Her Camau'r Gwanwyn 2024

9 diwrnod yn ôl

I ddathlu Mis Cerdded Cenedlaethol, rydym yn lansio ein Her Camau! Mae'r cysyniad yn syml – gwnewch gynifer o gamau ag y gallwch dros y cyfnod o bythefnos.

Mae sawl ffordd o wneud eich camau, p'un a yw'n mynd allan am dro yn ystod eich egwyl ginio, yn cerdded i'r siop leol yn hytrach na gyrru, yn mynd allan i redeg ar ôl gwaith neu hyd yn oed rhedeg yn yr unfan yn ystod eich cyfarfod tîm rhithwir (mae wedi digwydd o'r blaen!). Mae pob cam yn cyfrif felly ceisiwch fod mor ddyfeisgar â phosibl. 

Mae'r her camau eleni yn mynd i fod ychydig yn wahanol. Yn hytrach na chael eu hychwanegu at Sianel Teams, gall cyfranogwyr lawrlwytho taenlen Excel.

Bydd yr her yn cael ei chynnal eleni rhwng dydd Llun 13 Mai am 12:00am a 26 Mai am 23:59. Gallwch gymryd rhan fel unigolyn neu fel grŵp. Ni ddylai grwpiau gynnwys mwy na 10 o bobl.

Bob wythnos bydd y daenlen Excel yn cyfrif eich camau ar gyfartaledd (gwneir hyn ar gyfer unigolion a grwpiau).

Ar ddiwedd y bythefnos, mae'r opsiwn o gyflwyno'ch camau ar gyfartaledd ar Microsoft Forms. Os hoffech gyflwyno eich camau, gallwn weld pa unigolyn neu dîm wnaeth y camau mwyaf a bydd enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin. 

Fodd bynnag, nid yw cyflwyno eich camau yn orfodol ac os hoffech chi lawrlwytho'r ffurflenni Excel a chadw golwg ar eich camau eich hun at eich defnydd personol, mae hynny hefyd yn opsiwn.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau ar y fewnrwyd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, anfonwch e-bost at iechydallesiant@sirgar.gov.uk.

Erthygl gan: Tim Iechyd a Llesiant