Strategaethau, cynlluniau a pholisïau
Diweddarwyd y dudalen: 21/10/2025
Mae pob adran ac uned fusnes yn cynhyrchu Cynllun Busnes, sy'n amlinellu'r amcanion a'r adnoddau ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Mae copïau o'r holl ddogfennau hyn ar gael gan eich Rheolwr Llinell.
Mae’r Polisi Diogelu Corfforaethol hwn yn darparu fframwaith ar gyfer pob gwasanaeth yn y Cyngor gan nodi cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn ogystal â’r dulliau y bydd y Cyngor yn eu defnyddio i wybod yn sicr ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r strategaeth hon wedi'i chyhoeddi a hi sy'n gyrru gwaith cynllunio busnes a phroses cynllunio gwelliant y Cyngor ac fe gaiff ei monitro trwy PIMS
Mae argyfyngau'n digwydd. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru wedi dioddef tywydd gaeafol eithafol, llifogydd, tarfu ar deithio, diffyg tanwydd, clefydau ymysg anifeiliaid, a'r pandemig COVID-19.
Mae'r Llywodraeth wedi rhoi deddfwriaeth statudol ar waith i'n helpu i wynebu'r her o ymdrin ag argyfyngau o'r fath.
Y Cefndir
Yn dilyn yr argyfwng tanwydd a'r llifogydd difrifol yn yr hydref a'r gaeaf yn 2000 a Chlwy’r Traed a’r Genau yn 2001, cyhoeddodd y Llywodraeth adolygiad o drefniadau cynlluniau argyfwng. Roedd yr adolygiad yn cynnwys ymarfer ymgynghori cyhoeddus a oedd yn cyfnerthu casgliad y Llywodraeth nad oedd y ddeddfwriaeth bresennol yn rhoi fframwaith digonol bellach ar gyfer ymdrechion diogelwch sifil modern a bod angen deddfwriaeth newydd.
Yn sgil hyn cyflwynwyd y Bil Argyfyngau Sifil i'r Senedd ar 7 Ionawr 2004. Cafodd y Bil Gydsyniad Brenhinol ar 18 Tachwedd 2004 ac o hynny ymlaen cafodd ei adnabod fel Deddf Argyfyngau Sifil 2004 (y "Ddeddf").
Trosolwg ar y Ddeddf
Rhennir y Ddeddf yn ddwy ran sylweddol:
- Rhan 1: yn canolbwyntio ar drefniadau lleol ar gyfer diogelwch sifil, gan sefydlu fframwaith statudol o reolau a chyfrifoldebau ar gyfer ymatebwyr lleol.
- Rhan 2: yn canolbwyntio ar bwerau brys, gan sefydlu fframwaith modern ar gyfer defnyddio mesurau deddfwriaethol arbennig a allai fod yn angenrheidiol i ymdrin ag effeithiau'r argyfyngau mwyaf difrifol.
Rhan allweddol o foderneiddio'r ddeddfwriaeth bresennol yw diweddaru'r hyn a olygir gan "argyfwng".
Diffinio Argyfwng
Mae diffiniad argyfwng yn y Ddeddf yn canolbwyntio ar ganlyniadau argyfyngau. Yn y ddeddf, diffiniad argyfwng yw:
- digwyddiad neu sefyllfa sy'n bygwth niwed difrifol i les dynol;
- digwyddiad neu sefyllfa sy'n bygwth niwed difrifol i’r amgylchedd; neu
- rhyfel, neu derfysgaeth, sy'n bygwth niwed difrifol i ddiogelwch.
Oherwydd bod Awdurdodau Lleol yn cael eu cynnwys fel Ymatebwyr "Categori 1" ynghyd â'r Gwasanaethau Brys, Cyrff Iechyd ac Asiantaethau'r Llywodraeth, mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â chwe "dyletswydd" o dan y Ddeddf.
Y rhain yw:
- Asesu'r risg o argyfyngau a defnyddio hyn i lywio cynlluniau wrth gefn;
- Rhoi cynlluniau argyfwng ar waith;
- Rhoi trefniadau Rheoli Parhad Busnes ar waith;
- Rhoi trefniadau ar waith i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd am faterion diogelwch sifil a chynnal trefniadau i rybuddio, hysbysu a chynghori'r cyhoedd os bydd argyfwng;
- Rhannu gwybodaeth ag ymatebwyr lleol eraill i wella cydgysylltu ac effeithlonrwydd;
- Cydweithredu ag ymatebwyr lleol eraill i wella cydgysylltu ac effeithlonrwydd;
Cymunedau'n Trechu Terfysgaeth
Rydym yn falch o gefnogi Ymgyrch ACT – Gweithredu i Drechu Terfysgaeth Plismona Gwrthderfysgaeth i annog y cyhoedd i helpu'r heddlu i fynd i'r afael â therfysgaeth ac achub bywydau drwy roi gwybod am unrhyw ymddygiad a gweithgaredd amheus.
