Y Polisi a’r Weithdrefn Anghydfodau Torfol - Mehefin 2026

1. Cyflwyniad

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ceisio sicrhau bod ei bolisïau a'i weithdrefnau yn darparu triniaeth deg i’w holl weithwyr. Fodd bynnag, mewn unrhyw sefydliad mor fawr ac mor gymhleth â'r Cyngor Sir, gall anghydfodau torfol godi serch hynny.  Datblygwyd y polisi hwn a'r weithdrefn hon, felly, ar ôl trafod gyda'r undebau llafur cydnabyddedig, er mwyn darparu modd i'r undebau llafur hynny a'r Cyngor Sir geisio datrys unrhyw anghydfodau a allai godi yng nghyswllt grwpiau o weithwyr.


2. Diffiniad

At ddibenion y ddogfen hon, y diffiniad o "anghydfod torfol" yw anghydfod y ceir hysbysiad yn ei gylch gan undeb llafur cydnabyddedig, yn unol â'r weithdrefn anghydfodau torfol, ar ran grŵp o weithwyr y Cyngor Sir.


3. Cefndir Cyfreithiol

Cynhwyswyd y rheidrwydd cyfreithiol ar ran y cyflogwr i feddu ar ddull ffurfiol o ddelio gydag achwyniadau gweithwyr gyntaf yn Neddf Cysylltiadau Diwydiannol 1971, ac mae bellach wedi'i ymgorffori yn Neddf Hawliau Cyflogaeth 1996, Deddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999, ac fel y'i diweddarwyd gan Ddeddf Cyflogaeth 2002 diwygiedig.


4. Datganiad Polisi

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymroddedig i ddatrys anghydfodau torfol yn deg a chyn gynted â phosibl. Nod y Weithdrefn Anghydfodau Torfol yw datrys anghydfodau mor agos at y tarddiad â phosibl.

Bydd ymrwymiad i'r polisi hwn a'r weithdrefn hon yn golygu bod y ddau barti yn barod i archwilio a thrafod testun yr anghydfod a chyd-drafod ffyrdd posibl o ddatrys yr anghydfod ar y cyd, er lles pennaf pawb dan sylw.


5. Cymhwyso

Ni fydd y Cyngor Sir yn cydnabod anghydfod ond os yw wedi'i gyflwyno gan undeb llafur cydnabyddedig ar ran y grŵp o weithwyr sydd mewn anghydfod ynghylch materion yn codi o'u cyflogaeth.

Rhaid i'r weithdrefn fod yn ddigon hyblyg i ganiatáu i'r cam ffurfiol cyntaf gael ei wrando gan aelod o'r rheolwyr sydd â statws cyfatebol i reolwr y gweithiwr os yw'r anghydfod yn erbyn y rheolwr neu'n ymwneud â chwyn yn erbyn y rheolwr a fyddai fel arfer yn gwrando ar anghydfod ar y lefel honno. 

Bydd y ddau barti yn derbyn bod rhaid i'r arferion gwaith rheolaidd oedd mewn grym cyn yr anghydfod barhau i weithredu nes bod cytundeb, a bydd y ddau barti yn cydweithio i sicrhau y cedwir at ysbryd y cymal hwn, ac eithrio lle byddai parhau â'r arfer presennol yn achosi perygl, neu lle mae rhwymedigaethau statudol yn berthnasol. Ni fydd y cymal uchod yn berthnasol mewn sefyllfaoedd lle gwneir newidiadau i drefniadau gwaith, ac mae'r newid yn unol â chontractau cyflogaeth megis newid canolfan, er enghraifft.

Ni chynhelir streic nac unrhyw fath o weithredu diwydiannol tra bod y weithdrefn hon ar waith.

Dylid caniatáu amser rhesymol o'r gwaith i weithwyr sydd am fwrw ymlaen ag anghydfod torfol, fel eu bod yn gallu ceisio cyngor eu cynrychiolydd undeb llafur. Rhaid sicrhau caniatâd y rheolwr ymlaen llaw, ac yn amodol ar anghenion gweithredu’r gwasanaeth, ni wrthodid rhoi hynny'n afresymol.


6. Cwmpas

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i’r holl weithwyr gan gynnwys athrawon a gyflogir yn ganolog ond nid yw’n cynnwys staff sy'n rhan o weithlu ysgolion a reolir yn lleol, y mae gweithdrefn ar wahân yn berthnasol iddynt. Yn absenoldeb polisi a gytunwyd yn lleol gan yr ysgolion unigol dylid dilyn egwyddorion y polisi hwn. 

