Cytuno ar Ddyfarniad Cyflog 2026

9 awr yn ôl

Rydyn ni'n falch o gadarnhau y daethpwyd i gytundeb bellach ynghylch dyfarniad cyflog Gwasanaethau Llywodraeth Leol ar gyfer 2026. O dan y cytundeb, bydd yr holl bwyntiau cyflog cymwys yn cynyddu o 3.3%, o 1 Ebrill 2026

Mae Tîm y Gyflogres ar hyn o bryd yn gwneud y trefniadau angenrheidiol i roi’r dyfarniad ar waith. Bydd y cyfraddau cyflog diwygiedig ac unrhyw ôl-daliadau sy'n ddyledus o 1 Ebrill 2026 yn cael eu cynnwys yn y gyflogres ar gyfer mis Hydref.

Gan fod hwn yn gyfnod prysur i’r Gyflogres, byddem yn ddiolchgar pe gallai cydweithwyr osgoi cysylltu â'r tîm oni bai bod ganddynt ymholiad brys.

Os ydych chi'n derbyn budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm, fel Credyd Cynhwysol, byddwch yn ymwybodol y gall unrhyw ôl-daliadau a dderbynnir effeithio ar eich hawl. Os oes gennych unrhyw bryderon, dylech gysylltu â'ch Hyfforddwr Gwaith neu'r Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol am gyngor.

Bydd rhagor o wybodaeth, gan gynnwys graddfeydd cyflog wedi'u diweddaru, ar gael ar y fewnrwyd pan fydd y broses wedi'i chwblhau.