Polisi Absenoldeb Tadolaeth - Ebrill 2026

Cyflwyniad

Darpariaeth yw absenoldeb tadolaeth sy'n eich galluogi i gymryd absenoldeb yn ychwanegol at eich hawl i wyliau blynyddol, gan ganiatáu ichi gynorthwyo eich partner, helpu i rannu'r cyfrifoldebau gofal plant, a threulio amser buddiol gyda'ch plentyn newydd.

Mae'r polisi hwn yn amlinellu hawliau gweithwyr i absenoldeb tadolaeth ac i dâl am absenoldeb a gymerir ar 6 Ebrill 2026 neu wedi hynny lle bo naill ai:

•    wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth ar 5 Ebrill 2026 neu wedi hynny; 
•    y plentyn yn cael ei eni ar 6 Ebrill 2026 neu wedi hynny (hyd yn oed os oedd wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth cyn 5 Ebrill 2026); neu
•    disgwylir i'r plentyn gael ei leoli i'w fabwysiadu gyda'r mabwysiadwr (neu ddod i Brydain i'w fabwysiadu o dramor) ar 6 Ebrill 2026 neu wedi hynny. 

Ar gyfer hawliau sy'n berthnasol cyn y dyddiadau hynny, cyfeiriwch at ein Polisi Absenoldeb Tadolaeth dyddiedig Ebrill 2025 lle bo wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth cyn 5 Ebrill 2026 a'r enedigaeth cyn 6 Ebrill 2026.
 
Defnyddir y diffiniadau canlynol yn y polisi hwn:

"Mabwysiadwr" yw'r person y mae'r plentyn wedi cael/yn mynd i gael ei roi gydag ef/hi i'w fabwysiadu, neu pan fo dau berson wedi'u paru ar y cyd, pwy bynnag sydd wedi dewis bod yn fabwysiadwr y plentyn at ddibenion absenoldeb adeg mabwysiadu.
 
"Wythnos Ddisgwyliedig yr Enedigaeth" yw'r wythnos, gan ddechrau ar ddydd Sul, pryd y mae meddyg neu fydwraig y fam yn disgwyl iddi roi genedigaeth. 

"Paru ar gyfer mabwysiadu" yw pan fo asiantaeth fabwysiadu yn penderfynu y byddai person yn rhiant mabwysiadol addas ar gyfer plentyn naill ai'n unigol neu ar y cyd â pherson arall. Rhoddir gwybod i berson ei fod wedi cael ei "baru ar gyfer mabwysiadu" â phlentyn ar y dyddiad y mae'r person yn derbyn hysbysiad o benderfyniad yr asiantaeth fabwysiadu. 

"Hysbysiad swyddogol" yw hysbysiad ysgrifenedig, a gyflwynir gan neu ar ran yr awdurdod domestig perthnasol, ei fod yn barod i roi, neu eisoes wedi rhoi, tystysgrif i'r awdurdod tramor sy'n ymwneud â mabwysiadu'r plentyn, sy'n cadarnhau bod y mabwysiadwr yn gymwys i fabwysiadu ac wedi'i asesu a'i gymeradwyo fel rhiant mabwysiadol addas. 

"Partner" - mae'n cynnwys rhywun, o ba ryw bynnag, sy'n byw gyda'r fam, y fam feichiog, neu fabwysiadwr y plentyn mewn perthynas deuluol barhaus ond nad yw'n blentyn, rhiant, ŵyr/wyres, tad-cu/mam-gu, brawd/chwaer, modryb, ewythr, nith neu'n nai i'r fam neu'r mabwysiadwr.
 
"Lleoli ar gyfer mabwysiadu" yw lleoli ar gyfer mabwysiadu o dan gyfreithiau mabwysiadu'r DU, gan gynnwys lleoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol sydd hefyd yn ddarpar fabwysiadwr ("meithrin i fabwysiadu").
 
Nid yw'r polisi yn rhan o'ch contract cyflogaeth, ac rydym yn cadw'r hawl i'w ddiwygio ar unrhyw adeg.


Cwmpas

Mae'r polisi hwn yn cwmpasu pob gweithiwr, gan gynnwys athrawon a gyflogir yn ganolog, ac eithrio staff mewn ysgolion a reolir yn lleol, y mae polisi ar wahân yn berthnasol ar eu cyfer. Yn absenoldeb polisi y cytunwyd arno'n lleol gan ysgolion unigol, dylid dilyn egwyddorion y polisi hwn.


Hawl i absenoldeb tadolaeth (genedigaeth)

Gallwch gymryd absenoldeb tadolaeth at ddibenion gofalu am y plentyn neu gefnogi mam y plentyn os: 

•    mai chi yw tad biolegol y plentyn ac mai chi sy'n gyfrifol am fagwraeth y plentyn, neu'ch bod yn disgwyl cael y cyfrifoldeb hwnnw; neu
•    mai chi yw priod, partner sifil, neu bartner mam y plentyn ac mai chi fydd yn bennaf cyfrifol (heblaw am y fam) am fagwraeth y plentyn, neu'ch bod yn disgwyl cael y cyfrifoldeb hwnnw.
 
