Absenoldeb Tadolaeth Partner mewn Profedigaeth - Ebrill 2026

Cyflwyniad

Mae'r polisi hwn yn nodi hawliau gweithwyr i absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth.

Rydyn ni'n cydnabod bod unrhyw brofedigaeth yn gyfnod anodd, ac y gall colli partner neu blentyn fod yn un o'r cyfnodau mwyaf erchyll ym mywyd person. Fel sefydliad, rydyn ni wedi ymrwymo i'ch cefnogi yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn a byddwn yn gwneud yr hyn y gallwn i'ch helpu chi trwy eich galar.

Mae'r polisi hwn yn cwmpasu achosion geni a mabwysiadu. 

Defnyddir y diffiniadau canlynol yn y polisi hwn:

"Mabwysiadwr" yw'r person y mae'r plentyn wedi cael/yn mynd i gael ei roi gydag ef/hi i'w fabwysiadu, neu pan fo dau berson wedi'u paru ar y cyd, pwy bynnag sydd wedi dewis bod yn fabwysiadwr y plentyn at ddibenion absenoldeb adeg mabwysiadu.

"Hysbysiad swyddogol" yw hysbysiad ysgrifenedig, a gyflwynir gan neu ar ran yr awdurdod domestig perthnasol, ei fod yn barod i roi, neu eisoes wedi rhoi, tystysgrif i'r awdurdod tramor sy'n ymwneud â mabwysiadu'r plentyn, sy'n cadarnhau bod y mabwysiadwr:

•    yn gymwys i fabwysiadu ac
•    wedi'i asesu a'i gymeradwyo fel rhiant mabwysiadol addas:

Mae "Partner" yn cynnwys rhywun o'r naill ryw neu'r llall sy'n byw gyda'r fam neu fabwysiadwr y plentyn mewn perthynas deuluol barhaus ond nad yw'n blentyn, rhiant, ŵyr/wyres, tad-cu/mam-gu, brawd/chwaer, modryb, ewythr, nith neu'n nai i'r fam neu'r mabwysiadwr.

Ystyr "Lleolwyd y plentyn i'w fabwysiadu" yw lleoli plentyn i'w fabwysiadu o dan gyfreithiau mabwysiadu'r DU.

Nid yw'r polisi yn rhan o'ch contract cyflogaeth, ac rydyn ni’n cadw'r hawl i'w ddiwygio ar unrhyw adeg.


Cwmpas

Mae'r polisi hwn yn cwmpasu pob gweithiwr, gan gynnwys athrawon a gyflogir yn ganolog, ac eithrio staff mewn ysgolion a reolir yn lleol, y mae polisi ar wahân yn berthnasol ar eu cyfer. Yn absenoldeb polisi y cytunwyd arno'n lleol gan ysgolion unigol, dylid dilyn egwyddorion y polisi hwn.


Beth yw absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth?

Mae absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth yn fath estynedig o absenoldeb tadolaeth heb dâl. Y bwriad yw cefnogi gweithwyr ar adeg drist pe bai mam neu fabwysiadwr eu plentyn yn marw o fewn blwyddyn gyntaf bywyd eu plentyn neu flwyddyn gyntaf mabwysiadu'r plentyn.


Gofyn am gymorth

Os ydych chi'n cael pethau'n anodd yn y gwaith, fe'ch anogir i siarad â'ch rheolwr llinell fel y gallwn ddeall sut y gallwn eich cefnogi orau. Os, am unrhyw reswm, nad ydych chi'n teimlo eich bod yn gallu siarad â'ch rheolwr llinell, gallwch gysylltu â'ch Partner Busnes Adnoddau Dynol am gyngor.

Efallai y bydd y sgyrsiau hyn yn teimlo'n bersonol iawn, a dylech ond rhannu'r hyn rydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn ei drafod. Fodd bynnag, gall bod yn agored am unrhyw anawsterau ein helpu i sicrhau eich bod yn derbyn y gefnogaeth gywir.

Bydd unrhyw wybodaeth rydych chi'n dewis ei rhannu gyda'ch rheolwr llinell neu'ch Partner Busnes Adnoddau Dynol yn cael ei thrin yn sensitif ac yn gwbl gyfrinachol.


