Parcio yn Neuadd y Sir

20 diwrnod yn ôl

Mae nifer o swyddogion nad oes ganddynt leoedd parcio dynodedig yn parcio yn Neuadd y Sir, ac mae hyn yn achosi problemau i ddeiliaid hawlenni a'r gofalwyr.

Mae'r gofalwyr hefyd yn dioddef ymddygiad sarhaus ar lafar gan staff pan fyddant yn dweud wrthynt nad ydynt yn gallu rhoi lle parcio iddynt. Nid yw hyn yn dderbyniol.

Nodwch, os ydych wedi eich lleoli yn Heol Spilman a bod gennych gyfarfod yn Neuadd y Sir, ni ellir darparu lleoedd parcio i ymwelwyr.

Gofynnir i bob deiliad hawlen sicrhau bod yr hawlenni'n cael eu harddangos bob amser.