Arolwg Ymgysylltu â Staff 2026
17 awr yn ôl
Rydyn ni'n gwahodd yr holl staff i gymryd rhan yn ein Harolwg Ymgysylltu â Gweithwyr blynyddol – eich cyfle i rannu eich barn a helpu i lunio dyfodol gweithio yng Nghyngor Sir Caerfyrddin.
Mae eich adborth yn parhau i chwarae rôl hanfodol wrth ein helpu ni i greu gweithle gwell i bawb. Ers yr arolwg diwethaf, rydym ni wedi gweithredu ar lawer o'ch awgrymiadau. Gallwch chi ddarllen am y newidiadau rydym ni wedi'u gwneud a chael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd drwy ein tudalen Llais Staff ar y fewnrwyd.
Mae'r arolwg ar agor tan 17 Gorffennaf ac ni ddylai gymryd mwy na 10 munud i'w gwblhau. Mae'n hollol ddienw, felly rydym yn eich annog i fod yn agored ac yn onest yn eich ymatebion.
Ar ôl i'r arolwg gau, byddwn ni'n adolygu'r holl adborth yn ofalus, yn rhannu crynodeb o'r canlyniadau, ac yn amlinellu'r camau nesaf y byddwn ni'n eu cymryd yn seiliedig ar yr hyn rydych chi wedi'i ddweud wrthym ni. Byddwn hefyd yn cymharu ymatebion eleni ag arolwg 2025 i fonitro ein cynnydd.
Dyma'ch cyfle i ddweud wrthym ni sut beth yw gweithio yma – a sut y gallwn ni ei wneud hyd yn oed yn well.
Gallwch chi gwblhau'r arolwg nawr drwy ddefnyddio unrhyw ddyfais personol ne ddyfais y Cyngor.
