Cefnogi Llesiant Ariannol

3 awr yn ôl

Rydym yn deall y gall rheoli eich arian fod yn anodd weithiau. Gyda chostau byw ar gynnydd, rydym wedi ymrwymo i helpu ein gweithwyr i deimlo'n fwy diogel a hyderus am eu harian. Dyna pam rydym wedi cyflwyno rhai mentrau allweddol i gefnogi eich llesiant ariannol.

Un o'r ffyrdd rydym yn gwneud hyn yw drwy ein partneriaeth â Salary Finance. Bwriad y gwasanaeth hwn yw ei gwneud hi'n haws i chi reoli eich arian. Gyda Salary Finance, gallwch gael benthyciadau fforddiadwy sy'n cael eu had-dalu'n uniongyrchol o'ch cyflog, a all fod yn hynod ddefnyddiol os bydd costau annisgwyl yn dod ar eich traws. Maent hefyd yn cynnig cymorth a chyngor ariannol defnyddiol, fel y gallwch gadw rheolaeth ar gyllidebu a chynllunio heb straen.

At hynny, mae gennym My money matters sy'n llwyfan ar-lein ar gyfer addysg, cefnogaeth a gwasanaethau ariannol wedi'u teilwra; o gyfraniadau gwirfoddol ychwanegol (AVCs) i gyllidebu ac yswiriant.

Mae’r Cynllun Beicio i’r Gwaith yn fenter â chefnogaeth y Llywodraeth sy’n eich galluogi chi i gael beic a/neu nwyddau beicio i’w defnyddio wrth feicio i’r gwaith, wrth arbed taliadau treth ac Yswiriant Gwladol o’ch cyflog gros. Rydych yn dewis eich cyfuniad perffaith o feic a nwyddau ac yna’n rhentu’r offer drwy ostyngiad cyflog gan Cyngor Sir Gar.

Ond nid dyna'r cyfan. Mae gennym hefyd Gynllun Buddion Staff gwych sydd wedi'i gynllunio i wneud eich bywyd bob dydd ychydig yn fwy fforddiadwy. Mae'r cynllun hwn yn cynnwys gostyngiadau ar bopeth o'ch siop wythnosol i wyliau, gan eich helpu i arbed arian lle mae'n cyfrif. Bellach mae ap ar gael i'w lawrlwytho i roi mynediad i chi i'r buddion hyn o'ch ffôn symudol. 

Ein nod yw sicrhau eich bod nid yn unig yn cael cefnogaeth yn eich swydd, ond yn eich bywyd y tu allan i'r gwaith hefyd. Pan nad oes rhaid poeni am eich sefyllfa ariannol, rydym yn gwybod ei bod hi'n haws canolbwyntio, bod yn gynhyrchiol, a mwynhau eich bywyd o ddydd i ddydd. Rydym yma i'ch helpu chi i greu'r ymdeimlad hwnnw o sefydlogrwydd ariannol a thawelwch meddwl, fel y gallwch ffynnu yn y gwaith a gartref.


Am fwy o wybodaeth, gweler ein Buddion Staff neu ewch i gyngor a chymorth ariannol.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau, pryderon neu awgrymiadau sy’n ymwneud â llesiant, cysylltwch â’r Tîm Iechyd a Lles yn gyfrinachol drwy’r ffurflen gyswllt ar-lein. Gallwch hefyd anfon e-bost atom yn iechyd&lles@sirgar.gov.uk

Darperir cyngor yn bennaf dros y ffôn, e-bost a Microsoft Teams gyda wyneb yn wyneb yn ôl yr angen.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalennau Iechyd a Lles.