Hawl Newydd i Absenoldeb Tadolaeth Partner mewn Profedigaeth

2 diwrnod yn ôl

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi gweithwyr drwy ddigwyddiadau bywyd arwyddocaol a sicrhau bod staff yn cael y cymorth a'r hyblygrwydd sydd eu hangen arnyn nhw wrth wynebu amgylchiadau anodd.

O 6 Ebrill 2026, cafodd hawl newydd i Absenoldeb Tadolaeth Partner mewn Profedigaeth ei chyflwyno i roi cymorth i weithwyr sy'n mynd yn brif ofalwr plentyn ar ôl marwolaeth mam neu fabwysiadwr y plentyn yn ystod blwyddyn gyntaf bywyd neu leoliad mabwysiadu'r plentyn. 

Gallai gweithwyr cymwys fod â hawl i gael hyd at 52 wythnos o absenoldeb, gan eu helpu i gydbwyso cyfrifoldebau gofalu yn ystod cyfnod eithriadol o anodd. Mae'r hawl yn berthnasol mewn amgylchiadau geni a mabwysiadu, yn amodol ar feini prawf cymhwysedd. 

Mae'r hawl newydd hon yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i lesiant gweithwyr ac yn cydnabod pwysigrwydd rhoi amser a chymorth i'r rhai sy'n addasu i amgylchiadau teuluol newidiol wrth ofalu am blentyn.

Dylai gweithwyr sy'n credu eu bod yn gymwys, neu sydd am gael rhagor o wybodaeth, siarad â'u rheolwr neu gysylltu ag Adnoddau Dynol. Mae manylion llawn, gan gynnwys meini prawf cymhwysedd a sut i wneud cais, ar gael ar y fewnrwyd