Adolygu Dulliau Cyfathrebu Dros y Ffôn
2 diwrnod yn ôl
Helpu llunio dyfodol ein dulliau cyfathrebu dros y ffôn
Mae'r Gwasanaethau Digidol yn parhau i adolygu dulliau’r Cyngor o gyfathrebu dros y ffôn i sicrhau eu bod yn parhau'n addas i'r diben, yn cefnogi ffyrdd modern o weithio ac yn diwallu anghenion ein gwasanaethau a'n cwsmeriaid.
Fel rhan o'r adolygiad, rydym yn edrych ar sut mae rhifau estyniad ffôn presennol a threfniadau dargyfeirio galwadau yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd. Dros y misoedd nesaf, cysylltir â rhai cydweithwyr i gadarnhau a oes angen eu trefniadau cyfathrebu dros y ffôn presennol o hyd, ac efallai y gofynnir iddynt ddarparu cyfiawnhad busnes dros gadw rhif estyniad penodol neu drefniant dargyfeirio galwad.
Rydyn ni'n deall bod gan bob gwasanaeth anghenion gweithredol gwahanol. Felly, bydd unrhyw benderfyniadau yn seiliedig ar ofynion busnes gwirioneddol, gan sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i gael eu cefnogi tra bod trefniadau'n cael eu symleiddio lle bo hynny'n briodol.
Diolch ymlaen llaw am eich cefnogaeth a'ch cyfraniad wrth i ni weithio gyda'n gilydd i ddatblygu gwasanaeth cyfathrebu mwy effeithlon a chynaliadwy sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