Hawl i gael absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth

Gallwch gymryd absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth os ydych chi'n cymryd y cyfnod i ofalu am y plentyn a’ch bod yn bodloni'r amodau perthnasol isod.

Mewn sefyllfa geni, lle mae mam y plentyn yn marw 

Byddwch yn gymwys os:

•    yw mam y plentyn yn marw ar 6 Ebrill 2026 neu wedi hynny;
•    mai chi yw tad biolegol y plentyn, priod, partner sifil, neu bartner mam y plentyn yn union cyn ei marwolaeth; a
•    chi sy'n gyfrifol am fagwraeth y plentyn.

Mewn sefyllfa fabwysiadu, lle mae mabwysiadwr y plentyn yn marw 

Byddwch yn gymwys os:

•    bydd mabwysiadwr y plentyn yn marw ar 6 Ebrill 2026 neu wedi hynny; 
•    mai chi oedd priod, partner sifil, neu bartner mabwysiadwr y plentyn naill ai ar y dyddiad y lleolwyd y plentyn i'w fabwysiadu (neu, yn achos mabwysiadu o dramor, y dyddiad y derbyniodd y mabwysiadwr yr hysbysiad swyddogol), neu yn union cyn y farwolaeth; a
•    chi sy'n gyfrifol am fagwraeth y plentyn.

I gymryd absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth, bydd angen i chi ddilyn y weithdrefn hysbysu a nodir isod. Sylwch fod y gofynion hysbysu yn wahanol yn dibynnu a ydych chi'n dewis dechrau ar eich cyfnod o absenoldeb o fewn yr wyth wythnos gyntaf ar ôl dyddiad y brofedigaeth neu fwy nag wyth wythnos ar ôl y dyddiad hwnnw.


Faint o absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth y gallwch ei gymryd

Gallwch gymryd hyd at 52 wythnos o absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth. Bydd union faint yr absenoldeb sydd ar gael i chi yn dibynnu ar ddyddiad y brofedigaeth a phryd y cymerir yr absenoldeb. 

Rhaid cymryd absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth mewn un cyfnod parhaus.


Amseriad absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth

Gallwch ddewis dechrau ar eich absenoldeb ar unrhyw ddiwrnod ar ôl y brofedigaeth.

Nid oes angen i chi benderfynu ar ddyddiadau eich absenoldeb ar unwaith, ond rhaid cymryd absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth i gyd o fewn 52 wythnos i'r diwrnod yn dilyn geni'r plentyn.

Yn achos plentyn mabwysiedig, mae'r cyfnod o 52 wythnos yn dechrau ar y dyddiad y lleolwyd y plentyn i'w fabwysiadu gyda'r mabwysiadwr, neu ar gyfer mabwysiadu o dramor, y dyddiad ar ôl i'r plentyn gyrraedd y Prydain. 

Os yw'r brofedigaeth yn digwydd o fewn 13 diwrnod cyn diwedd y cyfnod perthnasol o 52 wythnos, gallwch gymryd eich absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth hyd at 14 diwrnod ar ôl y brofedigaeth, hyd yn oed os yw hyn y tu allan i'r cyfnod o 52 wythnos.


Hysbysiad i gymryd absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth

Bydd faint o rybudd y mae angen i chi ei roi i gymryd absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth yn dibynnu ar pryd rydych chi'n bwriadu dechrau ar eich cyfnod o absenoldeb. Nodir hyn isod:

Os ydych chi'n bwriadu dechrau ar eich cyfnod absenoldeb o fewn yr wyth wythnos gyntaf ar ôl y brofedigaeth

Cam 1 - Hysbysiad anffurfiol

Gallwch ddechrau ar eich cyfnod absenoldeb ar unwaith, ar yr amod eich bod yn cysylltu â'ch rheolwr llinell dros y ffôn, e-bost, neges llais neu neges destun cyn y byddwch ar fin dechrau gweithio ar eich diwrnod cyntaf o absenoldeb.

Pan fyddwch chi'n cysylltu, gofynnir i chi gadarnhau'r canlynol:

•    dyddiad y brofedigaeth; 
•    pryd yr ydych yn dymuno dechrau ar eich cyfnod absenoldeb; a
•    dyddiad geni'r plentyn, dyddiad lleoli ar gyfer mabwysiadu, neu ddyddiad mynediad i Brydain.

