Mis Ymwybyddiaeth Menopos
3 diwrnod yn ôl
Mis Hydref yw Mis Ymwybyddiaeth Menopos; pryd eir ati i addysgu'r cyhoedd a thorri'r stigma sy'n ymwneud â'r menopos. Er ei fod yn rhywbeth naturiol sy'n effeithio ar filiynau o fenywod, mae'r menopos yn aml yn cael ei gamddeall neu ei anwybyddu.
Mae'r mis hwn yn canolbwyntio ar addysg, cefnogaeth a sgwrs agored. Mae arbenigwyr iechyd yn pwysleisio y gall symptomau fel pyliau o wres, newid mewn hwyl, gorbryder, meddwl pŵl , a tharfu ar gwsg gael effaith sylweddol ar fywyd bob dydd. Fodd bynnag, gyda'r wybodaeth, cefnogaeth a dealltwriaeth gywir, gall menywod ymdopi â’r cyfnod hwn gyda mwy o hyder a llesiant.
Mae sefydliadau a gweithleoedd yn cael eu hannog i ddarparu adnoddau, cynnal digwyddiadau ymwybyddiaeth, a chreu amgylcheddau cefnogol lle gall sgyrsiau am y menopos ddigwydd yn agored a heb farnu. Mae eiriolwyr yn pwysleisio nad mater i fenywod yn unig yw'r menopos - mae'n effeithio ar deuluoedd, gweithleoedd a chymunedau, gan wneud ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yn hanfodol i bawb.
Fel rhan o Fis Ymwybyddiaeth Menopos, mae'r Tîm Iechyd a Llesiant yn falch o gynnal Caffi Menopos ar 8 Hydref, gan roi cyfle i gydweithwyr ddod at ei gilydd mewn amgylchedd diogel, anffurfiol a chefnogol i rannu profiadau, gofyn cwestiynau, a dysgu mwy am y menopos a'i effaith.
Rydym hefyd yn falch iawn o groesawu Karen Gibbard fel ein siaradwr gwadd. Bydd Karen yn rhannu ei gwybodaeth, ei harbenigedd a'i chyngor ymarferol i helpu i gynyddu dealltwriaeth o'r menopos a chefnogi'r rhai sy'n ei brofi. P'un a ydych chi'n cael eich effeithio'n bersonol, yn cefnogi aelod o'r teulu, ffrind, neu gydweithiwr, neu'n syml eisiau dysgu mwy, anogir pawb i fynychu.
I'r rhai nad ydynt yn gallu ymuno yn fyw, bydd y sesiwn yn cael ei recordio, gan sicrhau bod cydweithwyr yn gallu cael mynediad at y wybodaeth a'r gefnogaeth ar adeg sy'n addas iddynt.
Mae Mis Ymwybyddiaeth Menopos yn alwad i wrando, dysgu a chefnogi, gan helpu i greu diwylliant yn y gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu cefnogi a'u grymuso trwy gydol eu taith menopos. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau nad oes unrhyw un yn teimlo'n unig yn ystod y newid pwysig hwn yn eu bywydau..
Am ragor o wybodaeth, ewch i'r tudalennau Rheoli’r Menopos.
I ymuno â'r Caffi Menopos, cliciwch yma:
