Y Broses Achwyniadau o Ran Graddio Swyddi - Mawrth 2023
2. Gwerthusiadau Newydd neu Ail-werthusiadau
Nawr bod pob swydd NJC o fewn yr Awdurdod wedi cael ei graddio, dim ond ar ddau achlysur y dylid bod angen gwerthuso swyddi:
• Pan fydd swydd newydd yn cael ei chreu
• Pan fydd dyletswyddau a chyfrifoldebau swydd gyfredol yn newid yn sylweddol
Does dim ffordd i unigolion apelio yn erbyn eu gradd. Serch hynny, rydym yn cydnabod y bydd gweithwyr weithiau’n teimlo bod proffil a gradd eu swydd bellach ddim yn adlewyrchu’r rôl, felly bwriad y nodiadau canllaw hyn yw darparu llwybr i reolwyr ei ddilyn os oes problem yn codi.
Yn aml, nid y radd ei hun yw’r broblem ond bod y gweithiwr yn teimlo bod y proffil swydd bellach ddim yn adlewyrchu’r dyletswyddau.
Mae rheolwyr yn cael eu hatgoffa y dylid dod o hyd i unrhyw gyllid ar gyfer codi graddau o fewn eu cyllidebau eu hunain. Dylid manylu ar ffynhonnell y cyllid yn Adroddiad y Swyddog Dirprwyedig sy’n cyd-fynd â’r cais am radd newydd.