Nid oes angen i chi ddarparu'r wybodaeth hon yn ysgrifenedig ar hyn o bryd gan ein bod yn deall y bydd hwn yn gyfnod anodd iawn.

Cam 2 - Hysbysiad ysgrifenedig
 
Yn ddiweddarach, o fewn wyth wythnos i ddyddiad y brofedigaeth, ac o leiaf un wythnos cyn eich bod yn bwriadu dychwelyd i'r gwaith, bydd angen i chi gadarnhau'r dyddiad rydych chi'n bwriadu dychwelyd i'r gwaith i'ch rheolwr llinell.

Os ydych chi'n bwriadu dychwelyd i'r gwaith fwy nag wyth wythnos ar ôl dyddiad y brofedigaeth, bydd hefyd angen i chi gadarnhau hyn yn ysgrifenedig at eich rheolwr llinell:

•    dyddiad geni'r plentyn, dyddiad lleoli ar gyfer mabwysiadu, neu ddyddiad y mynediad i Brydain;
•    pwrpas yr absenoldeb yw gofalu am y plentyn; a’ch
•    bod yn bodloni'r amodau o ran perthynas ar gyfer absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth.

Pan fydd eich Absenoldeb Tadolaeth Partner mewn Profedigaeth wedi'i gytuno â'ch rheolwr llinell, dylech wneud cais am yr absenoldeb trwy My View a My Forms.


Os ydych chi'n bwriadu dechrau ar eich absenoldeb fwy nag wyth wythnos ar ôl y brofedigaeth

Bydd angen i chi roi o leiaf wythnos o rybudd ysgrifenedig i'ch rheolwr llinell cyn i'ch absenoldeb ddechrau. Mae'n rhaid i'ch hysbysiad gadarnhau:

•    dyddiad y brofedigaeth;
•    pryd yr ydych yn dymuno i’r absenoldeb ddechrau;
•    y dyddiad yr ydych yn bwriadu dychwelyd i'r gwaith;
•    dyddiad geni'r plentyn, dyddiad lleoli ar gyfer mabwysiadu, neu ddyddiad mynediad i Brydain;
•    mai pwrpas yr absenoldeb yw gofalu am y plentyn; a’ch
•    bod yn bodloni'r amodau o ran perthynas ar gyfer absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth.

Ar ôl cytuno â'ch rheolwr llinell, dylech wneud cais am yr absenoldeb drwy My View  a My Form.


Os yw eich plentyn yn marw neu os bydd amhariad ar eich lleoliad mabwysiadu

Os byddech fel arall wedi bod yn gymwys ar gyfer absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth, ond mae eich plentyn hefyd yn marw (gan gynnwys baban marwanedig ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd) neu os bydd amhariad ar y lleoliad mabwysiadu, efallai y byddwch yn dal i allu cymryd hyd at wyth wythnos o absenoldeb heb dâl.

Mae amhariad ar leoliad mabwysiadu yn golygu pan fo plentyn yn cael ei ddychwelyd ar ôl cael ei leoli i'w fabwysiadu, neu, yn achos mabwysiadu o dramor, nid yw'r plentyn yn byw gyda chi mwyach. 

Os yw hyn yn berthnasol, rhaid i'ch absenoldeb ddod i ben ar ba bynnag un sy'n dod gyntaf:

•    wyth wythnos ar ôl diwedd yr wythnos lle bu'r farwolaeth neu lle bu amhariad ar y lleoliad neu
•    ddiwedd y cyfnod cymhwysedd o ran absenoldeb tadolaeth arferol 52 wythnos.

Cyn y gall eich absenoldeb ddechrau o dan yr adran hon, bydd angen i chi gadarnhau dyddiad a natur yr hyn sydd wedi digwydd. Cysylltwch â'ch rheolwr llinell cyn gynted ag y gallwch fel y gallwn drafod eich hawl i absenoldeb a chymorth arall a allai fod ar gael.

Nid yw'r hawl hwn yn berthnasol os ydych wedi dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth o ran yr un plentyn.


