Ffurflen ar-lein newydd i archebu cyfieithu ar y pryd ar gyfer eich cyfarfod/digwyddiad
45 diwrnod yn ôl
Ydych chi'n trefnu cyfarfod neu ddigwyddiad ac angen darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd?
Gallwch nawr archebu hyn drwy'r ffurflen archebu ar-lein newydd a hawdd hon.
Mae darparu cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfod yn galluogi pawb sy'n bresennol i ddefnyddio eu dewis iaith yn naturiol a hawdd ac yn sicrhau bod y rhai nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg yn gallu deall a dilyn yr hyn sy'n cael ei ddweud gan siaradwyr Cymraeg.
Cysylltwch cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau y gellir darparu'r gwasanaeth i chi gan fod y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn brysur iawn.*
Gellir dod o hyd i'r ffurflen archebu ar-lein ar y tudalennau Marchnata a'r Cyfryngau neu ar y tab 'Hoffwn' ar y fewnrwyd.
Ychydig o bwyntiau i'w cofio wrth lenwi'r ffurflen:
- Cysylltwch â ni gyda’r manylion cyn gynted â phosibl er mwyn i ni drefnu cyfieithydd.
- A yw eich cyfarfod yn cael ei ariannu gan grant / trydydd parti? Os felly, bydd angen darparu côd ariannol
- Os yw eich cyfarfod yn cael ei gynnal yn rhithwir ar Teams, rhaid i drefnydd y cyfarfod anfon y gwahoddiad Teams a sicrhau bod yr opsiwn cyfieithu wedi'i osod ar y gwahoddiad. Mae cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn ar y fewnrwyd (dolen isod) a gallwn helpu drwy wneud 'prawf' cyn y cyfarfod i wirio bod popeth yn gweithio. Cyfieithu ar y pryd yn Microsoft Teams
- Os oes modd, anfonwch unrhyw bapurau ac agenda perthnasol ar gyfer y cyfarfod at y cyfieithydd cyn y cyfarfod
*Os na allwn drefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i chi yn fewnol byddwn yn ceisio trefnu cyfieithydd allanol, fodd bynnag, nodwch y gallai fod cost am hyn.
Mae canllawiau ar gael ar y fewnrwyd i'ch helpu i weithio'n ddwyieithog
Os oes angen cyngor pellach arnoch am weithio'n ddwyieithog, cysylltwch â'n Swyddogion Polisi