Er mwyn arfer eich hawl i gymryd absenoldeb tadolaeth mewn sefyllfa enedigaeth, rhaid i chi gydymffurfio â'r weithdrefn hysbysu a nodir isod.


Hawl i absenoldeb tadolaeth (mabwysiadu)

Gallwch gymryd absenoldeb tadolaeth at ddibenion gofalu am y plentyn mabwysiedig neu gefnogi mabwysiadwr y plentyn os:

•    mai chi yw priod, partner sifil, neu bartner mabwysiadwr y plentyn ac mai chi fydd yn bennaf cyfrifol (heblaw am y mabwysiadwr) am fagwraeth y plentyn, neu'ch bod yn disgwyl cael y cyfrifoldeb hwnnw.
 
Os ydych yn un o gwpl sy'n mabwysiadu plentyn ar y cyd, dim ond un ohonoch fydd â'r hawl i gymryd absenoldeb mabwysiadu a gall y rhiant arall ddewis cymryd cyfnod o absenoldeb tadolaeth, ar yr amod bod yr amodau cymhwyso perthnasol yn cael eu bodloni.
 
Nid oes gennych hawl i gymryd absenoldeb tadolaeth os ydych wedi cymryd amser i ffwrdd â thâl i fynychu apwyntiad mabwysiadu mewn perthynas â'r un plentyn. 

Er mwyn arfer eich hawl i gymryd absenoldeb tadolaeth mewn sefyllfa fabwysiadu, rhaid i chi gydymffurfio â'r weithdrefn hysbysu a nodir isod.


Faint o absenoldeb tadolaeth gallwch ei gymryd

Gallwch gymryd hyd at bythefnos o absenoldeb tadolaeth. Nid oes rhaid i chi gymryd eich absenoldeb mewn un cyfnod, ond mae'n rhaid cymryd absenoldeb mewn blociau o wythnos o leiaf. Bellach nid oes angen gweithio am gyfnod penodol o amser er mwyn bod yn gymwys i gael absenoldeb tadolaeth.
 
Mae hyn yn golygu y gallwch gymryd yr absenoldeb mewn:
 
•    un bloc o wythnos;
•    un bloc o bythefnos; neu
•    dau floc ar wahân o wythnos yr un. 

Mae wythnos o absenoldeb tadolaeth yr un mor hir â'ch wythnos waith arferol. Mae hyn yn golygu, os ydych yn weithiwr amser llawn, fod un wythnos yn [pump] diwrnod. Os ydych yn gweithio pedwar diwrnod yr wythnos yn ôl eich contract, mae un wythnos yn bedwar diwrnod, ac yn y blaen.
 
Dim ond pythefnos o absenoldeb tadolaeth gallwch ei gymryd am bob  beichiogrwydd neu achos o fabwysiadu, hyd yn oed os genir mwy nag un plentyn o ganlyniad i'r beichiogrwydd neu os lleolir mwy nag un plentyn o dan yr un trefniant mabwysiadu.


Amseru'r absenoldeb tadolaeth

Gallwch ddechrau eich absenoldeb tadolaeth ar unrhyw ddiwrnod ar ôl genedigaeth y plentyn, ond mae'n rhaid iddo ddod i ben o fewn 52 wythnos i'r enedigaeth (neu wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth os yw'r plentyn yn cael ei eni'n gynnar).
 
Yn achos plentyn mabwysiedig, mae'r cyfnod o 52 wythnos yn dechrau ar y dyddiad y lleolwyd y plentyn i'w fabwysiadu gyda'r mabwysiadwr (neu'r dyddiad cyrhaeddodd y plentyn Brydain i'w fabwysiadu o dramor).


Hysbysiad i gymryd absenoldeb tadolaeth (genedigaeth)

Hysbysiad o hawl (genedigaeth) 

Cyn gallwch gymryd absenoldeb tadolaeth, rhaid i chi roi hysbysiad ysgrifenedig i'ch rheolwr llinell a'r Tîm Absenoldeb o leiaf 15 wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth neu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol. Mae'n rhaid i'ch hysbysiad gadarnhau:

• wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth; ac

• eich bod yn bodloni'r gofynion o ran bod yn gymwys i gymryd absenoldeb tadolaeth. 

Yn achos pob absenoldeb dylid cael tystysgrif MATB1 a roddir i'r partner beichiog gan y Fydwraig/Meddyg tua 20fed wythnos y beichiogrwydd. 

Dylech roi gwybod i'ch rheolwr a'r Tîm Absenoldeb drwy gwblhau'r ffurflen gais Ffurflen Gais Absenoldeb Tadolaeth 2026 neu drwy My View drwy My Forms cyn gynted ag sy'n ymarferol resymol.

Hysbysiad cyfnod absenoldeb (genedigaeth)

Bob tro rydych am gymryd cyfnod o absenoldeb tadolaeth, rhaid i chi drafod y dyddiadau mae eu hangen arnoch gyda'ch rheolwr llinell, ac, os cytunir arnynt, rhaid i chi wneud cais pellach fel yr amlinellir uchod. 

• pryd rydych am ddechrau eich absenoldeb (gallwch ei gymryd mewn un bloc neu mewn dau floc ar wahân);

• a ydych am gymryd un wythnos neu bythefnos o absenoldeb; ac 

• mai diben yr absenoldeb yw gofalu am y plentyn neu gefnogi mam y plentyn. 

