Cysylltiadau â’r Gweithwyr
Diweddarwyd y dudalen: 31/05/2023
Mae ‘Cysylltiadau â’r Gweithwyr’ yn cyfeirio at y berthynas a rennir ymhlith ein gweithwyr, ein hundebau llafur cydnabyddedig a’n sefydliad.
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gefnogi a chynnal amgylchedd iach yn y gwaith, i beidio â hybu gwrthdaro ac i ysgogi perthynas iach yn ein gweithle. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod ein hegni’n canolbwyntio ar ddarparu a gwella ein gwasanaethau er budd y cyhoedd yr ydym yn eu gwasanaethu.
Nod y polisïau a’r gweithdrefnau sydd wedi’u cynnwys yn yr adran hon yw cefnogi a chynnal perthynas waith gadarnhaol rhwng yr holl bartïon. Gellir ceisio cyngor gan eich rheolwr llinell, y Tîm Adnoddau Dynol neu eich Cynrychiolydd Undeb Llafur cydnabyddedig.
Cytundeb Amser Cyfleusterau Undebau Llafur
Mae gennym berthnasoedd gweithio da rhwng Aelodau Etholedig, rheolwyr a’n gweithwyr. Rydym yn cefnogi system o gydfargeinio i ddatrys materion sy’n effeithio ar ein gweithlu ac er mwyn cynnal y trefniant hwn byddem yn annog ein holl weithwyr i ymuno ag Undeb Llafur priodol.
Fel gweithiwr a chynrychiolydd undeb ar ran un o’r Undebau Llafur a gydnabyddir gennym ni mae gennych hawl i amser rhesymol o’r gwaith yn ystod oriau gwaith, â thâl, i gyflawni rhai dyletswyddau a chael hyfforddiant sy’n gysylltiedig â’r Undeb Llafur.
Diben y Cytundeb hwn yw sefydlu fframwaith i sicrhau bod anghenion y gwasanaeth yn cael eu gwarchod gan sicrhau ar yr un pryd bod anghenion cynrychiolwyr undebau llafur yn cael eu cydnabod a’u diwallu.
Darllenwch y Cytundeb Amser Cyfleusterau Undebau Llafur (.pdf) i gael manylion pellach gan gynnwys ei gwmpas ac egwyddorion cyffredinol.