Nid yw'n cynnwys: achwyniadau unigol, graddio swyddi, materion disgyblu, peidio â chadarnhau cyflogaeth yn ystod cyfnodau prawf, achwyniadau cyflog cyfartal, materion y byddai'n fwy priodol delio gyda nhw o dan bolisi neu weithdrefn arall, nac unrhyw faterion torfol y mae trefniadau bargeinio torfol mwy helaeth yn bodoli ar eu cyfer, e.e. y Grŵp Cysylltiadau â'r Gweithwyr (ERG).

Dylid ymdrin â chwynion am fwlio neu aflonyddu o dan Ganllawiau Safonau Ymddygiad yr Awdurdod yn y Gweithle.  Dylai gweithwyr sy'n mynegi pryder o dan Ddeddf Datgelu er Budd y Cyhoedd gyfeirio at y Polisi Datgelu Camarfer. 

Ni dderbynnir unrhyw anghydfodau torfol sy'n ymwneud â materion dros dri mis yn ôl na rhai a fu'n destun anghydfod rhwng Undeb Llafur ac unrhyw un o Adrannau'r Cyngor ar unrhyw adeg yn ystod y 12 mis blaenorol, oni bai bod unrhyw gamau y penderfynwyd arnynt gan y rheolwyr i ymdrin â'r anghydfod hwnnw heb gael eu gweithredu.


7. Gweithdrefn Ffurfiol ar gyfer Datrys Anghydfodau Torfol

Cam 1

Lle na fu modd datrys materion yn anffurfiol, bydd y cynrychiolydd undeb llafur sy'n gweithredu ar ran y grŵp o weithwyr sydd ag achwyniad yn codi'r achwyniad torfol gyda'r rheolwr llinell perthnasol sy'n gyfrifol am y gweithwyr dan sylw, trwy gwblhau'r  Atodiad-1-gweithdrefn-ffurfiol-anghydfod-torfol.pdf, gan nodi natur a chwmpas y mater a'r datrysiad a gynigir. Dylid anfon copi at y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) er gwybodaeth.  Rhaid i'r rheolwr gydnabod ei fod wedi derbyn yr anghydfod torfol cyn pen 7 diwrnod calendr.

Wrth archwilio'r cyflwyniad ysgrifenedig, bydd y rheolwr llinell perthnasol yn ystyried a yw'r mater yn effeithio ar unrhyw adeiniau eraill o fewn yr Adran honno, ac yn ceisio cyngor gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) neu'r cynrychiolydd a enwebir ganddo/ganddi.

Os na fydd y mater yn effeithio ar fwy nag un Adain, rhaid i'r rheolwr llinell perthnasol alw cyfarfod gyda'r undeb llafur.  Dylai hyn ddigwydd fel arfer cyn pen 21 diwrnod calendr i dderbyn yr anghydfod ffurfiol, gyda'r amcan o geisio sicrhau datrysiad. Bydd cynrychiolydd yr undeb llafur yn derbyn ymateb ysgrifenedig yn cadarnhau'r canlyniad a'r rhesymau am y penderfyniad cyn pen 14 diwrnod calendr arall wedi'r cyfarfod. Dylid anfon copi at y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) er gwybodaeth. 

Os yw'r mater yn effeithio ar fwy nag un Adain yn yr un adran, bydd y rheolwr llinell yn trafod y mater gyda'r rheolwyr adain perthnasol cyn cynnull cyfarfod. Lle bo hynny'n briodol, gall rheolwyr adain perthnasol fynychu'r cyfarfod gyda chynrychiolydd yr undeb llafur yn ogystal. 

Wedi trafod gyda'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) neu gynrychiolydd enwebedig, os deuir i'r casgliad bod y mater yn effeithio ar Adrannau eraill, bydd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) yn trefnu cyfarfod o swyddogion perthnasol yr adrannau dan sylw a'r undeb(au) llafur, gyda'r amcan o geisio sicrhau datrysiad. Bydd yr amserau ymateb yn unol â 6.3 uchod.  Fel arall, gellir cyfeirio'r mater at Fforwm Corfforaethol Cysylltiadau â'r Gweithwyr i'w ystyried/ddatrys.

Os nad yw'r grŵp o weithwyr yn fodlon ar y canlyniad, gallant godi'r anghydfod torfol yn y cam nesaf trwy eu cynrychiolydd undeb llafur. Dylid gwneud hyn yn ysgrifenedig i'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) cyn pen 14 diwrnod calendr i dderbyn penderfyniad y rheolwr.