Gallwch ddewis dechrau cyfnod o absenoldeb tadolaeth:

•    Ar ddyddiad geni eich plentyn: Mae'n rhaid i'ch hysbysiad ynghylch cyfnod o absenoldeb ddod i law o leiaf 28 diwrnod cyn diwrnod cyntaf wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth. 
•    Nifer penodol o ddiwrnodau ar ôl genedigaeth eich plentyn: Mae'n rhaid i'ch hysbysiad ynghylch cyfnod o absenoldeb ddod i law o leiaf 28 diwrnod cyn y dyddiad sy'n cyfateb i'r nifer penodol o ddiwrnodau ar ôl diwrnod cyntaf wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth.
•    Ar ddyddiad a bennwyd ymlaen llaw: Ni ddylai'r dyddiad hwn fod yn gynharach na diwrnod cyntaf wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth.  Mae'n rhaid i'ch hysbysiad ynghylch cyfnod o absenoldeb ddod i law o leiaf 28 diwrnod cyn y dyddiad hwnnw a bennwyd ymlaen llaw.


Hysbysiad i gymryd absenoldeb tadolaeth (mabwysiadu yn y DU)

Hysbysiad o hawl (mabwysiadu yn y DU)

Cyn y gallwch gymryd absenoldeb tadolaeth, mae'n rhaid i chi roi hysbysiad ysgrifenedig i'ch rheolwr llinell ac i'r Tîm Absenoldeb o fewn saith diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir gwybod i fabwysiadwr y plentyn ei fod wedi'i baru ar gyfer mabwysiadu. Mae'n rhaid i'ch hysbysiad gadarnhau:

•    y dyddiad y rhoddwyd gwybod i'r mabwysiadwr ei fod wedi cael ei baru ar gyfer mabwysiadu; 
•    y dyddiad y disgwylir i'r plentyn gael ei leoli i'w fabwysiadu gyda'r mabwysiadwr (neu, os yw eisoes wedi'i leoli ar gyfer mabwysiadu, ddyddiad y lleoliad); ac
•    eich bod yn bodloni'r gofynion o ran bod yn gymwys i gymryd absenoldeb tadolaeth.

Dylai'r Asiantaeth Fabwysiadu ddarparu Tystysgrif Baru ar gyfer pob absenoldeb.  

Dylech roi gwybod i'ch rheolwr a'r Tîm Absenoldeb drwy gwblhau'r ffurflen gais Ffurflen Gais Absenoldeb Tadolaeth 2026 neu drwy My View drwy My Forms o fewn saith diwrnod ar ôl cael gwybod am leoliad y plentyn gyda'r prif fabwysiadwr neu cyn gynted ag sy'n ymarferol resymol. 

Hysbysiad cyfnod absenoldeb (mabwysiadu yn y DU) 

Bob tro rydych am gymryd cyfnod o absenoldeb tadolaeth, rhaid i chi roi hysbysiad ysgrifenedig pellach i'ch rheolwr llinell a'r Tîm Absenoldeb o fewn saith diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir gwybod i fabwysiadwr y plentyn ei fod wedi'i baru ar gyfer mabwysiadu, sy'n cadarnhau: 

•    pryd rydych am ddechrau eich absenoldeb (gallwch ei gymryd mewn un bloc neu mewn dau floc ar wahân);
•    a ydych am gymryd un wythnos neu bythefnos o absenoldeb; ac
•    mai diben yr absenoldeb yw gofalu am y plentyn neu gefnogi mabwysiadwr y plentyn. 

Gallwch ddewis dechrau cyfnod o absenoldeb tadolaeth: 

•    ar y dyddiad y caiff y plentyn ei leoli i'w fabwysiadu; 
•    nifer penodol o ddiwrnodau ar ôl i'r plentyn gael ei leoli i'w fabwysiadu; neu
•    ar ddyddiad a bennwyd ymlaen llaw, nad yw'n gallu bod yn gynharach na diwrnod cyntaf lleoli plentyn i'w fabwysiadu.

Dylech roi gwybod i'ch rheolwr a'r Tîm Absenoldeb drwy gwblhau'r ffurflen gais Ffurflen Gais Absenoldeb Tadolaeth 2026 neu drwy My View drwy My Forms o fewn saith diwrnod ar ôl cael gwybod am leoliad y plentyn gyda'r prif fabwysiadwr neu cyn gynted ag sy'n ymarferol resymol.


Hysbysiad i gymryd absenoldeb tadolaeth (mabwysiadu o dramor)

Hysbysiad o hawl (mabwysiadu o dramor)

Cyn y gallwch gymryd absenoldeb tadolaeth, mae'n rhaid i chi roi hysbysiad ysgrifenedig i'ch rheolwr llinell ac i'r Tîm Absenoldeb o fewn 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae mabwysiadwr y plentyn yn cael yr hysbysiad swyddogol. Mae'n rhaid i'ch hysbysiad gadarnhau:

•    y dyddiad y cafodd y mabwysiadwr yr hysbysiad swyddogol; 
•    y dyddiad y disgwylir i'r plentyn gyrraedd Prydain (neu, os yw wedi'n barod, y dyddiad y cyrhaeddodd); ac 
•    eich bod yn bodloni'r gofynion o ran bod yn gymwys i gymryd absenoldeb tadolaeth a bod mabwysiadwr y plentyn wedi cael yr hysbysiad swyddogol.  