Canslo eich absenoldeb

Os ydych chi'n penderfynu peidio â chymryd eich absenoldeb ar ôl i chi roi gwybod amdano, bydd angen i chi roi hysbysiad ysgrifenedig i'ch rheolwr llinell, fel a ganlyn:

•    Os oedd eich absenoldeb i fod i ddechrau o fewn yr wyth wythnos gyntaf ar ôl y brofedigaeth, dylech roi hysbysiad ysgrifenedig cyn eich dyddiad cychwyn gwreiddiol.
•    Os oedd eich absenoldeb i fod i ddechrau mwy nag wyth wythnos ar ôl y brofedigaeth, dylech roi o leiaf un wythnos o rybudd ysgrifenedig cyn eich dyddiad cychwyn gwreiddiol.

Ar ôl cytuno ar yr Absenoldeb Tadolaeth Partner mewn Profedigaeth â’ch rheolwr llinell, rydych chi'n canslo'ch absenoldeb trwy My View a My Form.


Newid dyddiad dechrau eich absenoldeb

Os ydych yn dymuno newid dyddiad dechrau eich absenoldeb ar ôl rhoi gwybod, bydd angen i chi roi gwybod i'ch rheolwr llinell o'r dyddiad dechrau newydd, fel a ganlyn:

•    Os oedd eich absenoldeb i fod i ddechrau o fewn yr wyth wythnos gyntaf ar ôl y brofedigaeth, a bod eich dyddiad dechrau newydd hefyd o fewn yr wyth wythnos gyntaf, dylech roi gwybod i'ch rheolwr llinell cyn eich dyddiad cychwyn gwreiddiol a'ch dyddiad dechrau newydd. Nid oes angen i chi roi gwybod am hyn yn ysgrifenedig. 
•    Os oedd eich absenoldeb i fod i ddechrau o fewn yr wyth wythnos gyntaf ar ôl y brofedigaeth, ond bod eich dyddiad dechrau newydd ar ôl yr wyth wythnos gyntaf, dylech roi gwybod am hyn yn ysgrifenedig cyn eich dyddiad cychwyn gwreiddiol ac o leiaf un wythnos cyn eich dyddiad dechrau newydd.
•    Os oedd eich absenoldeb i fod i ddechrau mwy nag wyth wythnos ar ôl y brofedigaeth, a bod eich dyddiad dechrau newydd hefyd fwy nag wyth wythnos ar ôl y brofedigaeth, dylech roi o leiaf un wythnos o rybudd ysgrifenedig cyn eich dyddiad cychwyn gwreiddiol a'ch dyddiad dechrau newydd.

Pan fydd y newid i'ch Absenoldeb Tadolaeth Partner mewn Profedigaeth wedi'i gytuno â'ch rheolwr llinell, dylech ganslo eich dyddiadau absenoldeb gwreiddiol drwy My View a My Forms a chyflwyno eich dyddiadau newydd.


Newid eich dyddiad dychwelyd gwreiddiol

Os hoffech newid y dyddiad dychwelyd i'r gwaith a gadarnhawyd gennych yn eich hysbysiad diwethaf, bydd angen i chi roi hysbysiad ysgrifenedig i'ch rheolwr llinell, fel a ganlyn:

•    Os yw'r dyddiad dychwelyd yn eich hysbysiad diwethaf o fewn yr wyth wythnos gyntaf ar ôl y brofedigaeth, dylech ddarparu o leiaf un wythnos o rybudd ysgrifenedig cyn eich dyddiad dychwelyd gwreiddiol a'ch dyddiad dychwelyd newydd.
•    Os yw'r dyddiad dychwelyd yn eich hysbysiad diwethaf yn fwy nag wyth wythnos ar ôl y brofedigaeth, dylech ddarparu o leiaf wyth wythnos o rybudd ysgrifenedig cyn eich dyddiad dychwelyd gwreiddiol a'ch dyddiad dychwelyd newydd.

Ar ôl i'ch dyddiad dychwelyd i'r gwaith gael ei gytuno â'ch rheolwr llinell, dylech ganslo eich dyddiadau absenoldeb gwreiddiol trwy My View a My Forms a chyflwyno eich dyddiadau newydd.


Tâl yn ystod absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth

Nid oes gennych hawl statudol i gael eich talu yn ystod absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth. Bydd unrhyw absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth heb dâl.


