Canllawiau Polisi a Gweithdrefnau Disgyblu Prif Swyddogion

8. Apeliadau

Nid yw'r Pwyllgor Apêl wedi'i grybwyll yn y Rheoliadau Rheolau Sefydlog ond mae ganddo bwrpas ymarferol eto mewn perthynas â'r weithdrefn.  O ran panel apeliadau Cyngor Sir Caerfyrddin, bydd hyn yn adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol a nifer yr aelodau ar y Pwyllgor Ymchwilio perthnasol.  Ni ddylai aelodau'r Pwyllgor Apêl fod yn aelodau o'r Pwyllgor Ymchwilio.  Rhaid i hyn gynnwys un aelod o'r Cabinet, ond ni ddylai mwy na hanner aelodau'r pwyllgor fod yn aelodau o'r Cabinet.