Dechreuwch (neu parhewch) eich taith Gymraeg – cyrsiau ar agor nawr

1 diwrnod yn ôl

P’un a ydych chi’n newydd sbon neu’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau presennol, mae gennym amrywiaeth o gyrsiau Dysgu Cymraeg a sesiynau Sgwrsio wythnosol cyfeillgar ar agor nawr ar gyfer cofrestru. Os dych chi wedi bod yn meddwl am roi cynnig arni neu ail-ddechrau eto, dyma’r amser perffaith! Ewch amdani – rhowch gynnig arni…

Mynediad (Entry Level): Perffaith os ydych yn newydd i’r Gymraeg – dechreuwch siarad am bynciau bob dydd fel gwaith, teulu a hobïau.

  • Dydd Mercher 9:15 – 11:45
  • Gorffen: 24/03/27
  • Cofrestru

Sylfaen (Foundation): Meithrin eich hyder a datblygu patrymau iaith allweddol i gyfathrebu mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.

  • Dydd Mercher 13:15 – 15:45
  • Gorffen: 24/03/27
  • Cofrestru

Canolradd (Intermediate): Cymerwch y cam nesaf drwy gryfhau eich sgiliau siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando.

  • Dydd Iau 09:15 – 11:45
  • Gorffen: 24/03/27
  • Cofrestru

Sesiynau Sgwrsio: Sesiynau wythnosol anffurfiol a chyfeillgar i ymarfer eich Cymraeg—dim pwysau, dim ond sgwrsio. Addas ar gyfer POB lefel.

  • Mynediad – Sylfaen: Dydd Mercher 12:00 – 13:00; Cofrestru
  • Canolradd +: Dydd Iau 12:00 – 13:00; Cofrestru

Codi hyder:

Mae cyrsiau preswyl wythnos o hyd ar gael yn Nant Gwrtheyrn ar gyfer gwahanol lefelau.

Gallwch hefyd gael sesiynau 1-i-1 gyda thiwtor ar-lein os hoffech chi fwy o hyder i ddefnyddio’r Gymraeg sydd gennych eisoes – e-bostiwch: kellyamorris@sirgar.gov.uk

Ieithgar (THINQI)

Mae dau gwrs ar gael ar Thinqi i gefnogi eich dysgu:

  • Ieithgar 1 – yn berffaith i adolygu’r hanfodion neu fel cyflwyniad i’r Gymraeg.
  • Ieithgar Uwch (Gloywi) – i ddatblygu eich hyder ymhellach a deall yn well y defnydd o ei/eu, mai/mae a’r treigladau.