Eich hawliau yn ystod absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth

Yn ystod absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth, bydd holl delerau ac amodau eich contract, heblaw cyflog arferol, yn parhau. Bydd yr effaith ar eich hawl i gyfraniadau pensiwn fel y nodir isod yn Hawl gwyliau.


Hawl i Wyliau

Byddwch yn parhau i gronni eich gwyliau yn ystod eich absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth.

Gall unrhyw hawl i wyliau nad yw wedi'i gymryd oherwydd absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth gael ei drosglwyddo i'r flwyddyn wyliau nesaf.


Cyfraniadau Pensiwn

Bydd cyfraniadau pensiwn yr awdurdod yn dod i ben yn ystod unrhyw gyfnod o absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth heb dâl, ac eithrio pan fo'n ofynnol gan y gyfraith neu reolau'r cynllun pensiwn.


Adfer pensiwn oherwydd absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth heb dâl

Fel aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gallwch adfer unrhyw ‘bensiwn a gollwyd’ sy'n deillio o gyfnod o absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth heb dâl, drwy dalu cyfraniadau ychwanegol dan drefniant Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol pan fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith. I wneud hynny, bydd angen ichi ddewis adfer y pensiwn a gollwyd cyn pen 30 diwrnod ar ôl dychwelyd i'r gwaith. Os byddwch yn dewis gwneud hynny o fewn y cyfnod a bennwyd ac os mai absenoldeb awdurdodedig heb dâl oedd y rheswm am yr absenoldeb, rhennir y gost â'r Awdurdod (1/3 i'r aelod a 2/3 i'r Awdurdod). 
Fodd bynnag, os byddwch yn dewis gwneud hynny mwy na 30 diwrnod ar ôl y dyddiad ar y slip cyflog sy'n dangos y didyniad yn sgil absenoldeb heb dâl, byddwch chi, yr aelod, yn ysgwyddo'r costau i gyd. 
Os ydych yn dymuno adfer y pensiwn a gollwyd yn ystod eich cyfnod o absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth heb dâl, bydd angen ichi lenwi ffurflen drwy'r Gyfrifiannell ar-lein ar y dudalen Absenoldeb o'r Gwaith ar wefan Cronfa Bensiwn Dyfed. Cyn defnyddio'r gyfrifiannell ar-lein, rhaid bod gennych y tâl pensiynadwy a gollwyd wrth law am eich cyfnod o absenoldeb heb dâl/gweithredu diwydiannol (cewch ofyn i'r gyflogres am y wybodaeth hon drwy anfon e-bost at CRPayroll@sirgar.gov.uk ) a'r dyddiad pan oeddech wedi dychwelyd i'r gwaith. 
Sylwch y bydd angen ichi gwblhau'r manylion canlynol i gyd ar y gyfrifiannell ar-lein: 
Adran manylion personol - cwblhewch bob maes, sef 1 - 7 (y wybodaeth y mae'n rhaid ei bod gennych i gwblhau'r adran hon yw eich rhif yswiriant gwladol a'ch rhif cyflogres) 
Manylion am ddyfynbris - cwblhewch feysydd 8, 9, 10, 11 a 12
Maes 8 - nodwch y tâl pensiynadwy a gollwyd - dyma'r swm a ddangosir ar eich slip cyflog am dynnu'r absenoldeb heb dâl. 
Maes 9 - nodwch y rheswm am yr absenoldeb - cliciwch ar 'absenoldeb awdurdodedig heb dâl' ("authorised unpaid leave") yn y gwymplen. 
Maes 10 - adran yn ystod absenoldeb - cliciwch ar 'prif adran' ("main section") yn y gwymplen (oni bai eich bod wedi dewis cyfrannu o dan Adran 50/50 o'r Cynllun) 
Maes 11  - diwrnod olaf yr absenoldeb - nodwch ddyddiad olaf yr absenoldeb heb dâl a gymerwyd yn ystod y mis perthnasol. Os mai 'absenoldeb awdurdodedig heb dâl' yw'r rheswm dros yr absenoldeb, a'ch bod yn cyflwyno'r cais cyn pen 30 diwrnod o'r dyddiad a nodwyd ar y slip cyflog sy'n dangos yr absenoldeb heb dâl a ddidynnwyd, cliciwch ar y blwch '30 diwrnod yn amherthnasol' ("30 day override") - bydd angen i'ch cyflogwr gadarnhau hyn. 
Maes 12 - dull talu - cliciwch ar 'tynnu cyfandaliad' ("lump sum deduction") yn y gwymplen. 
Yn olaf, cliciwch ar ‘Cael Dyfynbris’ i gyfrifo cost prynu pensiwn a gollwyd - bydd hyn yn ymddangos yn yr adran ganlyniadau ar ochr dde'r dudalen - gweler isod:

