Grwpiau Cymorth gan Gyfoedion - Iechyd a Llesiant
5 awr yn ôl
Fel rhan o ymrwymiad Cyngor Sir Caerfyrddin i greu gweithle iach, cynhwysol a chefnogol, mae ein Grwpiau Cymorth gan Gyfoedion – Iechyd a Llesiant yn darparu cyfleoedd i gydweithwyr gysylltu â'i gilydd, rhannu profiadau a chefnogi ei gilydd mewn amgylchedd diogel a pharchus.
Rydyn ni'n cynnig y canlynol ar hyn o bryd:
- Rhwydwaith LGBTQIA+ – Rhwydwaith cefnogol sy'n hyrwyddo cynhwysiant, yn dathlu amrywiaeth ac yn darparu cyfleoedd i gydweithwyr gysylltu â'i gilydd a rhannu profiadau.
- Caffi Menopos – Gofod anffurfiol lle gall cydweithwyr drafod y menopos a'r perimenopos, rhannu profiadau a chael mynediad at gymorth gan gyfoedion.
Rydyn ni hefyd yn datblygu Grŵp Cymorth gan Gyfoedion – Niwroamrywiaeth, a fydd yn darparu fforwm cefnogol i gydweithwyr a chynghreiriaid niwroamrywiol, gan helpu i godi ymwybyddiaeth, annog dealltwriaeth a hyrwyddo gweithle cynhwysol.
Mae ein grwpiau cymorth gan gyfoedion yn agored i gydweithwyr sy'n uniaethu â'r grŵp, yn ogystal â'r rhai sy'n dymuno dysgu mwy a chefnogi diwylliant cynhwysol.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gymryd rhan, cysylltwch â'r Tîm Iechyd a Llesiant neu ewch i'n tudalennau mewnrwyd i weld y cyfarfodydd a'r digwyddiadau sydd i ddod.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, pryderon neu awgrymiadau sy'n gysylltiedig â llesiant, cysylltwch â'r Tîm Iechyd a Llesiant yn gyfrinachol drwy'r ffurflen gyswllt ar-lein. Gallwch hefyd anfon neges e-bost atom: iechydallesiant@sirgar.gov.uk
Bydd cyngor a chymorth yn cael eu darparu'n bennaf dros y ffôn, ar e-bost ac ar Microsoft Teams, ynghyd ag wyneb yn wyneb pan fydd angen.
Fe welwch fwy o wybodaeth ar ein tudalennau Iechyd a Llesiant