Dylai'r Asiantaeth Fabwysiadu ddarparu Tystysgrif Baru ar gyfer pob absenoldeb.

Dylech roi gwybod i'ch rheolwr a'r Tîm Absenoldeb drwy gwblhau'r ffurflen gais Ffurflen Gais Absenoldeb Tadolaeth 2026 neu drwy My View drwy My Forms o fewn saith diwrnod ar ôl cael gwybod am leoliad y plentyn gyda'r prif fabwysiadwr neu cyn gynted ag sy'n ymarferol resymol. 

Hysbysiad cyfnod absenoldeb (mabwysiadu o dramor) 

Bob tro rydych am gymryd cyfnod o absenoldeb tadolaeth, rhaid i chi roi hysbysiad ysgrifenedig pellach i'ch rheolwr llinell a'r Tîm Absenoldeb, sy'n cadarnhau: 

•    pryd rydych am ddechrau eich absenoldeb (gallwch ei gymryd mewn un bloc neu mewn dau floc ar wahân);
•    a ydych am gymryd un wythnos neu bythefnos o absenoldeb; ac 
•    mai diben yr absenoldeb yw gofalu am y plentyn neu gefnogi mabwysiadwr y plentyn.

Gallwch ddewis dechrau cyfnod o absenoldeb tadolaeth:

•    Ar y dyddiad y mae eich plentyn yn cyrraedd Prydain: Mae'n rhaid i'ch hysbysiad ynghylch cyfnod o absenoldeb ddod i law o leiaf 28 diwrnod cyn y dyddiad y disgwylir i'r plentyn gyrraedd Prydain. 
•    Ar ddyddiad a bennwyd ymlaen llaw: Ni ddylai'r dyddiad hwn fod yn gynharach na'r dyddiad pryd mae eich plentyn yn cyrraedd Prydain. Mae'n rhaid i'ch hysbysiad ynghylch cyfnod o absenoldeb ddod i law o leiaf 28 diwrnod cyn y dyddiad hwnnw a bennwyd ymlaen llaw.

Dylech roi gwybod i'ch rheolwr a'r Tîm Absenoldeb drwy gwblhau'r ffurflen gais Ffurflen Gais Absenoldeb Tadolaeth 2026 neu drwy My View drwy My Forms o fewn saith diwrnod ar ôl cael gwybod am leoliad y plentyn gyda'r prif fabwysiadwr neu cyn gynted ag sy'n ymarferol resymol. 

Rhaid i chi hefyd roi hysbysiad ysgrifenedig i'ch rheolwr llinell a'r Tîm Absenoldeb o'r dyddiad y daeth eich plentyn i Brydain o fewn 28 diwrnod ar ôl i'ch plentyn gyrraedd, neu hysbysiad ysgrifenedig na fydd y plentyn yn dod i Brydain cyn gynted â phosibl ar ôl i chi ddod i wybod am y ffaith honno.


Hysbysiad hwyr

Os yw amgylchiadau eithriadol yn golygu nad yw'n bosibl i chi fodloni'r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno hysbysiad fel y nodir yn y polisi hwn, byddwn yn derbyn hysbysiad yn hwyrach na hyn. Ymhlith yr enghreifftiau o amgylchiadau eithriadol y mae bod yn absennol o'r gwaith ar absenoldeb salwch neu ddarganfod beichiogrwydd yn hwyr iawn.

Yn yr amgylchiadau hyn, dylech roi gwybod i ni eich bod am gymryd absenoldeb tadolaeth cyn gynted ag y gallwch.
Os nad oes amgylchiadau eithriadol, ni fyddwch yn gallu cymryd absenoldeb tadolaeth. Fodd bynnag, byddwn yn trafod opsiynau eraill gyda chi, gan gynnwys eich bod chi a'ch partner yn newid i absenoldeb rhiant a rennir, eich bod yn archebu gwyliau blynyddol, neu gais am absenoldeb rhiant cyffredin di-dâl.


Newid eich cynlluniau absenoldeb tadolaeth

Os ydych wedi cyflwyno hysbysiad cyfnod absenoldeb ond yn dymuno canslo neu newid amser eich absenoldeb tadolaeth, rhaid i chi ofyn caniatâd eich rheolwr llinell a fydd yn hysbysu'r Tîm Absenoldeb o leiaf 28 diwrnod cyn y dyddiad gwreiddiol a nodwyd yn eich hysbysiad cyfnod absenoldeb, neu'r dyddiad dechrau diwygiedig, pa un bynnag sydd gynharaf.


