Newidiadau i'r Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau Fersiwn 7, Gorffennaf 2026
9 diwrnod yn ôl
Mae'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau (CPRs) wedi cael eu hadolygu a'u diweddaru ymhellach ar ôl eu hadolygu cychwynnol i adlewyrchu Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael Cymru) 2024 (yn effeithiol ar 24 Chwefror 2025).
Mae'r diweddariadau allweddol yn cynnwys:
Trothwy Tendrau diweddaredig nawr yn £100,000 (gan gynnwys TAW), sy'n adlewyrchu'r gofyniad o dan Ddeddf Caffael 2023 i asesu trothwyon ar sail bod yn gynhwysol o TAW, ac sy'n golygu bod y trothwy blaenorol a oedd yn eithrio TAW yn cynrychioli gwerth cyfatebol is (Adran CPR 8).
Cryfhau llywodraethu a goruchwylio, gan gynnwys gofynion estynedig i ymgysylltu â'r Uned Gaffael Corfforaethol ar gyfnodau allweddol (Adrannau CPR 4 ac 11).
Darpariaeth newydd sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Tîm Rheoli Corfforaethol (CMT) lle mae'r Cyngor yn bwriadu gweithredu fel Awdurdod Arweiniol ar gyfer ymarferiadau caffael cydweithredol (Cymal CPR 5.2).
Gofyniad am gymeradwyaeth ysgrifenedig gan Bennaeth Gwasanaeth cyn dyfarnu ar gyfer pob ymarferiad caffael dros y Trothwy, gan gynnwys contractau, fframweithiau a galwadau (Cymal CPR 11.1).
Dyletswyddau deddfwriaethol wedi’u hegluro a’u cryfhau, gan gynnwys Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (CPR 1.10).
Alinio prosesau addasu a chymeradwyo contract gyda Deddf Caffael 2023 (gan gynnwys Adran 74 ac Atodlen 8), gyda llwybrau cymeradwyo wedi'u hegluro (CPR 14).
Rheolaethau llywodraethu ychwanegol, gan gynnwys ymgysylltu gorfodol â Gwasanaethau Digidol ac ymgynghori â Gwasanaethau Corfforaethol lle bo hynny'n berthnasol (Adrannau CPR 4 a 4.15).
Egluro cwmpas a chymhwyso darpariaethau, gan gynnwys dewis defnyddiwr penodol i Ofal Cymdeithasol (CPR 13) a thrin eithriadau uwchlaw'r Trothwy y tu allan i Atodlen 5 (CPR 13.4.2).
Gwell gofynion tryloywder ac adrodd, gan gynnwys hysbysiadau piblinell, contract a thaliadau, a gofynion awdurdodi cysylltiedig (Adrannau CPR 17–19).
Ar y cyfan, bwriad y diweddariadau hyn yw cefnogi cymhwyso'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau ar draws yr Awdurdod yn gyson ac yn gydymffurfiol, darparu mwy o eglurder i swyddogion, ac adlewyrchu’r dysgu o ganlyniad i weithrediad cychwynnol y drefn gaffael newydd.
