Polisi Camddefnyddio Alcohol a Sylweddau 2026-2029
Datganiad
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithredu polisi dim goddefgarwch tuag at gamddefnyddio alcohol a sylweddau yn yr Awdurdod.
Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin Ddyletswydd Gofal tuag at ei weithwyr a bydd yn:
Gwahardd ein gweithwyr, gweithwyr asiantaeth, contractwyr a gwirfoddolwyr rhag defnyddio alcohol yn ystod oriau gwaith gan gynnwys amserau cinio.
Codi ymwybyddiaeth ymhlith ein gweithwyr o beryglon camddefnyddio alcohol a sylweddau a'r effaith andwyol y gall hyn ei chael arnynt eu hunain, ar eu perthynas ag eraill ac ar y gweithle o'u defnyddio'n amhriodol.
Sicrhau bod yr holl weithwyr a'r rheolwyr yn ymwybodol o'r rheolau ynghylch defnyddio alcohol a sylweddau yn y gwaith, neu weithio tra byddant dan effaith andwyol sylweddau. Byddai hyn yn cynnwys meddyginiaethau ar bresgripsiwn, sylweddau ar bresgripsiwn meddygol a meddyginiaethau dros y cownter ble gall effeithiau'r feddyginiaeth effeithio ar rolau gwneud penderfyniadau a rolau sensitif i ddiogelwch. Dylai gweithwyr roi gwybod i'w rheolwyr am unrhyw effeithiau andwyol o ganlyniad i'r math hwn o feddyginiaeth, gan y gall fod angen gwneud addasiadau.
Hyrwyddo'r gwaith o fynd ati'n gynnar i adnabod a thrin problemau'n ymwneud ag alcohol a sylweddau, ac annog gweithwyr yr effeithir yn andwyol arnynt i ofyn am gyngor, cymorth a thriniaeth ar eu cyfer eu hunain, neu os ydynt yn pryderu am aelod o'r teulu neu ffrind i ofyn am gyngor a chymorth ar gyfer eraill.
Monitro gweithwyr lle mae'r defnydd o alcohol a sylweddau yn cyfrannu at bresenoldeb a pherfformiad gwaith gwael, yn unol â'r Polisïau Adnoddau Dynol priodol.
Darparu gwybodaeth ac arweiniad digonol i unrhyw un sy'n gweithredu'r polisi hwn, yn enwedig rheolwyr llinell a goruchwylwyr, er mwyn iddynt allu mynd ati'n effeithiol i adnabod gweithwyr sydd â phroblemau posibl yn gysylltiedig â sylweddau, ac ymdrin yn effeithiol â chamddefnyddio alcohol a sylweddau yn y gweithle.
Sefydlu canllawiau clir ar gyfer ymdrin â chamymddygiad yn gysylltiedig â defnyddio a chamddefnyddio alcohol a sylweddau, gan ddefnyddio ein gweithdrefnau disgyblu ble bo'n briodol, a rhoi gwybod am weithgareddau anghyfreithlon i'r heddlu.
Sicrhau bod pob gweithiwr sy'n gofyn am help gyda phroblemau'n ymwneud ag alcohol a sylweddau yn cael cymorth, triniaeth a chyfle i adsefydlu sydd yn gyfrinachol ac yn llawn cydymdeimlad. Bydd pawb sydd yn ymwneud â'r mater yn cadw cyfrinachedd llwyr.
Ceisio atal gweithwyr rhag defnyddio alcohol a sylweddau mewn modd anniogel a gwneud defnydd nad yw'n iach o alcohol, trwy hyrwyddo ymwybyddiaeth o ffordd iach o fyw.
Darparu canllawiau a gwybodaeth ar yfed yn synhwyrol ar ffurf taflenni, gwaith hybu iechyd ac ymgyrchoedd rheolaidd.