Tâl tadolaeth

Wythnos 1 - Tâl tadolaeth uwch

Byddwch yn dal i gael eich talu ar eich cyfradd dâl arferol, cyn belled â bod gennych hawl i'r tâl (namyn tâl tadolaeth statudol, os ydych yn gymwys) wrth gymryd yr wythnos gyntaf o absenoldeb tadolaeth os:

• oes gennych hawl i gymryd absenoldeb tadolaeth;

• oes gennych o leiaf 26 wythnos o gyflogaeth barhaus gyda ni: 

  • ar ddiwedd y 15fed wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth (mewn sefyllfa enedigaeth); 
  • ar ddiwedd yr wythnos pryd hysbysir mabwysiadwr y plentyn ei fod yn cael ei baru ar gyfer mabwysiadu (ar gyfer mabwysiadu yn y DU); neu
  • ar ddiwedd yr wythnos pryd cafodd mabwysiadwr y plentyn yr hysbysiad swyddogol (ar gyfer mabwysiadu o dramor);

• ydych dal mewn cyflogaeth barhaus gyda ni ar y dyddiad y mae'r plentyn yn cael ei eni (mewn sefyllfa enedigaeth), yn cael ei leoli i'w fabwysiadu (ar gyfer mabwysiadu yn y DU) neu'n cyrraedd Prydain (ar gyfer mabwysiadu o dramor); ac

• rydych wedi cydymffurfio â'r gofynion hysbysu a thystiolaeth ac yn gallu darparu'r datganiadau fel y nodir yn y polisi hwn.

• ydych yn cadarnhau pryd rydych yn dymuno dechrau cael tâl tadolaeth uwch ar y ffurflen berthnasol i ddarparu hysbysiad cyfnod absenoldeb ar gyfer cymryd absenoldeb tadolaeth.

Wythnos 2 - tâl tadolaeth statudol 

 Mae tâl tadolaeth statudol yn daladwy yn ystod eich ail wythnos o gyfnod absenoldeb tadolaeth, cyn belled â bod gennych hawl iddo. 

Pennir cyfradd y tâl tadolaeth statudol gan y Llywodraeth ar gyfer y flwyddyn dreth berthnasol, neu ar 90% o'ch enillion wythnosol cyfartalog (pa un bynnag sydd is). 

Byddwch yn gymwys ar gyfer tâl tadolaeth statudol os:

• oes gennych hawl i gymryd absenoldeb tadolaeth;

• oes gennych o leiaf 26 wythnos o gyflogaeth barhaus gyda ni:

  • ar ddiwedd y 15fed wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth (mewn sefyllfa enedigaeth);
  • ar ddiwedd yr wythnos pryd hysbysir mabwysiadwr y plentyn ei fod yn cael ei baru ar gyfer mabwysiadu (ar gyfer mabwysiadu yn y DU); neu
  • ar ddiwedd yr wythnos pryd cafodd mabwysiadwr y plentyn yr hysbysiad swyddogol (ar gyfer mabwysiadu o dramor);

• nad yw eich enillion wythnosol cyfartalog yn llai na'r terfyn enillion is ar gyfer cyfraniadau yswiriant gwladol;

• ydych dal mewn cyflogaeth barhaus gyda ni ar y dyddiad y mae'r plentyn yn cael ei eni (mewn sefyllfa enedigaeth), yn cael ei leoli i'w fabwysiadu (ar gyfer mabwysiadu yn y DU) neu'n cyrraedd Prydain (ar gyfer mabwysiadu o dramor);

• ydych wedi cydymffurfio â'r gofynion hysbysu a thystiolaeth perthnasol ac yn gallu darparu'r datganiadau fel y nodir yn y polisi hwn; ac

 • rydych yn cadarnhau pryd rydych yn dymuno dechrau cael tâl tadolaeth statudol ar y ffurflen berthnasol i ddarparu hysbysiad cyfnod absenoldeb ar gyfer cymryd absenoldeb tadolaeth.

Rhagor o wybodaeth

Gallwn ofyn i chi gadarnhau dyddiad geni'r plentyn, y dyddiad lleoli ar gyfer mabwysiadu, neu'r dyddiad cyrraedd Prydain os nad ydych eisoes wedi darparu'r wybodaeth hon. Rhaid i chi ymateb i'n cais o fewn 28 diwrnod, neu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol. 


Absenoldeb ar gyfer Cymorth Mamolaeth/Mabwysiadu

Lle nad yw'r gweithiwr yn bodloni'r amodau cymhwyso ar gyfer tâl tadolaeth/mabwysiadu uwch neu statudol a nodir yn opsiynau wythnos 1 ac wythnos 2 uchod, gweler yr adran Absenoldeb ar gyfer Cymorth Mamolaeth/Mabwysiadu isod.

Mae Absenoldeb ar gyfer Cymorth Mamolaeth/Mabwysiadu yn berthnasol i weithwyr sydd wedi'u dewis gan y fam feichiog/prif fabwysiadwr: 

•    fel y gofalwr enwebedig; neu
•    i weithwyr sydd â llai na 26 wythnos o wasanaeth parhaus ar y 15fed wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth; 
•    yn achos gweithwyr sy'n mabwysiadu yn y DU sydd â llai na 26 wythnos o wasanaeth di-dor yn arwain i mewn i'r wythnos pryd y rhoddir gwybod i'r mabwysiadwr ei fod yn cael ei baru â phlentyn; 
•    yn achos gweithwyr sy'n mabwysiadu o dramor sydd â llai na 26 wythnos o wasanaeth di-dor yn arwain i'r wythnos pryd bydd y plentyn yn cyrraedd y DU. 