Os na dderbynnir ymateb ysgrifenedig gan gynrychiolydd/gynrychiolwyr achrededig yr undeb llafur o fewn yr amser a bennwyd, gellir cyfeirio'r mater hefyd at ail gam y weithdrefn.

Cam 2

Gall cynrycholydd/cynrychiolwyr achrededig yr undeb llafur godi'r anghydfod torfol yn ysgrifenedig gyda'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi). Dylid gwneud hyn trwy lenwi'r Atodiad-1-gweithdrefn-ffurfiol-anghydfod-torfol.pdf.  Dylid amgáu copïau o unrhyw ohebiaeth gyda'r llythyr. Lle bo'r partïon wedi cytuno nad yw trafod yn y cam cynharach yn briodol, ac y dylid cofrestru'r anghydfod yn uniongyrchol yn yr ail gam, dylai cynrychiolydd/cynrychiolwyr achrededig yr undeb llafur ysgrifennu mewn modd tebyg at y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl), a fydd yn cydnabod ei fod wedi derbyn yr anghydfod torfol cyn pen 7 diwrnod calendr.

Bydd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) neu gynrychiolydd enwebedig yn cynnull Panel Apeliadau i ystyried yr apêl gyda'r cynrychiolydd/cynrychiolwyr undeb llafur, mewn ymgais i gael hyd i ddatrysiad i'r mater sy'n dderbyniol i'r ddwy ochr. Bydd y Panel Apeliadau yn cynnwys dau Gyfarwyddwr (neu'r Pennaeth Gwasanaeth a enwebwyd ganddynt). Dylid cynnal y Gwrandawiad Apêl ar adeg resymol ac mewn man rhesymol.  Dylai hyn ddigwydd cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol, a dylai cynrychiolydd/cynrychiolwyr yr undeb llafur gymryd pob cam rhesymol i fod yn bresennol. Bydd Partner Busnes Adnoddau Dynol yn cynghori’r Panel.

Rhoddir sylw llawn i'r wybodaeth a gyflwynwyd gan y ddwy ochr i gefnogi eu safbwyntiau a'u cynigion ar y mater(ion) dan sylw ac os yw hynny'n briodol, gellir gofyn am ddatganiadau ysgrifenedig a'u cyfnewid cyn y cyfarfod.

Bydd penderfyniad y Panel Apeliadau yn derfynol a bydd manylion unrhyw gytundeb y deuir iddo, neu grynodeb o safbwynt y partïon dan sylw, fel y'u cyflwynir gan y naill ochr a'r llall, ynghyd â'r penderfyniad a'r argymhellion a wnaed gan y Panel Apeliadau, yn cael eu cofnodi'n ffurfiol a'u cyflwyno i'r ddau barti cyn pen 7 diwrnod calendr i'r cyfarfod.


8. Ystyriaethau cyffredinol

Gellir amrywio'r cyfnodau amser i reolwyr gynnull cyfarfodydd a hysbysu ynghylch penderfyniadau, fel y nodwyd ym mhob cam uchod, trwy gytundeb o'r ddeutu os bydd rheswm/rhesymau y gellir eu cyfiawnhau yn bodoli.


9. Cam Cymodi o’r tu allan

Os methir â chytuno yng Ngham 2, Atodiad-2-gweithdrefn-ffurfiol-anghydfod-torfol-cyfeirio-at-acas.pdf gall y naill barti neu'r llall gynnig bod y mater yn cael ei gyfeirio at ACAS ar gyfer cymodi. Bydd unrhyw atgyfeiriad o'r fath yn gofyn bod y cylch gwaith yn cael ei gytuno ar y cyd ymlaen llaw.


10. Datrysiad y Cytunir arno

Bydd y rheolwyr a'r undeb(au) llafur yn ymdrechu i sicrhau bod telerau unrhyw ddatrysiad y cytunir arno yn unrhyw un o'r camau hyn yn cael eu harsylwi a'u gweithredu.


11. Cyfrinachedd

Mae'r partïon yn ymrwymo i beidio â datgelu i'r cyfryngau unrhyw agweddau ar y cyd-drafodaethau sy'n ymwneud â'r anghydfod torfol hyd nes bod y ddau barti yn cytuno bod y weithdrefn wedi'i disbyddu.


