Diwrnod Rhyngwladol Hunanofal

5 awr yn ôl

Bob blwyddyn ar 24 Gorffennaf, mae Diwrnod Rhyngwladol Hunanofal  yn cael ei ddathlu’n fyd-eang i bwysleisio arwyddocâd hunanofal a'i fanteision iechyd gydol oes. Drwy nodi hyn yn flynyddol mae'n annog unigolion i flaenoriaethu arferion hunanofal, gan feithrin eu llesiant corfforol, emosiynol a meddyliol. Cafodd Diwrnod Rhyngwladol Hunanofal ei sefydlu gan y Sefydliad Hunanofal Rhyngwladol (ISF) yn 2011. Mae dewis y dyddiad 24 Gorffennaf, neu 7/24, yn tanlinellu'r cysyniad hanfodol bod hunanofal yn gyfrifoldeb 24/7. Nid ymarfer unwaith yn unig yw hyn, ond ymrwymiad dyddiol, gan danlinellu'r syniad bod manteision hunanofal yn mynd y tu hwnt i gyfyngiadau un diwrnod.

Beth yw hunanofal? 

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio hunanofal fel unigolion, teuluoedd a chymunedau yn hyrwyddo a chynnal eu hiechyd eu hunain, atal afiechydon, ac ymdopi â salwch ac anabledd, gyda chymorth gweithiwr iechyd neu hebddo.

Pam mae hunanofal mor bwysig? 

Mae hunanofal yn ymwneud â grymuso pobl i fynd ati i ofalu am eu hiechyd a'u llesiant eu hunain. Mae ymyriadau hunanofal yn rhoi dewis i bobl a'r opsiwn i gael mynediad at ofal iechyd ble bynnag a phryd bynnag y dymunant.

Mae hunanofal wedi dod yn hynod bwysig wrth i bobl sylweddoli'r angen i ofalu am eu hunain a rhoi eu hunain yn gyntaf. Mae hyn wedi gwneud i bobl siarad amdano ac mae wedi cynyddu diddordeb eraill i gymryd rheolaeth o'u hiechyd a'u llesiant trwy flaenoriaethu eu hunain. Heddiw, rydym yn eich annog i ymarfer hunanofal, hyd yn oed os mai'r cyfan a wnewch yw mynd am dro.

Mae hunanofal yn cynnwys popeth sy'n gysylltiedig ag aros yn iach, yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol; dyma'r camau rydyn ni'n eu cymryd bob dydd sy’n ymgorffori 5 Cam at Lesiant y GIG. Cysylltu, rhoi, cymryd sylw, bod yn egnïol a pharhau i ddysgu. Mae astudiaethau'n awgrymu y gall hunanofal rheolaidd a dyddiol ddatblygu eich cryfder a'ch gwytnwch, gwella ffocws, a chryfhau perthnasoedd; mae'n eich cefnogi i ofalu amdanoch chi eich hun ac eraill, yn eich cefnogi yn eich swydd ac yn cynnig golwg cadarnhaol a hapusach ar weithgareddau bob dydd.

Mae'r tîm iechyd a llesiant wedi datblygu'r Calendr Hunanofal sy'n rhoi awgrymiadau dyddiol i’ch helpu tuag at fod yn hapusach ac yn iachach.

Gallwch hefyd ymweld â'n tudalennau iechyd a llesiant Cyngor ar Ffordd o Fyw ac Archwiliad Hunan-iechyd