Caniateir un wythnos o Absenoldeb Cymorth Mamolaeth/Mabwysiadu, gyda thâl cyffredin, i riant biolegol y plentyn neu i bartner neu ofalwr enwebedig rhiant geni beichiog adeg y geni neu oddeutu'r adeg honno. 

I fod yn gymwys i gael absenoldeb cymorth mamolaeth/mabwysiadu, rhaid i'r gweithiwr sy'n gwneud cais am yr amser hwn fod yn brif gynorthwyydd i'r fam feichiog/prif fabwysiadwr a/neu'n ofalwr enwebedig y plentyn. 

Os yw'r awdurdod yn gwybod bod y rhiant biolegol/partner/cyd-fabwysiadwr yn bwriadu hawlio’i absenoldeb cymorth mamolaeth/mabwysiadu a/neu absenoldeb tadolaeth statudol, ni fydd angen 'gofalwr enwebedig'. 

(Gofalwr Enwebedig - bydd angen llythyr cefnogi gan y rhiant geni beichiog neu'r prif fabwysiadwr yn cadarnhau bod y gweithiwr wedi'i ddewis yn ofalwr enwebedig yn absenoldeb priod, partner neu gyd-fabwysiadwr â chyfrifoldeb rhiant).


Eich hawliau yn ystod absenoldeb tadolaeth

Yn ystod absenoldeb tadolaeth, bydd holl delerau ac amodau eich contract, heblaw cyflog arferol, yn parhau. Yn lle eich tâl byddwch yn cael tâl tadolaeth uwch/statudol fel y nodir uchod os ydych yn gymwys i'w gael. Fodd bynnag, bydd buddion eraill fel hawl i wyliau yn parhau i gronni a bydd cyfraniadau pensiwn yn parhau i gael eu talu.


Absenoldeb gofal newyddenedigol

Mae gennych hawl i gymryd absenoldeb gofal newyddenedigol yn ychwanegol at absenoldeb tadolaeth. Os ydych eisoes wedi dechrau cyfnod o absenoldeb tadolaeth, ond bellach yn gymwys i gael absenoldeb gofal newyddenedigol, gallwch gymryd eich absenoldeb gofal newyddenedigol ar ôl cwblhau eich absenoldeb tadolaeth, cyn belled â bod eich absenoldeb gofal newyddenedigol yn cael ei gymryd o fewn 68 wythnos i ddyddiad geni eich plentyn. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein polisi Absenoldeb Gofal Newyddenedigol 


Absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth

Os bydd mam neu fabwysiadwr y plentyn yn marw, efallai y bydd gennych hawl i gymryd absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth.
 
Rydym yn deall y bydd hwn yn gyfnod anodd iawn, ac rydym yn eich annog i gysylltu â'ch rheolwr llinell i gael rhagor o wybodaeth am absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth ac am unrhyw gymorth tosturiol ychwanegol y gallwn ei gynnig.


Dychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb gofalwyr

Yn dilyn eich absenoldeb tadolaeth, yn gyffredinol mae gennych yr hawl i ailddechrau gweithio yn yr un swydd ag o'r blaen a hynny ar delerau ac amodau nad ydynt yn llai ffafriol na'r telerau a fyddai wedi bod yn berthnasol pe na baech wedi bod yn absennol. Nid effeithir ar barhad eich cyflogaeth.


Amser i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer apwyntiadau cyn geni

Os oes gennych berthynas gymhwysol â pherson beichiog, mae gennych hawl statudol i gael amser o'r gwaith heb dâl er mwyn mynd gyda’r person i hyd at ddau apwyntiad cyn geni. 

Gallai hyn fod yn berthnasol i chi os mai chi yw priod neu bartner sifil y person beichiog, neu gallech fod yn byw gyda'r person beichiog mewn perthynas deuluol barhaol (ac nid ydych yn rhiant, tad-cu, mam-gu, chwaer, brawd, modryb nac ewythr i'r person). Hefyd byddwch yn gymwys i gael yr amser i ffwrdd os mai chi yw rhiant biolegol y plentyn disgwyliedig. 

I wneud cais am amser i ffwrdd i fynd gyda rhywun i apwyntiad cyn geni, gwnewch gais trwy My View a bydd eich rheolwr yn ei ystyried ac yn ei awdurdodi. 

Rhaid i'r apwyntiad cyn geni gael ei wneud yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig, bydwraig neu nyrs. Mae'r hawl i amser i ffwrdd o'r gwaith wedi'i chyfyngu i uchafswm o chwe awr a hanner ar gyfer pob apwyntiad. 

Dylech roi cymaint o rybudd i'ch rheolwr llinell â phosibl ynghylch pryd bydd angen yr amser i ffwrdd arnoch ar gyfer yr apwyntiadau cyn geni, a, lle bynnag y bo'n bosibl, ceisiwch eu trefnu'r tu allan i'ch oriau craidd neu cyn agosed ag y medrwch i ddechrau neu ddiwedd y diwrnod gwaith.


