Diweddariad Windows 11 25H2 yn dod yn fuan
2 diwrnod yn ôl
Mae'r diweddariad hwn yn rhan o'n rhaglen barhaus i sicrhau bod dyfeisiau'n cael eu diweddaru yn ddiogel, yn ddibynadwy ac yn gweithredu'n effeithlon. Mae'r uwchraddiad yn cyflwyno cyfres o welliannau i brofiad Windows, ynghyd â'r gwelliannau diweddaraf diogelwch a dibynadwyedd gan Microsoft.
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Unwaith y bydd y diweddariad wedi'i lawrlwytho i'ch dyfais, byddwch yn derbyn hysbysiad yn gofyn i chi ailgychwyn eich cyfrifiadur er mwyn cwblhau'r gosodiad.

Pan ofynnir i chi wneud hyn, ailgychwynnwch eich dyfais cyn gynted â phosibl er mwyn lleihau unrhyw amhariad yn y dyfodol.
Pa mor hir fydd hyn yn ei gymryd?
Ar ôl ailgychwyn eich system yn llwyddiannus, gall y broses osod gymryd hyd at 30 munud i'w chwblhau, yn dibynnu ar y fersiwn o Windows sydd wedi'i gosod ar eich dyfais ar hyn o bryd a'r caledwedd sy'n cael ei ddefnyddio.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd eich dyfais yn dangos sgrin Working on updates.

Pwysig: Peidiwch â diffodd neu datgysylltu eich dyfais tra bo'r diweddariadau'n cael eu gosod oherwydd gallai hyn achosi i'r gosodiad fethu.
A fydd hyn yn effeithio ar fy rhaglenni?
Nid ydym yn rhagweld unrhyw broblemau cydnawsedd gyda rhaglenni na gwaith arferol. Cynhaliwyd profion trylwyr ar y systemau busnes allweddol cyn eu cyflwyno er mwyn sicrhau proses uwchraddio esmwyth.
Angen Cymorth?
Os bydd unrhyw broblemau'n codi yn dilyn yr uwchraddiad, cysylltwch â'r Ddesg Gwasanaeth TG fel y gellir ymchwilio y mater a'i ddatrys cyn gynted â phosibl.
Diolch am eich cydweithrediad wrth i ni barhau i sicrhau bod ein systemau'n ddiogel, yn cael eu cynnal ac wedi’u diweddaru.
