Marwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin
1135 diwrnod yn ôl
Fel y gwyddoch o bosibl, mae Palas Buckingham wedi rhoi gwybod i ni am farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin.
Bydd Cadeirydd y Cyngor, sef y Cynghorydd Cllr Ieuan Davies, bellach yn ysgrifennu at Ei Mawrhydi y Frenhines a'r Teulu Brenhinol i gydymdeimlo'n ddwys ar ran aelodau, staff a phreswylwyr Sir Gaerfyrddin.
Yn dilyn protocol cenedlaethol, mae'r baneri wedi cael eu gostwng i hanner mast yn Neuadd y Sir, Neuadd y Dref, Llanelli a Neuadd y Dref, Rhydaman.
Mae'n bwysig bod pob aelod o staff yn ystyried yn ofalus pa mor briodol yw unrhyw ddigwyddiadau neu wybodaeth sydd i'w chyhoeddi yn ystod y cyfnod o alaru cenedlaethol. Cofiwch ofyn am gyngor ar unwaith gan y tîm Marchnata a'r Cyfryngau cyn postio neu amserlennu unrhyw wybodaeth i'r cyhoedd neu gynnal digwyddiadau cyhoeddus neu rithwir i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal yn unol â phrotocol.
Caiff gwybodaeth bellach am ddigwyddiadau ei rhannu ar ein gwefan www.sirgar.llyw.cymru ac ar ffrydiau cyfryngau cymdeithasol yn y dyddiau nesaf.
Erthygl gan: Laura Morris, Uwch Swyddog y Wasg