Polisi Di-fwg (Mangreoedd a Cherbydau) 2026-2029
Cyfrifoldebau
4.1 Cyfarwyddwyr, Penaethiaid Gwasanaeth ac Uwch-reolwyr
Mae gan Gyfarwyddwyr, Penaethiaid Gwasanaeth ac uwch-reolwyr gyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau bod y polisi hwn yn cael ei weithredu'n effeithiol ar draws eu gwasanaethau. Rhaid iddynt:
Sicrhau bod y polisi a'r canllawiau cysylltiedig yn cael eu cyfathrebu a'u deall yn glir.
Sicrhau bod gan reolwyr hyfforddiant, cefnogaeth a goruchwyliaeth ddigonol i gyflawni eu cyfrifoldebau.
Comisiynu cymorth neu adnoddau ychwanegol lle mae hyn yn rhesymol ymarferol ac yn angenrheidiol i gefnogi cydymffurfiaeth.
4.2 Rheolwyr Llinell a Goruchwylwyr
Mae pob rheolwr llinell a goruchwyliwr yn gyfrifol am gynnal gweithle di-fwg yn unol â'r polisi hwn. Yn benodol, rhaid iddynt:
Sicrhau bod y polisi hwn yn cael ei weithredu'n effeithiol o fewn eu meysydd cyfrifoldeb.
Arwain trwy esiampl a herio diffyg cydymffurfio yn briodol ac yn gymesur.
Sicrhau bod gweithwyr, contractwyr, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr yn ymwybodol o ofynion y polisi.
Cymryd camau rhesymol i atal ysmygu a fepio mewn ardaloedd gwaharddedig, gan gynnwys yn ystod amser gwaith ac mewn cerbydau gwaith.
Mynd i'r afael â thorri'r polisi yn brydlon, gan ddefnyddio camau rheoli anffurfiol neu ffurfiol fel y bo'n briodol.
Cefnogi gweithwyr sy'n dymuno rhoi'r gorau i ysmygu neu fepio trwy eu cyfeirio at y gwasanaethau cymorth sydd ar gael.
Ceisio cyngor gan Pobl, Digidol a Pholisi, Iechyd Galwedigaethol, neu'r Tîm Iechyd a Diogelwch lle mae angen cymorth neu arweiniad ychwanegol.
4.3 Gweithwyr (gan gynnwys Gweithwyr Asiantaeth a Gweithwyr Achlysurol)
Mae gan bob gweithiwr gyfrifoldeb personol i gydymffurfio â'r polisi hwn. Rhaid i weithwyr:
Peidio ag ysmygu neu fepio mewn unrhyw fangreoedd, tiroedd neu gerbydau lle gwaherddir ysmygu o dan y polisi hwn.
Peidio ag ysmygu neu fepio yn ystod amser gwaith ac eithrio yn unol â'r polisi hwn ac unrhyw drefniadau lleol.
Peidio â gwefru E-sigaréts na fêps mewn unrhyw fangreoedd neu gerbydau'r Cyngor.
Sicrhau nad yw eu hymddygiad yn amlygu eraill i fwg neu anwedd ail-law, nac yn achosi niwsans i gydweithwyr, defnyddwyr gwasanaeth, aelodau o'r cyhoedd neu fangreoedd cyfagos.
Cydweithredu â rheolwyr a'r Cyngor wrth weithredu'r polisi hwn.
Codi unrhyw bryderon am gymhwyso'r polisi hwn gyda'u rheolwr llinell.
4.4 Pobl, Digidol a Pholisi
Mae gan Pobl, Digidol a Pholisi gyfrifoldeb am hyrwyddo, monitro ac adolygu'r polisi hwn. Mae hyn yn cynnwys:
Darparu cyngor ac arweiniad i reolwyr a gweithwyr ar gymhwyso'r polisi.
Cefnogi dull rhagweithiol trwy fewnbwn amserol gan Iechyd Galwedigaethol, y Tîm Iechyd a Diogelwch, a Dysgu a Datblygu.
Cefnogi rheolwyr i fynd i'r afael â thorri'r polisi, gan gynnwys lle y gallai fod angen gweithdrefnau ffurfiol.
Monitro effeithiolrwydd y polisi ac argymell gwelliannau lle bo angen.
4.5 Aelodau Etholedig
Mae gan Aelodau Etholedig gyfrifoldeb personol tuag at yr holl staff a'r cyhoedd o ran cynnal y gwerthoedd a bennir yn y polisi hwn, hybu cysylltiadau da, a herio ymddygiad amhriodol lle bo angen. Mae Aelodau Etholedig yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cefnogi'n gadarnhaol yr egwyddor o gydraddoldeb ac amrywiaeth, wrth ymgymryd â'u dyletswyddau cyhoeddus a dilyn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau Etholedig a pholisïau a gweithdrefnau cysylltiedig.
4.6 Contractwyr, Gwirfoddolwyr ac Ymwelwyr
Disgwylir i gontractwyr, gwirfoddolwyr, ymwelwyr ac eraill sy'n cael mynediad i fangreoedd neu gerbydau'r Cyngor gydymffurfio â'r polisi hwn. Rhaid i reolwyr sy'n gyfrifol am ymgysylltu â chontractwyr neu wirfoddolwyr gymryd camau rhesymol i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r gofynion di-fwg.