Mae'r bygythiad terfysgol yn parhau, a bellach mae'n bwysicach nag erioed fod pawb – gan gynnwys staff y Cyngor – yn cyfrannu at fynd i'r afael â therfysgaeth. Gallai ein gweithredoedd achub bywydau.
Yn yr un modd â throseddwyr eraill, mae angen i derfysgwyr gynllunio. Os ydych yn clywed rhywbeth anarferol neu amheus, dilynwch eich greddf a GWEITHREDWCH drwy roi gwybod yn gyfrinachol ar gov.uk/ACT. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Gwyliwch y ffilm ACT i ddysgu rhagor
Dolnnau Defnyddiol
Mae’r dolenni isod yn rhoi rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae’r dyletswyddau hyn yn berthnasol i Gyngor Sir Caerfyrddin. Nodwch fod y dolenni hyn ar gael i rai swyddogion yn unig yn yr Awdurdod.
Mae Strategaeth Cynnwys 2025-27 yn amlinellu ein hymrwymiad i ymgysylltu â’n trigolion trwy ddulliau cynhwysol, tryloyw a chydweithredol i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dylunio a’u darparu mewn ffordd sydd wirioneddol o fudd i’r gymuned.
Oherwydd deddfwriaeth ddiweddar sy’n ymwneud â’r Gymraeg a datblygiadau ym maes polisi iaith yng Nghymru, mae hi’n amserol i Gyngor Sir Gâr i sicrhau bod trefniadau priodol a digonol yn eu lle i staffio gwasanaethau dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg i’r cyhoedd yng Nghymru.
Nod Polisi Recriwtio a Dethol Cyngor Sir Caerfyrddin yw sicrhau bod penodiadau mewnol ac allanol i swyddi ar bob lefel o fewn yr Awdurdod yn digwydd yn deg, yn gyson ac yn ddiogel. Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn sicrhau bod y gweithle'n cynnwys gweithwyr sydd â'r wybodaeth, sgiliau, profiad a nodweddion i sicrhau'r perfformiad gorau posibl o ran gweithgareddau'r Cyngor, gan sicrhau gwasanaethau gwerth gorau i gymunedau Sir Gaerfyrddin.
Fel gweithiwr, mae'n rhaid i chi gymryd cyfrifoldeb am unrhyw beth yr ydych yn ei bostio ar-lein – yn rhinwedd eich gwaith ac yn eich amser hamdden ar eich cyfrifon personol. Rydym wedi datblygu polisi sydd wedi'i gynllunio i'ch cefnogi a'ch diogelu pan fyddwch yn postio gwybodaeth neu sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol.
Sylwch fod gennym bolisi cyfryngau cymdeithasol y mae'n rhaid cadw ato bob amser wrth ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol at ddibenion gwaith neu yn eich amser eich hun.
Rydym yn gwbl ymroddedig i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth i chi a'r gymuned yr ydym yn ei wasanaethu drwy ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Rydym yn darparu gwybodaeth a chyfarwyddyd i chi am ein hymrwymiad a'n cyfrifoldebau unigol er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni'n nodau.
Mae Safonau’r Iaith Gymraeg yn egluro cyfrifoldeb yr Awdurdod i ddarparu gwasanaeth ddwyieithog i’n cwsmeriaid ac i hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn ein gweithle.
Gellir cael mwy o fanylion yn yr Hysbysiad Cydymffurfio oddi wrth Comisiynydd yr Iaith Gymraeg.
Mae'r pecyn cymorth hwn yn cynnwys offer gwahanol a fydd o gymorth yn y gwahanol gyfnodau o gynllunio gweithlu. Lluniwyd ar gyfer Pobl ar gyfer Penaethiaid Gwasanaeth a'u timau rheoli i'w helpu i nodi blaenoriaethau a chamau gweithredu allweddol y bydd eu hangen ar eu gwasanaeth er mwyn iddo ymateb i faterion yn ymwneud â'r gweithlu yn y dyfodol.
Mae ein bwrdd gweithredol wedi amlinellu bron i 100 o brosiectau blaenoriaeth, cynlluniau neu wasanaethau y mae'n bwriadu eu cyflawni dros y pum mlynedd nesaf.
Mae'n nodi'r prif feysydd buddsoddi a gwella y bydd aelodau'r bwrdd gweithredol yn eu gyrru yn ystod gweddill eu cyfnod yn eu swyddi, yn ogystal â gweithredu gwasanaethau'r cyngor o ddydd i ddydd.
Lawrlwythiadau:
