Iechyd a Llesiant - Hyfforddiant a Chefnogaeth
1354 diwrnod yn ôl
Yn dilyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, rydym am barhau â'r sgwrs a chodi rhagor o ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael yn yr awdurdod. Mae gennym lawer o gymorth ac adnoddau ar ein tudalennau mewnrwyd, o wybodaeth a chyngor am wella straen ac iechyd meddwl, i gysylltiadau lu ag elusennau a gwasanaethau cymorth.
Os ydych chi'n teimlo'n angerddol am eiriolaeth iechyd meddwl a helpu i roi terfyn ar stigma, beth am gofrestru i ymuno â'n rhwydwaith cynyddol o Gynorthwywyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl . Mae ein cwrs nesaf yn dechrau ar 16 Tachwedd, ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael felly peidiwch â cholli'r cyfle!
Yr wythnos hon, mae Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin hefyd yn cynnal sesiynau ar gyfer Wythnos Get Online. Maent yn hyrwyddo eu e-lyfrau a'u e-lyfrau sain, gan roi pwyslais ar eu casgliadau Iechyd a Llesiant. Gallwch gael mynediad at e-lyfrau ac e-lyfrau sain 24/7 am ddim fel aelod o Lyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin drwy wefan neu ap Borrowbox gan ddefnyddio eich rhif cerdyn Llyfrgell a'ch PIN.
Rydym ni i gyd yn gwybod bod gofalu amdanom ni ein hunain a'n llesiant yn allweddol er mwyn cefnogi Iechyd Meddwl da. Felly os ydych am ddechrau eich taith i iechyd gwell, mae amryw wybodaeth ar ein tudalennau Iechyd a Llesiant, yn ogystal ag offer ac adnoddau i annog a chefnogi ffyrdd iach o fyw.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost i health&wellbeing@sirgar.gov.uk.