Polisi Camddefnyddio Alcohol a Sylweddau 2026-2029
Yn yr adran hon
Eithriadau:
Caniateir i breswylwyr mewn cartrefi gofal preswyl a seibiant oedolion yfed alcohol a chymryd sylweddau meddygol ar bresgripsiwn, yn unol â chyngor meddygol ac sydd wedi'i ddogfennu yng nghynllun gofal y preswylydd.
Caniateir yfed alcohol a chymryd sylweddau meddygol ar bresgripsiwn yn achos preswylwyr mewn fflatiau ac ardaloedd cartref Tai Gwarchod a Thai Cyngor a defnyddwyr gwasanaeth mewn sefydliadau gofal cymdeithasol sy'n darparu gwasanaethau gofal dydd i'r henoed neu bobl sy'n agored i niwed. Cyfeiriwch at y Polisi Di-fwg (Mangreoedd a Cherbydau) am arweiniad pellach.
Dylai fod yna asesiadau risg addas a digonol (gan gynnwys effeithiau defnyddio gyda meddyginiaethau eraill) ar waith ar gyfer unrhyw breswylwyr/defnyddwyr gwasanaeth sy'n yfed alcohol ac yn cymryd sylweddau meddygol ar bresgripsiwn.