12. Cyfarfodydd Achwyniad Torfol

Yn ystod cyfarfod achwyniad torfol, dylid caniatáu i gynrychiolydd yr undeb llafur esbonio'r gŵyn ar ran y gweithwyr dan sylw, a rhoi ei farn ynghylch sut dylid ei datrys. Os bydd angen, gall y Swyddog sy'n cadeirio'r cyfarfod achwyniad torfol ddymuno gohirio'r cyfarfod fel bod modd iddo/iddi gasglu rhagor o wybodaeth neu dderbyn cyngor. Cytunir ar ddyddiad ailgynnull y cyfarfod bryd hynny os bydd modd. 
 
Wedi'r cyfarfod, dylid anfon ymateb ysgrifenedig at gynrychiolydd yr undeb llafur cyn pen 14 diwrnod calendr.


13. Achwyniadau gweithwyr sydd wedi gadael yr Awdurdod neu syn’n gadael yr Awdurdod yn ystod y Weithdrefn

Lle bynnag y bo modd, dylid delio gydag achwyniad torfol yn unol â'r weithdrefn hon cyn i'r gweithiwr/gweithwyr adael eu cyflogaeth. Fodd bynnag, os bydd gweithiwr/gweithwyr yn gadael eu cyflogaeth gyda’r Awdurdod ran o'r ffordd drwy'r weithdrefn Anghydfod Torfol, ni fydd yr Awdurdod o dan rwymedigaeth i wrando ar yr anghydfod.
 
O dan yr amgylchiadau hynny, dylid ceisio cyngor gan y Partner Busnes Adnoddau Dynol.


14. Cadw cofnodion

Rhaid cadw cofnodion ysgrifenedig ar hyd y broses achwyniad torfol, gan gynnwys:

  • Copi o'r achwyniad ysgrifenedig ac apeliadau dilynol lle bo hynny'n berthnasol.
  • Copïau o nodiadau cyfarfodydd.
  • Copi o'r ymateb(ion) ysgrifenedig a roddwyd i'r gweithiwr.
  • Manylion y camau gweithredu a gymerwyd.

Dylid cadw cofnodion ar gyfer pob gweithiwr sy'n ymwneud â'r achwyniad torfol yn eu ffeiliau personol.

Dylid trin y cofnodion fel dogfennau cyfrinachol a'u cadw'n unol â Deddf Diogelu Data a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Anfonir copïau o hysbysiadau'r cyfarfodydd achwyniad torfol, nodiadau'r cyfarfodydd, y llythyr ymateb etc. at y swyddog Undeb Llafur sy'n cynrychioli'r achwyniad torfol ar ran y gweithwyr dan sylw, oni bai eu bod yn nodi fel arall yn ysgrifenedig.


15. Hyfforddiant a Chymorth

Dylai pob Swyddog sy'n rhan o'r broses achwyn dderbyn cefnogaeth a hyfforddiant priodol. Darperir hyn fel rhan o Raglen Dysgu a Datblygu Corfforaethol. Cysylltwch â’r Tîm Dysgu a Datblygu i gael rhagor o wybodaeth: dysgudatblygu@sirgar.gov.uk  

 

 


16. Monitro’r Polisi hwn a’r Weithdrefn hon

Bydd y Tîm Gwasanaethau Pobl  yn monitro'r defnydd o'r polisi hwn a'r weithdrefn hon. Rhaid i bob adran sicrhau eu bod yn rhoi gwybod i’r Tîm Gwasanaethau Pobl am bob achwyniad ffurfiol ac anffurfiol a godwyd.


17. Sicrhau Cyfle Cyfartal

Mae’n rhaid i bawb fabwysiadu dull cadarnhaol, agored a theg a sicrhau y cydymffurfir â Pholisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Awdurdod a'i gymhwyso'n gyson i bawb heb ystyried hil, lliw, cenedl, tarddiad ethnig neu genedlaethol, iaith, anabledd, crefydd a chred neu ddiffyg cred, oedran, rhyw, ailbennu rhywedd, hunaniaeth rhywedd a mynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, mamolaeth, rhieniol, statws priodas neu bartneriaeth sifil.

Os oes gennych bryderon ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth yng nghyswllt gweithredu'r polisi a'r weithdrefn hon, cysylltwch ag un o'r Tîm Gwasanaethau Pobl a fydd yn sicrhau, os bydd angen, fod y polisi neu'r weithdrefn yn cael eu hadolygu yn unol â hynny.

Os oes angen copi o'r cyhoeddiad hwn arnoch mewn fformat arall, a fyddech cystal â chysylltu â Rheoli Pobl drwy ffonio est 6184 neu drwy anfon e-bost at CHR@sirgar.gov.uk