Amser i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer apwyntiadau mabwysiadu

Os ydych yn mabwysiadu plentyn ar y cyd, gallwch ddewis cael amser o'r gwaith, gyda thâl, ar gyfer hyd at bum apwyntiad mabwysiadu. Mae hawl gan y rhiant arall sy'n mabwysiadu gael amser o'r gwaith, heb dâl, ar gyfer hyd at ddau apwyntiad mabwysiadu. 

Nid oes hawl gan y rhiant sy'n cymryd amser i ffwrdd gyda thâl i gymryd absenoldeb tadolaeth mewn perthynas â'r plentyn yn ddiweddarach. 

I wneud cais am amser i ffwrdd i fynd gyda rhywun i apwyntiad mabwysiadu, gwnewch gais trwy My View

Mae'n rhaid bod yr apwyntiad wedi'i drefnu gan asiantaeth fabwysiadu neu ar ran yr asiantaeth. Mae'r hawl i amser i ffwrdd o'r gwaith wedi'i chyfyngu i uchafswm o chwe awr a hanner ar gyfer pob apwyntiad.

Dylech roi cymaint o rybudd i'ch rheolwr llinell â phosibl ynghylch pryd bydd angen yr amser i ffwrdd arnoch ar gyfer yr apwyntiadau mabwysiadu, a, lle bynnag y bo'n bosibl, trefnwch yr apwyntiadau'r tu allan i'ch oriau craidd neu cyn agosed ag y medrwch i ddechrau neu ddiwedd y diwrnod gwaith.


Diogelu Data

Wrth ddelio ag absenoldeb tadolaeth a thâl, byddwn yn prosesu unrhyw ddata personol a gesglir yn unol â'n canllawiau Diogelu Data' a'n Hysbysiadau Preifatrwydd.. Yn benodol dim ond y wybodaeth bersonol sy'n ofynnol byddwn yn ei chofnodi, a byddwn yn cadw'r wybodaeth cyhyd ag y bo angen yn unig.


Absenoldeb ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am opsiynau absenoldeb eraill, edrychwch ar y Polisi Rhannu Absenoldeb Rhiant.  

Ar gyfer absenoldeb tadolaeth yn achos mabwysiadu, edrychwch ar y Polisi Mabwysiadu a Benthyg Croth ar gyfer rhieni mabwysiadol.


Adfer pensiwn oherwydd absenoldeb tadolaeth heb dâl

Fel aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gallwch adfer unrhyw ‘bensiwn a gollwyd’ sy'n deillio o gyfnod o absenoldeb tadolaeth heb dâl, drwy dalu cyfraniadau ychwanegol dan drefniant Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol pan fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith. I wneud hynny, bydd angen ichi ddewis adfer y pensiwn a gollwyd cyn pen 30 diwrnod ar ôl dychwelyd i'r gwaith. Os byddwch yn dewis gwneud hynny o fewn y cyfnod a bennwyd ac os mai absenoldeb awdurdodedig heb dâl oedd y rheswm am yr absenoldeb, rhennir y gost â'r Awdurdod (1/3 i'r aelod a 2/3 i'r Awdurdod). 

Fodd bynnag, os byddwch yn dewis gwneud hynny mwy na 30 diwrnod ar ôl y dyddiad ar y slip cyflog sy'n dangos y didyniad yn sgil absenoldeb heb dâl, byddwch chi, yr aelod, yn ysgwyddo'r costau i gyd. 

Os ydych yn dymuno adfer y pensiwn a gollwyd yn ystod eich cyfnod o absenoldeb tadolaeth heb dâl, bydd angen ichi lenwi ffurflen gais ar-lein drwy'r gyfrifiannell ar-lein ar dudalen Absenoldeb o'r Gwaith gwefan Cronfa Bensiwn Dyfed.  Cyn defnyddio'r gyfrifiannell ar-lein, mae'n rhaid bod gennych wrth law y tâl pensiynadwy a gollwyd am eich cyfnod o absenoldeb heb dâl/gweithredu diwydiannol (cewch ofyn i'r gyflogres am y wybodaeth hon drwy e-bostio CRPayroll@sirgar.gov.uk ) a'r dyddiad pan oeddech wedi dychwelyd i'r gwaith.

Sylwch y bydd angen ichi gwblhau'r manylion canlynol i gyd ar y gyfrifiannell ar-lein: 

Adran manylion personol – cwblhewch bob maes, sef 1 – 7 (y wybodaeth y mae'n rhaid ei bod gennych i gwblhau'r adran hon yw eich rhif yswiriant gwladol a'ch rhif cyflogres).

Manylion am ddyfynbris: - cwblhewch feysydd 8, 9, 10, 11 a 12.

Maes 8 – nodwch y tâl pensiynadwy a gollwyd – dyma'r swm a ddangosir ar eich slip cyflog am dynnu'r absenoldeb heb dâl.

Maes 9 – nodwch y rheswm am yr absenoldeb – cliciwch ar 'absenoldeb awdurdodedig heb dâl' 'absenoldeb awdurdodedig heb dâl' yn y gwymplen.

Maes 10 – adran yn ystod absenoldeb – cliciwch ar 'prif adran' ("main section") yn y gwymplen (oni bai eich bod wedi dewis cyfrannu o dan Adran 50/50 o'r Cynllun).

