflen Med 3, mae'n rhaid i'r rheolwr priodol ystyried cyngor y meddyg teulu neu fydwraig fel rhan o'i asesiad risg ar gyfer gweithgareddau gwaith yr unigolyn hwnnw.

Dylai rheolwyr wneud y canlynol hefyd:

  • Adolygu'r canlyniadau o'r asesiad risg penodol yn rheolaidd e.e. bob tri mis, neu bryd bynnag mae'r cyflogai'n teimlo bod ei hamgylchiadau wedi newid.
  • Rhoi gwybod i'r cyflogai am unrhyw drefniadau llesiant lleol sydd yn eu lle e.e. cyfleusterau gorffwys, neu amgylchedd iach a diogel ar gyfer mamau sydd newydd gael babi i dynnu a storio llaeth (er nad yw’r olaf yn ofyniad cyfreithiol, mae'n arfer da).

Noder: Gall rheolwyr ddefnyddio Rhestr Wirio'r Asesiad Risg ar gyfer mamau sy'n feichiog ac sydd newydd gael babi (Atodiad A) i gynorthwyo'r broses hon. Mae'n hanfodol bod y fam sy'n feichiog neu sydd newydd gael babi yn rhan o’r ymarfer hwn er mwyn rhoi'r cyfle iddi fynegi ei theimladau ar unrhyw agwedd ar y gwaith sy’n peri gofid iddi yn ystod cyfnod ei beichiogrwydd.

Cofiwch, nid yw beichiogrwydd yn salwch. Fodd bynnag, gallai newidiadau hormonaidd neu o ran osgo ddigwydd yn ystod cyfnod y beichiogrwydd a allai wneud gweithgareddau gwaith arferol yn anoddach neu'n anghyfforddus i'w cyflawni.

Mae Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith (Diwygio) 2006 yn cynnwys rheoliadau sy'n amddiffyn iechyd a diogelwch mamau sy'n feichiog ac sydd newydd gael babi sy'n gweithio. Mae'n cwmpasu menywod sydd o oedran beichiogi, sy'n feichiog neu a allai feichiogi yn y dyfodol, wedi rhoi genedigaeth o fewn y chwe mis diwethaf, neu'n bwydo ar y fron.  

Ar ôl derbyn cadarnhad ysgrifenedig fod aelod o staff yn feichiog, mae rheolwyr llinell yn gorfod cynnal asesiad risg penodol ar gyfer gweithgareddau gwaith y fam sy'n feichiog a chofnodi unrhyw ganlyniadau o'r broses hon.

Efallai y bydd rheolwyr yn gwneud cais am dystysgrif gan y meddyg teulu neu'r fydwraig i gadarnhau cyflwr y cyflogai. Ar ôl derbyn cadarnhad ysgrifenedig, mae rheolwyr llinell yn gorfod cynnal adolygiad o'u hasesiad risg ar gyfer gweithgareddau gwaith y fam sy'n feichiog a chofnodi unrhyw ganlyniadau o'r broses hon (gellir ymgymryd â hyn gan ddefnyddio Rhestr Wirio’r Asesiad Risg (Atodiad A). Lle y bo pryderon meddygol hysbys ynghylch y beichiogrwydd, gellir gwneud cais am ffurflen Med 3 gan feddyg teulu'r fam sy'n feichiog. Mae hyn yn rhoi barn broffesiynol ar allu'r unigolyn i gyflawni ei dasgau galwedigaethol arferol. 

Nid oes gofyniad cyfreithiol i chi wneud hynny, ond cynghorir mamau sy'n feichiog, er eu lles nhw a'u babi sydd yn y groth, i roi gwybod yn ysgrifenedig i'r rheolwr llinell cyn gynted â phosibl os ydyn nhw'n gwybod eu bod yn disgwyl babi. Os yw mam sy'n feichiog neu sydd newydd gael babi yn teimlo nad yw'n gallu cyflawni ei dyletswyddau arferol dros dro, mae'n bwysig ei bod yn trafod hyn gyda'i rheolwr llinell cyn gynted â phosibl.

Mae'r rhan fwyaf o'n gweithlu benywaidd yn y swyddfa, lle mae'r peryglon yn gyfyngedig i famau sy'n feichiog ac sydd newydd gael babi h.y. o ystum gwael yn y weithfan neu o dasgau codi a chario ysgafn. Fodd bynnag, mae ambell i adran o'r Cyngor Sir ble mae peryglon mwy sylweddol yn bodoli ar gyfer mamau sy'n feichiog neu sydd newydd gael babi e.e. syrfewyr adeiladu benywaidd, syrfewyr tir.

 Dyma rai enghreifftiau o beryglon nodweddiadol:-

Peryglon Corfforol

Codi a Chario - codi, cario, gwthio a thynnu llwythi mawr. Bydd yn ofynnol cynnal adolygiad o’r math o lwythi y gall yr unigolyn barhau i ymdrin â nhw yn ystod camau amrywiol y beichiogrwydd.

Sŵn, dirgryndod, gwres neu oerfel eithafol yn y gweithle - mamau beichiog a allai ymgymryd ag ymweliadau â safleoedd ac a fydd yn wynebu tywydd mawr neu amodau swnllyd e.e. priffyrdd, tirfesur, adeiladu. Bydd yn ofynnol adolygu'r math o ymweliadau safle a ymgymerir a phenderfynu p'un a ydynt yn briodol ar gamau gwahanol o'r beichiogrwydd.

Cyhyrysgerbydol - gallai sefyll neu eistedd am gyfnodau hir o amser arwain at boenau. Mae adolygiad o gynllun y weithfan yn gallu bod yn ddigon i leddfu'r sefyllfa weithiau. Dylai unigolion ymgymryd â hunanasesiad DSE a thrafod unrhyw broblemau a nodwyd gyda'u rheolwr lleol

Peryglon Biolegol

Gall dod i gysylltiad â chlefydau heintus achosi niwed i'r fam sy'n feichiog ac i’r babi yn ei chroth

Er enghraifft, drwy gyswllt agos â’r canlynol:

  • Anifeiliaid gwyllt neu anifeiliaid fferm sy'n heintus. Dylai Syrfewyr Tir sy'n gweithio yn y wlad neu'n agos at afonydd fod yn ymwybodol o glefydau nodweddiadol a'u symptomau, e.e. symptomau leptosbirosis o droeth heintus llygod mawr.
  • Unigolion heintus. Gallai swyddogion cymorth cyntaf sy'n darparu cymorth meddygol brys ddod i gysylltiad â hylifau corff heintus.
  • Offer miniog sy'n heintus. Mae Goruchwylwyr Safle ac Unigolion Tiroedd yn wynebu perygl o gael eu hanafu gan nodwyddau heintus neu unrhyw offer miniog eraill y gallen nhw ddod i gysylltiad â hwy.  

Cyfryngau Cemegol

Prin yw nifer y cyfryngau cemegol sy’n cael eu defnyddio o fewn y sefydliad ar gyfer gweithwyr y swyddfa. Fodd bynnag, mae rhai grwpiau o staff yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â chyfryngau cemegol nag eraill e.e. efallai y bydd glanhawyr, syrfewyr neu weithwyr asiantaeth y tir yn dod i gysylltiad â chemegion a ddefnyddir mewn prosesau megis:

  • defnyddio glud toddol i osod arwynebedd mawr o garped;
  • defnyddio plaladdwyr i chwistrellu cnydau;
  • defnyddio cynnyrch ar gyfer glanhau h.y. diseimio;  
  • y cemegion a ddefnyddir yn ystod gweithdrefnau dipio defaid.

Amodau Gwaith

Amodau gwaith sy’n peri straen - lle y gwyddys bod y gwaith yn ddwys neu'n peri straen, efallai na fydd mam sy'n feichiog yn teimlo ei bod yn gallu delio â hyn o ganlyniad i fwy o flinder neu newidiadau emosiynol o ganlyniad i’r hormonau ac efallai y bydd angen cynnal adolygiad.  

Oriau gwaith eithafol - lle y bo'n arferol i unigolion ymgymryd â goramser rheolaidd, efallai y byddant yn teimlo nad ydynt yn gallu cyflawni'r ymrwymiadau gwaith ychwanegol hyn dros dro yn ystod camau penodol o'u beichiogrwydd.

Gweithio'n unigol - dylai unrhyw drefniadau gweithio'n unigol gael eu hadolygu, gan roi sylw arbennig i ymrwymiadau gwaith tuag at ddiwedd y beichiogrwydd, neu lle y bo gan yr unigolyn gyflyrau meddygol hysbys yn ystod y beichiogrwydd. Gallai canlyniadau damwain neu fod yr unigolyn yn dioddef o salwch wrth weithio'n unigol fod yn llawer mwy difrifol.

Teithio’n bell - mae nifer o staff yn teithio am gyfnod sylweddol o’u hamser yn y gwaith. Efallai y byddant yn gweld y trefniant hwn yn fwy anodd wrth i'w beichiogrwydd ddatblygu o ganlyniad i newid mewn maint ac ystum, a theimlo’n anghyfforddus yn y car!

Trais neu ymosodedd - mae mamau sy'n feichiog iawn yn darged bregus ac yn llai abl i reoli, neu hyd yn oed ddianc rhag sefyllfa sy'n cynnwys trais neu ymosodedd. Eto, mae'n rhaid ystyried y sefyllfaoedd hyn fel rhan o'r adolygiad o'r asesiad risg.

 

Agwedd ar y beichiogrwydd Ffactorau sy'n ymwneud a'r gweithle
Salwch bore neu gur pen Gwaith sifft cynnar neu arogleuon cyfoglyd
Poen yn y cefn neu wythiennau chwyddedig Sefyll/Codi a Chario/ Ystum
Clwy'r marchogion Gweithio mewn amodau cynnes
Ymweliaidau cyson â'r tŷ bach Anhawster yn gadael y gweithle
Maint yn cynyddu Cyfarpar diogelu personol
Blinder Goramser neu withio gyda'r nos
Cydbwysedd Lloriau llithrig, gwlyb neu ddefnyddio'r grisiau
Cyfforddusrwydd Gwisg gwaith sy'n dynn

Mae Rheoliadau'r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Llesiant) 1992 yn gofyn i gyflogwyr ddarparu cyfleusterau gorffwys addas ar gyfer gweithwyr sy'n feichiog neu sy'n bwydo ar y fron. Lle y bo'n briodol, dylai'r rhain gynnwys rhywle i'r ddynes orwedd. Fe’u hanogir hefyd i ddarparu amgylchedd iach a diogel i famau sy'n magu i dynnu a storio llaeth (er nad yw’r olaf yn ofyniad cyfreithiol). Nid yw'n addas defnyddio'r toiledau ar gyfer y pwrpas hwn!

Dylai rheolwyr wneud eu haelod o staff sy'n feichiog neu sydd newydd gael babi yn ymwybodol o unrhyw drefniadau llesiant lleol sydd yn eu lle

Caiff hyn ei gwmpasu gan bolisi mamau sy'n feichiog ac sydd newydd gael babi CSC.

Mae gan bob dynes sy'n dychwelyd ar ôl absenoldeb mamolaeth yr hawl i wneud cais, yn ysgrifenedig, bod trefniant rhesymol mewn perthynas â bwydo ar y fron a/neu dynnu llaeth yn cael ei ystyried gyda'r amser i ffwrdd yn cyfateb i seibiannau arferol, amser cinio a threfniadau gweithio hyblyg y mae’r ddwy ochr wedi cytuno arnynt.

Pan fydd cyflogai yn bwydo ar y fron, mae'n rhaid iddi hi a'i babi gael eu diogelu rhag unrhyw beryglon yn y gweithle o dan yr un rheoliadau sy'n diogelu cyflogeion beichiog. Er enghraifft, os yw'r fam sy'n bwydo ar y fron yn debygol o ddod i gysylltiad â sylweddau sy'n beryglus i iechyd, mae'n debygol y gallai fynd i mewn i'r llaeth ac achosi perygl i'r babi sy'n bwydo ar y fron e.e. (mercwri, plwm, ymbelydredd ïoneiddio a chyfryngau biolegol.)

Dylai'r rheolwyr llinell holi'r fam cyn iddi ddychwelyd i'r gwaith a yw’n bwriadu parhau i fwydo ar y fron fel bod camau priodol yn cael eu rhoi ar waith e.e. drwy gynnal adolygiad o'r asesiad risg ar gyfer ei gweithgareddau gwaith i wneud ei swydd yn fwy diogel. Mae'r un peth yn wir am gyflogeion beichiog, os na ellir gwneud y swydd yn un ddiogel, dylai gael ei throsglwyddo i swydd addas arall dros dro, neu dylid ei hatal rhag dod i'r gwaith ar gyflog llawn.

Dylid darparu ystafell gyfforddus sy’n cynnwys y cyfarpar priodol i famau sy'n bwydo ar y fron i dynnu eu llaeth, gydag oergell ddynodedig lle y gellir storio'r llaeth a lleoliad dynodedig lle y gellir storio'r offer tynnu llaeth.