Mwynhewch gyfnod yr ŵyl, yn ddiogel ac yn barchus

23 awr yn ôl

Wrth i gyfnod yr ŵyl agosáu, bydd llawer ohonon ni'n edrych ymlaen at bartïon Nadolig a digwyddiadau cymdeithasol eraill gyda chydweithwyr. 

Mae'r rhain yn gyfle i ymlacio a dathlu gyda'n gilydd, ond mae'n bwysig cofio bod ein safonau ymddygiad disgwyliedig yn dal i fod yn berthnasol mewn digwyddiadau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â'r gwaith, lle bynnag y byddan nhw'n cael eu cynnal. Dylid trin pawb ag urddas a pharch, gan gynnwys cydweithwyr, gwesteion a thrydydd partïon.

Rydyn ni hefyd am i weithwyr wybod beth i'w wneud os ydyn nhw'n profi aflonyddu gan rywun y tu allan i'r Cyngor. Gall trydydd parti gynnwys preswylydd, defnyddiwr gwasanaeth, cwsmer, rhiant, disgybl, contractwr neu berson arall rydych chi'n dod i gysylltiad ag ef drwy eich gwaith.

Os ydych chi'n profi aflonyddu gan drydydd parti, rhowch wybod i'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf a chofnodi'r digwyddiad yn ffurfiol gan ddefnyddio Gweithdrefnau'r Cyngor ar gyfer rhoi gwybod am ddamweiniau, digwyddiadau a rhai fu bron â digwydd. 

Mae'n bwysig rhoi gwybod am ddigwyddiadau. Mae'n golygu bod modd mynd i'r afael â phryderon ac yn helpu'r Cyngor i ddeall ble mae'r risgiau a chymryd camau ataliol priodol. 

Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael yng Nghanllawiau Ymddygiad a Safonau'r Cyngor