Cost y cyfandaliad i'r aelod cyn gostyngiad treth £ xxx.xx

Sylwch y gallwch hefyd ddewis prynu'r pensiwn a gollwyd drwy dalu'r cyfraniadau pensiwn ychwanegol dros sawl blwyddyn gyfan, ond bydd yn ofynnol ichi gael archwiliad meddygol (gan Ymarferydd Meddygol Cofrestredig) a chael tystysgrif, a thalu am hynny eich hun, i dystio eich bod mewn iechyd da, cyn y gellir derbyn eich cais.
Ar ôl cwblhau'r camau uchod, os ydych yn dal i ddymuno bwrw ymlaen â phrynu'r pensiwn a gollwyd, bydd angen ichi ddilyn y camau canlynol: 
Cam 1 - bydd angen ichi lawrlwytho'r ffurflen ar-lein drwy dicio'r blwch ‘Cais’ ("Application") sy'n cadarnhau bod y wybodaeth a nodwyd yn gywir a'ch bod wedi darllen a deall y ‘Telerau ac Amodau’  mewn perthynas â'ch ceisiadau am bensiwn ychwanegol.
Cam 2 - cliciwch ar y botwm ‘cyflwyno’ ("submit") yng nghornel dde waelod y dudalen. Bydd hyn yn trosglwyddo'r manylion rydych wedi'u nodi i ddogfen pdf. 
Cam 3 - llofnodwch y datganiad ar y ffurflen hon a'i hanfon drwy e-bost neu drwy'r post yn syth i: 
CR Payroll (CRPayroll@sirgar.gov.uk  ) neu postiwch at Adnoddau Dynol/Y Gyflogres, Cyngor Sir Caerfyrddin. 3 Heol Spilman, Caerfyrddin SA31 1LE.
Os na fyddwch yn dewis adfer eich 'pensiwn a gollwyd', bydd y buddion pensiwn rydych wedi eu cronni yn ystod y flwyddyn (1 Ebrill tan 31 Mawrth) pryd yr oeddech ar gyfnod o absenoldeb heb dâl, yn gyfatebol is o ganlyniad. Ewch i Cronfa Bensiwn Dyfed i gael rhagor o wybodaeth.

Cyswllt yn ystod absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth

Rydyn ni'n cadw'r hawl i gynnal cyswllt rhesymol â chi yn ystod eich absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth. Gall hyn fod i drafod eich cynlluniau o ran cymryd gwyliau, trafod unrhyw drefniadau arbennig sydd i'w gwneud er mwyn eich helpu i ddychwelyd i'r gwaith neu roi gwybod ichi am ddatblygiadau yn y gwaith yn ystod eich absenoldeb.


Diwrnodau cadw mewn cysylltiad yn ystod absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth

Gallwch gytuno i weithio (neu fynychu hyfforddiant) am hyd at 10 diwrnod yn ystod eich absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth heb fod y gwaith hwnnw yn dod â'ch cyfnod o absenoldeb i ben. Gelwir y rhain yn ddiwrnodau "cadw mewn cysylltiad". 

Nid oes gennym yr hawl i fynnu eich bod yn gwneud unrhyw waith ac nid oes gennych chi hawl i ymgymryd ag unrhyw waith yn ystod eich absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth. Mater i'w gytuno rhyngoch chi a'ch rheolwr llinell yw unrhyw waith a wneir yn ystod diwrnodau 'cadw mewn cysylltiad'.


Dychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth

Rydyn ni'n cydnabod y gall dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod sylweddol o amser i ffwrdd fod yn heriol. Byddwn yn cymryd camau i sicrhau bod eich cyfnod yn dychwelyd i'r gwaith mor hwylus â phosibl a bydd gwaith yn cael ei drosglwyddo yn ôl i chi yn raddol.

