Polisi Di-fwg (Mangreoedd a Cherbydau) 2026-2029

Datganiad

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn:

  • Annog gweithwyr, aelodau a defnyddwyr gwasanaeth i roi'r gorau i ysmygu a fepio, a darparu cymorth a chefnogaeth ymarferol trwy ein Canolfan Iechyd Galwedigaethol a'r Gwasanaeth Helpa fi i Stopio.

  • Gwahardd ysmygu a defnyddio E-sigaréts /fêps

    • ym mhob gweithle a mangre gaeedig a sylweddol gaeedig sy'n eiddo i'r Cyngor Sir, neu a feddiannir ganddo, gan gynnwys swyddfeydd, ysgolion, mannau cymunedol mewn cynlluniau tai gwarchod, ystafelloedd gorffwys, ffreuturau, theatrau, llyfrgelloedd, cyfleusterau cymunedol, toiledau cyhoeddus, amgueddfeydd, ciosgau, marchnadoedd, bwytai, caffis, ystafelloedd aelodau, cyfleusterau chwaraeon a hamdden, gorsafoedd a chysgodfannau bysiau, canolfannau dydd, a mangreoedd masnachol sydd ar brydles i drydydd parti neu a logwyd gan drydydd parti, ac ati.

    • ym mhob mangre gaeedig a sylweddol gaeedig a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau neu weithgareddau'r Cyngor Sir, gan gynnwys y rhai sydd ym mherchnogaeth eraill, a weithredir ganddynt, neu a rennir gyda nhw, megis swyddfeydd, gwasanaethau dydd, canolfannau cynadledda a lleoliadau hyfforddiant, ac ati.

    • ym mhob cerbyd a ddefnyddir at ddibenion gwaith neu ddarparu gwasanaethau gan gynnwys faniau, bysiau, llyfrgelloedd symudol, a cheir (gan gynnwys ceir personol yn ystod amser busnes). Rhaid i weithwyr ac eraill (e.e. gwirfoddolwyr, contractwyr) sy'n defnyddio cerbydau yng nghyswllt darparu gwasanaethau sicrhau bod y cerbydau'n ddi-fwg wrth eu defnyddio at y dibenion hynny.

    • ar dir mangreoedd sy'n eiddo i'r Cyngor Sir, neu a feddiannir ganddo, gan gynnwys meysydd parcio cysylltiedig â'n hadeiladau gweinyddol a masnachol, gerddi, ardaloedd chwarae, meysydd chwaraeon a mannau allanol eraill, ac ati.

  • Peidio â chaniatáu i weithwyr ysmygu yn ystod amser gwaith yn unol â gofynion y polisi ysmygu.

  • Peidio â chaniatáu gwefru E-sigaréts/fêps mewn unrhyw un o fangreoedd Cyngor Sir Caerfyrddin, gan gynnwys cerbydau.

  • Peidio â chaniatáu ysmygu ger drysau, ffenestri agored neu'n agos at systemau awyru lle gallai mwg fynd yn ôl i mewn i adeilad y Cyngor neu adeiladau cyfagos ac amlygu eraill i fwg ail-law.

  • Peidio â chreu niwsans i adeiladau cyfagos, aelodau o'r cyhoedd, neu gydweithwyr.

  • Peidio â darparu cyfleusterau i ysmygwyr, megis cysgodfannau neu ystafelloedd ysmygu, y tu mewn neu'r tu allan, gan gynnwys yn ymyl drysau ac yn union gerllaw i fangreoedd y Cyngor (ac eithrio'r esemptiadau a nodir isod).

  • Darparu arwyddion:

    • wrth bob mynedfa i'n mangreoedd, gan gynnwys wrth y mynedfeydd i diroedd, sy'n rhoi gwybod i bawb eu bod yn ddi-fwg, a bod ysmygu wedi'i wahardd. Bydd yr arwyddion hyn yn cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020, a Rheoliadau Di-fwg (Arwyddion) 2012, ac unrhyw ganllawiau cysylltiedig.

    • ym mhob un o'n cerbydau, gan gynnwys y rhai sydd ar brydles neu wedi'u llogi i eraill, sy'n rhoi gwybod i bawb eu bod yn ddi-fwg a bod ysmygu wedi'i wahardd. Rhaid i'r arwyddion hyn gydymffurfio â gofynion Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020, ac unrhyw ganllawiau cysylltiedig.

    • Gwahardd gwerthu neu hyrwyddo cynnyrch tybaco mewn mangreoedd sy'n eiddo i'r Cyngor Sir neu a feddiannir ganddo.

    • Cydweithio â chyflogwyr eraill, contractwyr neu sefydliadau gwirfoddol i sicrhau cydymffurfiaeth â'r polisi hwn ac y cyfyngir gymaint â phosibl ar unrhyw risgiau cysylltiedig â mwg tybaco ail-law.

  • Gweithredu fel cyflogwr enghreifftiol ac esiampl o ymddygiad i gyflogwyr eraill yn Sir Gaerfyrddin yng nghyswllt dim ysmygu a darparu gweithleoedd di-fwg.

  • Mynd ati'n achlysurol i fonitro, adolygu a gwella (pan fydd angen) cyflwyniad y polisi hwn er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n effeithiol, a'n bod yn parhau i gydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol cysylltiedig â/neu safonau rheoli perthnasol.