Cadw'n Iach dros y Nadolig
13 diwrnod yn ôl
Mae cyfnod yr ŵyl yn amser i ymlacio, treulio amser gydag anwyliaid a chael seibiant haeddiannol, rhywbeth y gallai fod ei angen arnom yn fwy nag arfer eleni. Fodd bynnag, gall y Nadolig hefyd fod yn gyfnod unig neu lawn straen i rai felly mae'n bwysig ein bod yn gofalu amdanom ein hunain, ac yn aros yn hapus ac yn iach.
Rydym wedi llunio rhestr o'n deg argymhelliad gorau ar gyfer cadw'n iach y Nadolig hwn a fydd, gobeithio, yn eich helpu i wneud y gorau o'r adeg bleserus hon o'r flwyddyn:
- Byddwch yn bresennol a mwynhewch. Ceisiwch anghofio am bopeth sy'n digwydd; a mwynhau treulio amser gyda'ch anwyliaid, sylwch ar y pethau bychain a'u gwerthfawrogi.
- Gofynnwch am help. Gall cyfnod yr ŵyl fod yn gyfnod anodd, unig neu lawn straen i rai, felly os ydych chi'n teimlo eich bod yn cael eich llethu neu'n methu ag ymdopi, gofynnwch am help.
- Paratowch ymlaen llaw. Mae'r Nadolig yn gyfnod prysur i bob un ohonom, felly ceisiwch gadw pethau mewn trefn drwy fod yn barod a chynllunio ymlaen llaw, boed hynny ar gyfer siopa Nadolig neu ddigwyddiadau cymdeithasol. Beth am osod cyllideb i'ch hun er mwyn sicrhau nad ydych chi'n gwario gormod?
- Ewch i gael awyr iach a chadwch yn heini. Mae mynd allan bob dydd i gael awyr iach yn ffordd wych o guro teimladau o straen a'ch helpu i deimlo'n hamddenol. Mae wedi'i brofi hefyd bod ymarfer corff yn hybu hunan-barch, yn eich helpu i ganolbwyntio ac yn gwella'ch cwsg, felly sicrhewch fod gweithgarwch corfforol yn parhau i fod yn rhan o'ch trefn ddyddiol drwy gydol cyfnod yr ŵyl.
- Gwnewch yr hyn sy'n eich gwneud chi'n hapus. Sicrhewch eich bod yn neilltuo amser ar gyfer y diddordebau neu'r gweithgareddau rydych chi'n eu mwynhau. Gall cyfnod yr ŵyl fod yn brysur iawn ond mae'n bwysig parhau i wneud y pethau sy'n gwneud i chi wenu.
- Croesawch y gwahaniaeth. Bydd y Nadolig ychydig yn wahanol eleni; ceisiwch groesawu'r newid a dod o hyd i ffyrdd newydd o fwynhau eich traddodiadau arferol.
- Rheolwch eich disgwyliadau. Mae llawer o bobl yn teimlo pwysau dros y Nadolig i blesio pawb. Ceisiwch fod yn realistig ynglŷn â'r hyn y gallwch ei gyflawni, peidiwch â phoeni os nad yw pethau'n dilyn y cynllun a chanolbwyntio ar fwynhau eich hun gyda'ch anwyliaid.
- Cysylltwch â'r rheiny sydd agosaf atoch. Nid yw llawer ohonom wedi gallu treulio amser gydag anwyliaid eleni felly manteisiwch ar yr adeg hon i gysylltu â'ch ffrindiau a'ch teulu, boed hynny'n bersonol neu'n rhithwir.
Cadwch yn iach ac yn ddiogel a Nadolig Llawen!
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich iechyd meddwl a lles a byddem yn annog pob aelod o staff i:
Ewch i'r tudalennau mewnrwyd Straen, Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol i gael rhagor o wybodaeth a chymorth.
Gweler hefyd ein tudalen Cymorth a Chymorth ar gyfer sefydliadau ac adnoddau allanol.
Gweler hefyd ein rhestr o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch iechyd&lles@sirgar.gov.uk