Shwmae!

12 awr yn ôl

Mae dathliadau wedi cael eu cynnal ar draws yr awdurdod ym mis Hydref i ddathlu diwrnod Shwmae Su'mae. Cynhaliodd aelodau o dîm yr adran Lle a Seilwaith gwis ar thema Cymru a chystadleuaeth Cacennau Cymreig [llun].

Cerddorion lleol yn perfformio yn ein marchnadoedd. Perfformiodd y chwiorydd, Heledd a Mared ym Marchnad Caerfyrddin ac roedd Cadog ym Marchnad Llanelli [llun].

Nod yr ymgyrch genedlaethol yw eich annog i ddefnyddio'r Gymraeg sydd gyda chi, beth bynnag yw lefel eich hyder. Nid yw'n ymwneud â siarad Cymraeg perffaith, ond am gymryd camau bach a defnyddio mwy o Gymraeg yn ein bywydau bob dydd.

Er bod diwrnod Shwmae Su'mae eisoes wedi cael ei gynnal (Hydref 15), mae yna lawer o opsiynau ar gael i chi helpu i wella neu ddechrau dysgu'r Gymraeg.

Cofiwch, gall hyd yn oed siarad bach o Gymraeg wneud gwahaniaeth mawr – defnyddiwch y Gymraeg sydd gyda chi.

Cyrsiau:

Gloywi'ch Cymraeg yn eich amser eich hun:

Datblygu a defnyddio'r Gymraeg sydd gyda chi: 

Barod i ddefnyddio mwy o Gymraeg? Gallwch ddarganfod ystod o gyfleoedd i feithrin eich sgiliau, rhoi hwb i'ch hyder, a chefnogi eraill. Boed hynny trwy gyrsiau, sesiynau ymarfer, neu ddod yn fentor, mae rhywbeth i bawb. Beth am roi cynnig arni?

Asesydd Cymraeg

Dewch i helpu i gefnogi a datblygu sgiliau iaith Cymraeg ar draws y sefydliad drwy ddod yn Asesydd Iaith. Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi'r wybodaeth a'r hyder i chi asesu cymwyseddau Cymraeg yn deg ac yn gyson.

Trosolwg - Hyfforddiant Asesydd Iaith Gymraeg - Digwyddiadau - Thinqi Sirgar

Ymarfer a pharatoi

Magu eich hyder gan ddefnyddio Cymraeg mewn sefyllfaoedd gweithle go iawn, o gyflwyniadau a chyfarfodydd i sgyrsiau bob dydd gyda chydweithwyr

Trosolwg - Grŵp Ymarfer - Digwyddiadau - Thinqi Sirgar            

Mentor Cymraeg

Gwnewch wahaniaeth trwy gefnogi cydweithwyr ar eu taith iaith. Mae bod yn Mentor Cymraeg yn gyfle arbennig i annog eraill, rhannu eich profiad, a helpu i greu gweithle mwy dwyieithog.

Trosolwg - Mentor Cymraeg - Digwyddiadau - Thinqi Sirgar

Dim ond sgwrsio

Os hoffech fwy o gyfleoedd i ymarfer y Gymraeg sydd gyda chi eisoes, ymunwch â'n sesiynau Sgwrsio bob pythefnos i roi'r byd yn ei le.

Trosolwg - Sgwrsio - Digwyddiadau - Thinqi Sirgar

Edrychwch ar dudalennau Dysgu a Datblygu ar gyfer y Gymraeg i wybod mwy am gyrsiau, darganfod eich lefel iaith, a'r 'pethau ychwanegol' y gallwch eu gwneud i wella'ch Cymraeg.

https://einpobl.sirgar.llyw.cymru/ein-pobl/dysgu-a-datblygu/iaith-cymraeg/