Sut i archebu ystafell
Diweddarwyd y dudalen: 27/02/2025
Cyn i chi archebu ystafell gyfarfodydd, mae angen i chi sicrhau bod yr ystafell ar gael yn gyntaf. Ar ôl ichi wneud hyn, symudwch ymlaen i'r camau isod.
Cam 1
Agorwch eich calendr a dewiswch yr opsiwn "Cyfarfod Newydd" yng nghornel chwith uchaf eich sgrin.
Cam 2
Cliciwch ar y botwm "At" ac yna torrwch a gludwch enw Outlook yr ystafell gyfarfodydd (mae'r wybodaeth hon wedi'i darparu ym manylion yr ystafell ar gyfer pob lleoliad) neu chwiliwch am yr ystafell gyfarfodydd.
Neu, gallwch glicio ar gwymplen y "Llyfr Cyfeiriadau" a dewis "All rooms". Ar ôl i chi ddod o hyd i'r ystafell gywir, cliciwch ddwywaith i'w gadarnhau a chliciwch “Iawn”. Mae'n rhaid i chi ychwanegu'r ystafell gyfarfodydd i'r bar "At" er mwyn ei harchebu. Ni fydd y tîm yn cael gwybod am y cyfarfod drwy ei hychwanegu at y bar Lleoliad yn unig.
Cam 3
Nodwch y pwnc, dyddiad/amser dechrau a dyddiad/amser gorffen ac unrhyw gais ychwanegol yn y prif flwch testun. Cliciwch "Anfon".
Ar ôl i chi anfon y cais, gallwch agor calendr yr ystafell gyfarfodydd a byddwch yn gallu gweld eich cais yn llwyd. Ar ôl i'r cais gael ei dderbyn, byddwch yn cael gwybod drwy e-bost.
Mwy ynghylch Ystafelloedd Cyfarfodydd