Asesiad Gweithfan

Diweddarwyd y dudalen: 16/04/2024

Asesiad o gynllun eich bwrdd gwaith, yr ardal o’i gwmpas (gan gynnwys eich cadair) a’r gwaith yr ydych yn ei wneud mewn perthynas â’ch galluoedd personol yw hwn.

Nod yr asesiad gweithfan yw canfod ac ystyried unrhyw ffactorau risg sy’n bresennol ac a allai achosi problemau iechyd yn awr neu yn y dyfodol, neu a allai leihau eich gallu i wneud eich gwaith yn effeithiol.

Cyfarpar Sgrîn Arddangos (DSE)

Dyfeisiau neu offer sydd â sgrîn arddangos alffaniwmerig neu graffig yw Cyfarpar Sgrîn Arddangos, ac mae’r diffiniad yn cynnwys sgriniau arddangos, gliniaduron, sgriniau cyffwrdd a dyfeisiau eraill tebyg.

Mae’n ofyniad cyfreithiol eich bod yn cydymffurfio â Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cyfarpar Sgrîn Arddangos) 1992. Mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol os ydych yn defnyddio Cyfarpar Sgrîn Arddangos yn rheolaidd fel rhan sylweddol o’ch gwaith arferol (yn feunyddiol, am gyfnodau parhaus o awr neu fwy).

Os ydych yn defnyddio Cyfarpar Sgrîn Arddangos, o ran eich gweithfan:

  1. Mae’n rhaid iddi gael ei hasesu ac mae’n rhaid i unrhyw risgiau gael eu lleihau.
  2. Dylai unrhyw fesurau rheoli angenrheidiol fod ar waith.
  3. Dylid darparu gwybodaeth a hyfforddiant.
  4. Dylech gael profion ar eich golwg.
  5. Dylai’r asesiad gael ei adolygu pan fo’n ofynnol, e.e. newidiadau i’r weithfan / Cyfarpar Sgrîn Arddangos neu’r Defnyddiwr

Y Broses ar gyfer Cyfarpar Sgrîn Arddangos

Dylai’r holl staff newydd gwblhau’r Rhestr Wirio Hunanasesu, i sicrhau bod unrhyw faterion yn cael eu hadnabod o’r diwrnod cyntaf. Os ydych chi’n credu bod angen asesiad gweithfan arnoch, dilynwch y broses hon:

  • Cwblhewch hunanasesiad cyfarpar sgrîn arddangos
  • Anfonir eich asesiad at eich rheolwr. Byddant yn trafod ac yn adolygu'r manylion gyda chi ac yn trafod unrhyw addasiadau y bydd eu hangen.
  • Os yw'ch rheolwr wedi gofyn am gyngor pellach gan ein Tîm Iechyd a Diogelwch, byddwn yn cyflwyno ein hargymhellion.

Efallai yr argymhellir eich bod yn cael ymweliad gan y tîm iechyd a diogelwch gan ddibynnu ar y cam(au) gweithredu a adnabuwyd o’ch asesiad. Os oes angen cyngor neu addasiadau pellach ar gyfer mater meddygol, gall eich rheolwr eich atgyfeirio at y gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol i gael cyngor.

Gweithio Gartref

Dylai eich rheolwr llinell fod wedi trafod y trefniadau ar gyfer gweithio gartref â chi ac wedi'ch annog i wneud trefniadau addas ar gyfer eich gwaith. Dylech sicrhau bod eich lle gwaith mor ddiogel â phosibl gan ddilyn y dogfen 'Gweithio o gartref weithfan sefydlu' a dylech gwblhau'r hunanasesiad Cyfarpar Sgrîn Arddangos i'ch helpu i wneud hyn. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i'ch cynorthwyo tra byddwch yn gweithio gartref:

  • Sicrhewch eich bod yn cymryd egwyl (o leiaf bum munud bob awr) neu'n newid y gweithgaredd yn ystod cyfnodau hir o waith gyda Chyfarpar Sgrîn Arddangos;
  • Ceisiwch osgoi ystum chwithig, llonydd drwy newid eich safle’n rheolaidd;
  • Codwch a symudwch o gwmpas neu gwnewch ymarferion ymestyn;
  • Ceisiwch osgoi blinder llygaid drwy newid ffocws neu smicio’r llygaid o bryd i’w gilydd;
  • Ceisiwch weithredu'r rheol 20-20-20 trwy edrych ar rywbeth 20 troedfedd i ffwrdd am 20 eiliad, bob 20 munud rydych chi'n edrych ar sgrin VDU.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu os ydych yn cael unrhyw anawsterau, cofiwch dynnu sylw atynt yn yr hunanasesiad a'u trafod â'ch rheolwr llinell er mwyn nodi atebion addas.

Yn ogystal, bydd yswiriant atebolrwydd yr Awdurdod yn cynnwys gweithio cartref ac offer ac ati, ond argymhellir eich bod yn rhoi gwybod i'ch darparwr yswiriant cartref eich hun eich bod bellach yn gweithio gartref.

Dylai gweithwyr ddilyn y gweithdrefnau arferol i roi gwybod am unrhyw ddamweiniau cysylltiedig â gwaith sy'n digwydd wrth wneud gwaith gartref.

Cwblhewch Hunanasesiad Cyfarpar Sgrîn Arddangos