Maes 11 – diwrnod olaf yr absenoldeb – nodwch ddyddiad olaf yr absenoldeb heb dâl a gymerwyd yn ystod y mis perthnasol. Os mai 'absenoldeb awdurdodedig heb dâl' yw'r rheswm dros yr absenoldeb, a'ch bod yn cyflwyno'r cais cyn pen 30 diwrnod o'r dyddiad a nodwyd ar y slip cyflog sy'n dangos yr absenoldeb heb dâl a ddidynnwyd, cliciwch ar y blwch '30 diwrnod yn amherthnasol' "30 day override" (bydd angen i'ch cyflogwr gadarnhau hyn).

Maes 12 – dull talu – cliciwch ar 'tynnu cyfandaliad' 'lump sum deduction' yn y gwymplen.

Yn olaf, cliciwch ar ‘Cael Dyfynbris’ ("Get Quote") i gyfrifo cost prynu pensiwn a gollwyd – bydd hyn yn ymddangos yn yr adran ganlyniadau ar ochr dde'r dudalen - gweler isod:

Cost y cyfandaliad i'r aelod cyn gostyngiad treth    £ xxx.xx

Sylwch y gallwch hefyd ddewis prynu'r pensiwn a gollwyd drwy dalu'r cyfraniadau pensiwn ychwanegol dros sawl blwyddyn gyfan, ond bydd yn ofynnol ichi gael archwiliad meddygol (gan Ymarferydd Meddygol Cofrestredig) a chael tystysgrif, a thalu am hynny eich hun, i dystio eich bod mewn iechyd da, cyn y gellir derbyn eich cais.

Ar ôl cwblhau'r camau uchod, os ydych yn dal i ddymuno bwrw ymlaen â phrynu'r pensiwn a gollwyd, bydd angen ichi ddilyn y camau canlynol: 

Cam 1 - bydd angen ichi lawrlwytho'r ffurflen ar-lein drwy dicio'r blwch ‘Cais’ 'Application' sy'n cadarnhau bod y wybodaeth a nodwyd yn gywir a'ch bod wedi darllen a deall y ‘Telerau ac Amodau’  mewn perthynas â'ch ceisiadau am bensiwn ychwanegol.

Cam 2 - cliciwch ar y botwm ‘cyflwyno’ ("submit") yng nghornel dde waelod y dudalen. Bydd hyn yn trosglwyddo'r manylion rydych wedi'u nodi i ddogfen pdf. 

Cam 3 - llofnodwch y datganiad ar y ffurflen hon a'i hanfon drwy e-bost neu drwy'r post yn syth i: 

Blwch post CR Payroll (CRPayroll@sirgar.gov.uk ) neu drwy'r post i Adnoddau Dynol/Y Gyflogres, Cyngor Sir Caerfyrddin. 3 Heol Spilman, Caerfyrddin SA31 1LE.

Os na fyddwch yn penderfynu adfer eich 'pensiwn a gollwyd', bydd y buddion pensiwn rydych wedi eu cronni yn ystod Blwyddyn y Cynllun (1 Ebrill tan 31 Mawrth) pryd yr oeddech ar gyfnod o absenoldeb heb dâl, yn gyfatebol is o ganlyniad. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar wefan Cronfa Bensiwn Dyfed.


Gam-drin y polisi Gadael Tadolaeth

Os camddefnyddir y cynllun hwn mewn unrhyw fodd, ymdrinnir â hynny'n unol â Camau disgyblu y Cyngor. Mae enghreifftiau o gamddefnyddio'n cynnwys:

• Cymryd absenoldeb at ddibenion heblaw'r rheiny sydd wedi'u nodi yn y polisi hwn. Yn gyffredinol digwydd hyn lle bo rhywun arall heblaw'r gweithiwr â'r prif gyfrifoldeb dros y plentyn.

• Gwneud datganiad ffug o ran yr hawl i gael absenoldeb rhiant, er enghraifft y berthynas â'r plentyn neu'r prif fabwysiadwr. 

 


Sicrhau cyfle cyfartal

Rhaid i bawb fabwysiadu agwedd gadarnhaol, agored a theg a gofalu y cedwir at Cydroddoldeb ac Amrywiaeth yr Awdurdod ac y caiff ei weithredu’n gyson heb ystyried hil, lliw, cenedligrwydd, gwreiddiau ethnig neu genedlaethol, iaith, anabledd, crefydd a chred neu ddiffyg cred, oed, rhyw, ailbennu rhywedd, hunaniaeth neu fynegiant o ran rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, mamolaeth, statws o ran bod yn rhiant neu o ran priodas/partneriaeth sifil.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas â chymhwyso’r polisi a’r weithdrefn a geir yma, cysylltwch ag aelod o’r Tîm Rheoli Pobl a fydd, os oes angen, yn sicrhau bod y polisi/y weithdrefn yn cael ei (h)adolygu’n briodol.

Os oes angen copi o'r cyhoeddiad hwn arnoch mewn fformat arall, cysylltwch â Gwasanaethau Pobl drwy anfon e-bost at CHR@sirgar.gov.uk