Mae gennych yr hawl i ddychwelyd i'r un swydd ac ar yr un telerau ac amodau os:

•    rydych wedi cymryd cyfnod unigol o absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth sy'n para 26 wythnos neu lai; neu
•    roeddech wedi cymryd eich absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth yn olynol gyda chyfnod (neu gyfnodau) arall o absenoldeb statudol mewn perthynas â'r un plentyn, ar yr amod bod cyfanswm yr absenoldeb a gymerwyd (ac eithrio absenoldeb rhiant cyffredin) yn 26 wythnos neu lai, ac nid oedd yn cynnwys mwy na phedair wythnos o absenoldeb rhiant cyffredin.

Ym mhob achos arall, mae gennych yr hawl i ddychwelyd i'r un swydd, oni bai nad yw hyn yn rhesymol ymarferol, ac yn yr achos hwnnw byddwn yn cynnig swydd amgen addas i chi ar delerau ac amodau nad ydynt yn llai ffafriol.

Os ydych chi'n cymryd absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth, ac yn ansicr ble rydych chi'n sefyll o ran dychwelyd i'r gwaith, cysylltwch â'ch rheolwr llinell.

Os ydych chi'n penderfynu nad ydych am ddychwelyd i'r gwaith, rhaid i chi roi hysbysiad ysgrifenedig o'ch ymddiswyddiad cyn gynted â phosibl yn unol â thelerau eich contract cyflogaeth.


Ceisiadau am Weithio Hyblyg

Os, ar ôl cyfnod o absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth, rydych chi'n teimlo y byddech yn elwa ar newid i'ch trefniant gwaith, dylech wneud cais am weithio hyblyg yn unol â'n polisi Gweithio Hyblyg. Er y byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i ystyried cais am weithio hyblyg, ni fydd yr ystod lawn o opsiynau gweithio hyblyg yn briodol ar gyfer pob swydd ar draws pob maes o'r sefydliad.


Diogelu Data

Wrth ddelio ag absenoldeb tadolaeth a thâl, byddwn yn prosesu unrhyw ddata personol a gesglir yn unol â'n canllawiau Diogelu Data a'n Hysbysiadau Preifatrwydd. Yn benodol dim ond y wybodaeth bersonol sy'n ofynnol byddwn yn ei chofnodi, a byddwn yn cadw'r wybodaeth cyhyd ag y bo angen yn unig.


Camddefnyddio'r Polisi Absenoldeb Tadolaeth Partner mewn Profedigaeth.

Os camddefnyddir y cynllun hwn mewn unrhyw fodd, ymdrinnir â hynny dan Camau disgyblu Cyngor:

• Cymryd absenoldeb at ddibenion heblaw am y rhain a nodir yn y polisi hwn. Yn gyffredinol digwydd hyn lle bo rhywun arall heblaw'r gweithiwr â'r prif gyfrifoldeb dros y plentyn.

• Gwneud datganiad ffug o ran yr hawl i gael absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth, er enghraifft y berthynas â'r plentyn neu'r prif fabwysiadwr. 


Sicrhau cyfle cyfartal

Rhaid i bawb fabwysiadu agwedd gadarnhaol, agored a theg a gofalu y cedwir at Cydroddoldeb ac Amrywiaeth yr Awdurdod ac y caiff ei weithredu’n gyson heb ystyried hil, lliw, cenedligrwydd, gwreiddiau ethnig neu genedlaethol, iaith, anabledd, crefydd a chred neu ddiffyg cred, oed, rhyw, ailbennu rhywedd, hunaniaeth neu fynegiant o ran rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, mamolaeth, statws o ran bod yn rhiant neu o ran priodas/partneriaeth sifil.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas â chymhwyso’r polisi a’r weithdrefn a geir yma, cysylltwch ag aelod o’r Tîm Rheoli Pobl a fydd, os oes angen, yn sicrhau bod y polisi/y weithdrefn yn cael ei (h)adolygu’n briodol.

Os oes angen copi o'r cyhoeddiad hwn arnoch mewn fformat arall, cysylltwch â Gwasanaethau Pobl drwy anfon e-bost at CHR@sirgar.gov.uk